Heddiw, mae YesCymru yn talu teyrnged i Alex Salmond, arweinydd llawn gweledigaeth y mae ei ymroddiad diflino dros achos annibyniaeth i’r Alban wedi ysbrydoli mudiadau ymhell y tu hwnt i ffiniau’r Alban.
I ni yng Nghymru, mae ei daith wedi bod yn ffagl o oleuni a gobaith, sydd wedi profi bod y freuddwyd o hunanlywodraeth nid yn unig yn bosibl ond yn werth ymdrechu amdani gyda phob owns o argyhoeddiad.
Yn ystod refferendwm dros annibyniaeth yr Alban yn 2014, dangosodd arweinyddiaeth Alex Salmond i’r byd beth yw grym democratiaeth a hawl cenedl i bennu ei dyfodol ei hun. Roedd ei ddewrder yn herio’r status quo ac yn llunio gweledigaeth am gymdeithas decach, fwy cyfiawn yn atseinio’n ddwfn ynom yma yng Nghymru sy’n rhannu’r un dyhead ar gyfer ein gwlad ein hunain.
Fe edrychon ni yn YesCymru yn 2014 at brofiad yr Alban am ysbrydoliaeth, a bu gwaith Alex yn oleuni clir a roddodd gyfeiriad i'm hymgyrch.
Dangosodd nad rhywbeth gwleidyddol yn unig yw sicrhau annibyniaeth; mae’n ymwneud â grymuso cymunedau, adfer balchder cenedlaethol, ac adeiladu cymdeithas sy’n adlewyrchu gwerthoedd ac anghenion ei phobl.
Mae ei bwyslais ar gynwysoldeb, cyfiawnder cymdeithasol, ac urddas cenedlaethol wedi dod yn fodel ar gyfer ein dyheadau ein hunain am Gymru rydd, annibynnol.
Rydym yn cydnabod nad llinell syth yw’r llwybr at annibyniaeth—mae’n daith sy’n gofyn am benderfyniad, gwydnwch, a’r parodrwydd i ymgysylltu â phob llais, yn union fel y gwnaeth Alex. Mae ei etifeddiaeth nid yn unig yn y pleidleisiau a fwriwyd a’r dadleuon a gynhaliwyd, ond yn yr ysbryd o hunan-gred a ysgogodd mewn llawer bobol ar draws cenhedloedd yr ynysoedd hyn. Mae ei waith yn ein hatgoffa bod annibyniaeth yn fwy na nod gwleidyddol yn unig; mae’n ymgyrch a aned o galonnau pobl sy’n credu mewn dyfodol gwell i’w cenhedloedd.
Ar ran YesCymru a phawb yng Nghymru sy’n brwydro dros yr hawl i lunio ein tynged ein hunain, estynnwn ein diolch i Alex Salmond.
Mae eich gwaddol, Alex, yn parhau yn yr ymdrechu dros annibyniaeth i’r Alban, a bydd eich dylanwad i’w deimlo yma yng Nghymru wrth inni symud ymlaen yn ein hymgyrch ein hunain. Diolch yn fawr am ddangos inni fod annibyniaeth yn freuddwyd o fewn ein cyrraedd pan fydd gennym y dewrder i’w dilyn.
Gyda’n gilydd, rhaid parhau gyda'r weledigaeth gyffredin hon, gan weithio tuag at y dydd pan fydd yr Alban a Chymru'n gallu sefyll yn falch ac yn genhedloedd rhydd ar lwyfan y byd.