Mae YesCymru wedi condemnio penderfyniad Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol Andy Burnham i wrthod grymoedd pellach i Gymru, ac wedi cyhuddo San Steffan o anwybyddu dymuniad pobl Cymru a thrin y wlad fel pe na bai’n gymwys i fod yn gyfrifol am ei materion ei hun.
Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth, dywed Burnham nad yw wedi ei “argyhoeddi” gan yr achos dros ddatganoli grymoedd dros yr heddlu, cyfiawnder, Ystad y Goron nac isadeiledd y rheilffyrdd.
Daw’r penderfyniad er gwaethaf galwadau cyson i drosglwyddo’r grymoedd hyn i Gymru, gan gynnwys oddi wrth Llafur Cymru ei hun.

Dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd YesCymru:
“Nid plentyn yw Cymru. Dydy San Steffan ddim yn rhiant i ni.
“Ond dyna’n union fel rydyn ni’n cael ein trin. Mae disgwyl i ni ofyn am ganiatâd San Steffan i wneud penderfyniadau yn ein gwlad ein hunain.
“Mae Andy Burnham o blaid rhoi mwy o rymoedd i ranbarthau Lloegr, ond pan mae Cymru yn gofyn am gael reolaeth dros ei faterion ei hun, mae’n gwrthod.
“Pam bod San Steffan yn meddwl ei fod yn gwybod yn well na phobl Cymru beth sydd orau i’n gwlad?”
Mae Ystad y Goron yn enghraifft amlwg. Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru, ynghyd â’r Senedd yn cefnogi ei datganoli.
Mae datganoli Ystad y Goron yn bolisi swyddogol Llafur Cymru. Fe wnaeth arweinydd y blaid, Ken Skates, gadarnhau hynny yng nghynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf.
Ychwanegodd Rob Hughes:
“Mae pob un o'r cynghorau yng Nghymru eisiau datganoli Ystad y Goron. Mae'r Senedd eisiau hynny. Mae plaid y Prif Weinidog ei hun yng Nghymru eisiau hynny hyd yn oed!
“Ond mae Burnham yn meddwl ei fod yn gwybod yn well na nhw.
“Mae’r cyfoeth yn cael ei greu ar ein tiroedd a gan ein moroedd, ond mae San Steffan yn mynnu cadw rheolaeth arno. Mae’r union rymoedd yma gan yr Alban ers blynyddoedd. Pam na alla Cymru gael yr un peth?
“Mae’n fwy na dim ond Ystad y Goron. Mae rheolaeth dros blismona, cyfiawnder ac isadeiledd y rheilffordd, i gyd yn cael eu cadw dan reolaeth San Steffan.
“Pam bod yn rhaid i Gymru erfyn am rymoedd dros ei faterion ei hun? Pam bod yn rhaid i’n cynrychiolwyr etholedig orfod gofyn o hyd i wleidyddion yn Llundain am ganiatad i benderfynu ar bethau sy’n effeithio ar y bobl maen nhw’n eu cynrychioli?”
Mae YesCymru wedi cwestiynu ymrwymiad Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol i ddatganoli, wedi iddo gefnogi rhoi grymoedd pellach i ranbarthau Lloegr tra yn gwrthod trosglwyddo cyfrifoldebau allweddol i Gymru.
Ychwanegodd Rob Hughes:
“Mae Prif Weinidogion yn mynd a dod. Mae llywodraethau’n newid. Ond dydy agwedd San Steffan tuag at Gymru byth fel petai e’n newid.
“Waeth pwy sydd mewn grym, mae disgwyl i Gymru dderbyn beth bynnag mae San Steffan yn ei benderfynu sydd orau i ni.
“Mae gyda ni ein Senedd ein hunain, ein llywodraeth ein hunain a’n mandad democrataidd ein hunain. Ond pan mae'n dod i rhai o’r penderfyniadau pwysicaf, sy’n effeithio fwyaf ar ein gwlad, San Steffan sy’n cael y gair ola.
“Fydd San Steffan byth yn rhoi Cymru’n gyntaf. Fydd ein buddiannau ni byth yn cael blaenoriaeth gan San Steffan.
“Digon yw digon. Dylai ddim bod rhaid i ni erfyn ar San Steffan am yr hawl i redeg ein gwlad ein hunain.
“Mae Cymru’n haeddu gwell. Mae Cymru’n haeddu annibyniaeth.”