Bydd YesCymru yn cynnal 'gwrthdystiad brys' yng Nghaerdydd y penwythnos hwn yn dilyn penderfyniad Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol i rwystro trosglwyddo rhagor o bwerau i Gymru.
Mae gwrthdystiad y grŵp ymgyrchu, a gynhelir y tu allan i'r Senedd am 6pm ddydd Sadwrn hwn (28 Tachwedd), yn ymateb i Arweinydd y Blaid Lafur yn gwrthod datganoli pwerau dros seilwaith rheilffyrdd, Ystâd y Goron a chyfiawnder.

Mae gohebiaeth gan Andy Burnham wedi ennyn beirniadaeth gref gan Blaid Cymru a Llafur Cymru, gyda'r cyn-Brif Weinidogion Mark Drakeford a Carwyn Jones yn ymuno â'r côr o leisiau yn erbyn.
Wrth siarad cyn y brotest, dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd YesCymru:
“Allwn ni ddim goddef hyn mwyach - mae Andy Burnham yn trin Cymru â diffyg parch llwyr. Mae penderfyniad Arweinydd y Blaid Lafur unwaith eto wedi amlygu’r berthynas anghyfartal iawn rhwng Cymru a San Steffan. Mae’n codi cwestiynau sylfaenol ynghylch pwy sydd â grym yng Nghymru mewn gwirionedd a phwy sy’n cael penderfynu dyfodol ein gwlad. Er gwaethaf cael ein Senedd a’n llywodraeth ein hunain, mae Cymru’n parhau i gael ei gyfarwyddo gan wleidyddion yn Llundain o ran beth y mae gennym yr hawl i reoli a beth allwn ni ddim. Mae’n rhaid i ni brotestio nes ein bod yn cael ein clywed.”
“Yr unig ffordd i Gymru gael y pwerau sydd eu hangen arni er mwyn darparu bywydau gwell i’w phobl yw annibyniaeth. Mae’r angen am y refferendwm annibyniaeth hwnnw yn fwy brys nag erioed o’r blaen - mae ei angen arnom erbyn 2032 fan bellaf.”
Arweiniodd YesCymru ymgyrch i drosglwyddo rheolaeth dros Ystâd y Goron i Gymru - gyda phob un o’r 22 cyngor sir yn cefnogi’r alwad.
Ychwanegodd Rob Hughes:
“Er gwaethaf pob awdurdod lleol unigol, dan arweiniad gwahanol bleidiau, gan gynnwys Llafur, yn gofyn am bwerau i reoli Ystâd y Goron yng Nghymru - maen nhw i gyd wedi cael eu gwrthod gan Burnham. Mae'n glir iawn y bydd Rhif 10 - boed yn Rhif 10 y Gogledd neu'n Rhif 10 y De - bob amser yn ceisio rheoli asedau Cymru er ei fuddiannau ei hun, waeth beth fo dymuniadau pobl Cymru. Allwn ni byth ymddiried yn San Steffan.
“Nid anghytundeb am dosbarthu cyfrifoldebau'r llywodraeth yn unig yw hwn. Mae'n ymwneud â'r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Nid plentyn yw Cymru. Nid ein rhiant yw San Steffan. Os yw safbwynt San Steffan yw bod terfynau ar faint o gyfrifoldeb y gellir ymddiried yng Nghymru ag ef, yna rhaid i ni ofyn cwestiwn ehangach: beth yw pwynt parhau i geisio caniatâd gan system sy'n gwrthod cydnabod ein hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain?”
MANYLION Y BROTEST
- Dyddiad: Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026
- Amser: Ymgynnull 6pm
- Lleoliad: Y tu allan i'r Senedd, Bae Caerdydd
- Trefnydd: YesCymru