Rhwng mis Medi’r llynedd a mis Chwefror eleni gwelwyd diffyg ymddiriedaeth rhwng y Cyfarwyddwyr ar Gorff Llywodraethu Cenedlaethol (GLlC) YesCymru a rhai aelodau. Yn ystod y cyfnod hwn, ymadawodd y Prif Weithredwr o'r mudiad yn ogystal â sawl Cyfarwyddwr o GLlC.
I ddechrau'r broses o ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad, penderfynwyd lansio ymchwiliad annibynnol i'r broses o sut mae'r CLlC yn gwneud penderfyniadau a'r camau a gymerodd.
Mae’r ymchwiliad hwn, a gynhaliwyd 'heb ofn na ffafr' gan Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd bellach wedi dod i ben ac mae adroddiad ar y canfyddiadau wedi’i gyflwyno i’r CLlC a Chyngor Y Dirprwyon (ChyD), ac mae ar gael i’n holl aelodau drwy ein gwefan.
Mae Elfyn Llwyd wedi derbyn corff sylweddol o wybodaeth sy’n cynnwys Cofnodion Cyfarfodydd CLlC, e-byst gan aelodau, sgrinluniau o sgyrsiau testun, adroddiadau, gwybodaeth ariannol, dogfennaeth gyfreithiol, llythyrau i ac oddi wrth gyfreithwyr, a’r holl waith papur perthnasol.
Gwahoddwyd pob aelod o YesCymru a fu’n ymwneud â’r hyn a ddigwyddodd i gyfweliad fel rhan o’r ymchwiliad – manteisiodd y rhan fwyaf ohonynt ar y cyfle, tra gwrthododd eraill, ni wnaeth rhai ymateb, neu ni wnaethant ymateb o fewn yr amserlen.
Cynhaliodd Mr Llwyd, bargyfreithiwr amlwg o onestrwydd diamheuol, yr ymchwiliad eang hwn yn fanwl, a hoffai'r CLlC a ChyD ddiolch iddo am ei waith.
Mae CLlC a’r CyD YesCymru yn derbyn ei ganfyddiadau a’i argymhellion, a byddwn yn awr yn cychwyn ar y gwaith o'u gweithredu yn dilyn ymgynghoriad a’r aelodau.
Credwn fod elfennau o'r adroddiad sy'n ymwneud ag ymddygiad rhai unigolion yn siarad drostynt eu hunain, ac nid ydym am ychwanegu unrhyw sylw pellach.
Mae’r adroddiad yn dangos, mewn amgylchiadau anodd, bod mwyafrif CLlC, gan gynnwys y Cadeirydd, wedi cymryd camau rhesymol a chymesur i ddiogelu uniondeb a sicrhau iechyd ariannol y sefydliad yn unol â’r gyfraith a’n herthyglau cymdeithasiad. Canfuwyd bod yr honiadau difrifol a wnaed yn erbyn y Cadeirydd ac aelodau eraill o'r CLlC yn gwbwl ddi-sail. Mae’n amlwg eu bod wedi gweithredu’n onest ac er lles gorau YesCymru.
Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i dryloywder yn ogystal â’n penderfyniad fel sefydliad i ddysgu gwersi o’r gorffennol, i dyfu ac i wella.
Oherwydd y camau a gymerodd CLlC, mae YesCymru mewn sefyllfa ariannol ddiogel a chynaliadwy ac rydym mewn lle da i dyfu'r mudiad.
Credwn fod cyhoeddi’r adroddiad i'n haelodau yn tynnu llinell o dan y cyfnod anodd hwn a chredwn y gall, ac y bydd, YesCymru'n cryfhau o'i herwydd. Mae’n amser bellach i droi’r dudalen ac ysgrifennu pennod newydd, gyffrous yn hanes ein mudiad.
Mae’r CLlC, bellach yn gytûn, ac mae ein ffocws ar fynd allan i'n cymunedau ac ymdrechu'n galetach dros Gymru rydd ac annibynnol. Mae hwn yn gyfle i adnewyddu ac adfywio ein mudiad ac i ailddatgan ein hymrwymiad i Gymru tecach, mwy ffyniannus, ac sydd â chydraddoldeb yn ganolog iddi.
Dylem gofio, er gwaethaf yr heriau, fod YesCymru wedi cyflawni pethau rhyfeddol ers ei sefydlu. Rydym wedi rhoi annibyniaeth yn gadarn ar agenda wleidyddol Cymru.
Credwn fod y dyfodol yn ddisglair i YesCymru gan ein bod yn credu bod y dyfodol yn ddisglair i Gymru.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.