Symud ymlaen o'r llywio

Alba – Yr Alban – Llythyrau gan Gyfeillion Rhifyn 1

Ym mis Mai 2026 cynhelir etholiadau ar gyfer Senedd yr Alban. Bu Plaid Genedlaethol yr Alban (Yr SNP) mewn grym yma ers 18 mlynedd. Mae gan y Gwyrddion Albanaidd 7 sedd, sy’n rhoi mwyafrif yn Holyrood (Senedd yr Alban) o blaid annibyniaeth.

Mae problemau yn dechrau codi pan fydd un blaid mewn grym am gyfnod mor hir. Pentyrru mae’r problemau, mae gwleidyddion yn blino ac yn troi’n ‘middle managers’ yn hytrach nag arloeswyr. Flwyddyn yn ôl roedd posibilrwydd go iawn y gallai’r SNP golli grym ond mae hynny bellach yn annhebygol.

Nid oherwydd bod cefnogaeth i’r SNP wedi cynyddu’n sylweddol, ond oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd i’r gwrthbleidiau. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi mynd yn hynod amhoblogaidd ac ar yr asgell dde mae’r bleidlais wedi ei rhannu rhwng y Ceidwadwyr a’r Dde Eithafol. Mae peth cefnogaeth i’r Gwyrddion yma ond nid ydi hi wed gweld llawer o gynydd.

Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi aros yn sefydlog ar tua 50%. Mae sawl arolwg barn wedi dangos cynnydd, ond dim ond tua 2%. Mae gennym fwyafrif clir ymhlith y rhai dan 50 oed.

Un datblygiad diddorol yw bod mwy o fenywod bellach yn cefnogi annibyniaeth nag o ddynion. Yn y gorffennol roedd hi bob amser i’r gwrthwyneb.

Mae’r mudiad annibyniaeth ehangach yn dioddef o gael gormod o wahanol grwpiau oll yn argyhoeddedig mai nhw yn unig sydd â’r strategaeth i’n gyrru ymlaen tuag at Alban annibynnol.

Bydd etholiad Mai nesaf yn rhoi darlun cliriach i ni.

Isobel Lindsay

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.