Un o nodweddion nodedig yr Alban a’i hymgyrch dros annibyniaeth yw ein bod yn wlad lle mae arfau niwclear wedi’u lleoli. Mae gennym tua 200 o fomiau niwclear sydd yn rhan o system Trident dim ond deg milltir ar hugain o’n dinas fwyaf.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi esgus bod yn un o bwerau niwclear y byd, ond ers y 1960au mae wedi bod yn gwbl ddibynnol ar yr Unol Daleithiau. Mae’n cynhyrchu ‘warheads’ bomiau niwclear a llongau tanfor yn ôl dyluniad yr Unol Daleithiau, ond nid ydi hi wedi cael system gludo (dyna ydi Trident – system sydd yn cludo’r ‘warheads’ niwclear i derfyn eu taith ar ffurf taflegryn) annibynnol ers bron i 60 mlynedd. Mae’n rhentu system taflegrau Trident gan yr Unol Daleithiau, ac mae’r rhain yn dychwelyd yn rheolaidd i’r Unol Daleithiau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Dyma un o’r prif resymau pam y mae Prydain Fawr wedi ymddwyn yn gyson fel gwlad gleient i’r Unol Daleithiau. Gallai unrhyw Arlywydd Americanaidd ganslo’r brydles ar unrhyw adeg. Gyda’r dechnoleg gyfredol, nid oes gan longau tanfor Trident yn yr Alban unrhyw fantais strategol i’r fyddin Americanaidd, a byddent wedi sicrhau na ellir eu defnyddio heb reolaeth yr Unol Daleithiau. Mae cael Arlywydd sydd mor anwadal â’r un sydd yn y Tŷ Gwyn ar hyn o bryd - arlywydd sydd â dirmyg tuag at gyfraith ryngwladol a gwladwriaethau Ewropeaidd yn gwneud hyn yn sefyllfa eithaf credadwy.
Fodd bynnag, mae safiad niwclear Prydain wedi cael ei ystyried yn hynod bwysig gan ei gwleidyddion, sy’n ei ystyried yn hanfodol i’w statws fel “Pŵer Mawr”, ac mae nhw wedi ymrwymo i wario symiau enfawr o arian i gynnal y celwydd hwnnw. Yn yr Alban, mae’r mudiad annibyniaeth wastad wedi gwrthwynebu arfau niwclear, ac yn eu gweld fel bygythiad dirfodol i ddynoliaeth, ac fel bygythiad go-iawn iawn i ni - boed hynny ar ddamwain, drwy gamsyniad neu hysteria rhyfel. Mae’r SNP, y Gwyrddion, a’r holl grwpiau annibyniaeth eraill sydd yn cefnogi Alban annibynnol yn cadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear- mae mwy na hanner Aelodau y Cenhedloedd Unedig wedi arwyddo’r cytundeb hwn.
Mae hyn, wrth gwrs, yn cael ei weld fel bygythiad i sefydliad Prydain, gan nad oes safle “cyfleus” ar gyfer canolfan Trident y tu allan i’r Alban.
Byddai cael gwared ar y system niwclear sy’n gwbl ddibynnol ar yr Unol Daleithiau hefyd yn fuddiol i bobl Lloegr. Gellid gwario’r arian ar y system amddiffyn bresennol, sydd yn dioddef tan-fuddsoddiad ar hyn o bryd. Ni fyddai modd defnyddio’r arfau niwclear, a byddai’r gor-ddibyniaeth ar yr Unol Daleithiau yn lleihau. Mae hyn, wrth gwrs, yn her i’r drefn wallgof sydd wedi ei gwerthu i ni gan y wladwriaeth Brydeinig, ac mae ymgais – ac mi ydw i'n siŵr y bydd hi’n cael ei defnyddio i ymosod ar fudiadau annibyniaeth eraill - i honni bod gwlad fechan yn wannach. Nid yw hanes yr 20fed ganrif yn cefnogi’r ddadl honno. Nid yw bod yn fwy neu’n llai wedi bod yn ffactor allweddol mewn cymryd rhan mewn trais nac mewn goroesi fel gwladwriaethau llwyddiannus. Mae arnom oll angen strategaeth ddiogelwch sy’n canolbwyntio ar amddiffyn ffiniau a seiberddiogelwch, ac ar wydnwch amgylcheddol ac economaidd. Gadewch inni ddangos y gallwn adeiladu pŵer meddal drwy greu rhwydweithiau o gyfeillion.
Gadewch inni ddangos ein cefnogaeth i’n cyfeillion yn yr Ynys Las. Os bydd yr Unol Daleithiau yn ceisio goresgyn yr ynys hono, gadewch inni oll weithio dros foicot o’r Unol Daleithiau a’i throi’n ymgyrch o bwys.
Isobel Lindsay - Confensiwn Annibyniaeth yr Alban