Symud ymlaen o'r llywio

Kalaallit Nunaat – Yr Ynys Las – Llythyrau gan Gyfeillion Rhifyn 2

Sut ydych chi’n disgrifio’r frwydr dros annibyniaeth, mewn byd lle mae ‘super-power’ mwyaf y byd yn mynnu cymryd perchnogaeth oddi wrth wlad ymerodraethol arall. Nid yw’r eironi’n cael ei golli, pan fo Denmarc - a berchnogodd yr Ynys Las ym 1953 yn lle dilyn penderfyniad dad-drefedigaethu’r Cenhedloedd Unedig - bellach yn datgan “Mae’r Ynys Las yn perthyn i drigolion yr Ynys Las”.

Mae cyfraith ryngwladol yn glir. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod pobl yr Ynys Las fel pobl sydd â’r hawl gynhenid i hunanlywodraeth. Mae’r hawl hwnnw’n cynnwys y rhyddid i benderfynu ar eu statws gwleidyddol ac i lunio eu dyfodol eu hunain fel cenedl annibynnol.

Nid ydym am fod yn Americanwyr. Nid ydym am fod yn Ddaniaid. Rydym ni am fod yn ddinasyddion yr Ynys Las.

Nid cais am ganiatâd mo hwn. Datganiad o hunaniaeth, urddas a'n dyfodol ni fel pobol ydi o.

Ac er ei bod yn gysur clywed cefnogaeth i’n pobl ni yn yr adegau heriol hyn, nid oedd hyn erioed yn fater o ddewis rhwng Denmarc neu’r Unol Daleithiau. Daeth y ddau feddylfryd yma o edrych ar gyn-drefedigaethau i ben gyda sefydlu’r Cenhedloedd Unedig. Mae ofn yn arf pwerus i atal newid. Mae angen help arnom i roi sicrwydd i bobl yr Ynys Las nad oes ganddyn nhw ddim i’w ofni - nid gan yr Unol Daleithiau na Denmarc.

Y gobaith gorau sydd gennym i’n pobl ni ydi i’r gymuned ryngwladol helpu i leihau’r rhethreg sydd yn codi bwganod ac ofn ar bobl - a gadael i ddiplomyddiaeth weithio i alluogi pobl yr Ynys Las i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Ni ddylai Daniaid chwaith ddefnyddio’r cyfnod hwn i geisio cymryd oddi wrthon ni, yma yn yr Ynys Las, ein hawl i hunanlywodraeth.

Pan nad oes arweinyddiaeth glir yn ymgyrchu dros annibyniaeth i bobl yr Ynys Las, ond yn hytrach yn gweithio i gynnal y status quo, mae’n creu ansicrwydd ynghylch ein dyfodol.

Mae’r frwydr dros annibyniaeth yn anodd pan fo’r wasg a’r trefedigaethwyr yn mynnu y dylech ofni geiriau, yn hytrach na diffyg gweithredu.

Mae’r frwydr dros annibyniaeth yn anodd pan fo’r wasg a’r trefedigaethwyr yn mynnu eich bod yn fradwyr i’ch gwlad os nad ydych yn cefnogi bod yn rhan o Deyrnas Denmarc.

Mae’r frwydr dros annibyniaeth yn anodd pan fo’r wasg a’r trefedigaethwyr yn honni bod galwad am annibyniaeth yn gyfystyr â dymuno rhoi eich gwlad i’r Unol Daleithiau.

Nid tiriogaeth mohonom ni. Nid llinellau ar fap mohonom ni. Nid rhifau mohonom ni.

Ni yw pobl yr Ynys Las. Dylai annibyniaeth fod yn hawl i ni fel pob gwlad arall.

Pele Broberg - Aelod o'r Inatsisartut (Senedd yr Ynys Las)

Mae Pele Broberg yn wleidydd, peilot a gŵr busnes o’r Ynys Las sydd wedi gwasanaethu fel cadeirydd plaid wleidyddol yr Ynys Las, Naleraq, ers 2022. Cafodd ei ethol gyntaf i’r Inatsisartut (Senedd yr Ynys Las) yn 2018 ac mae wedi dal swyddi gweinidogol, gan gynnwys gweinidog cyllid a gweinidog materion tramor, masnach, hinsawdd a busnes. Mae Broberg yn adnabyddus am ei gefnogaeth gref i annibyniaeth yr Ynys Las ac mae wedi bod yn llais amlwg mewn dadleuon ynghylch perthynas wleidyddol a chyfansoddiadol yr Ynys Las â Denmarc.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.