Ariannu Catalwnia: déjà vu parhaus sydd yn llethu’r enaid
Does dim ots pryd y gwnewch chi benderfynu edrych ar wleidyddiaeth Catalwnia, fe brofwch chi déjà vu parhaus, fel tonnau’r môr ar y traeth. Fe allant ddod gyda mwy neu lai o drais, ond maent wastad yn dod yn ôl dro ar ôl tro. Yr un dadleuon, yr un siom yn union wrth ddelio gyda’r wladwriaeth Sbaenaidd, ffeithiau yn cael eu diystyrru gan yr un broblem strwythurol; nad yw Catalwnia yn wladwriaeth annibynnol.
Ar 16 Ionawr, 1641, cyhoeddodd arlywydd y Generalitat o Gatalwnia, Pau Claris (1586-1641), Weriniaeth Gatalanaidd gyda’r nod o barhau ag annibyniaeth wleidyddol a rhyddid Catalwnia yn wyneb ymdrechion y frenhiniaeth Sbaenaidd i gael gwared â sofraniaeth teyrnasoedd mewnol, gan gynnwys Portiwgal. Nid yw hyn mor wahanol i’r hyn a welwn heddiw, hanner mileniwm yn ddiweddarach, yn 2026.
Mae’r Catalaniaid wedi dechrau’r flwyddyn gyda phwnc sydd wastad yn bwnc llosg; cytundeb ariannu Catalwnia. Mae hwn yn gytundeb a drafodir gan bleidiau Catalan gyda llywodraeth Sbaen, fydd yn gorfod derbyn sel bendith y gyngres Sbaenaidd gyfan.
Mae’r weithdrefn ganolog hon yn golygu mai “cynnig”, yn hytrach na chytundeb, ddylai gael ei galw. Ond byddai hynny’n tynnu sylw at ein hisraddiaeth awtonomig wasgaredig. Faint o amser ac adnoddau sy’n cael eu gwastraffu drwy’r ffilibystro gwleidyddol hyn sydd wedi ei normaleiddio? Mae’n sarhaus.
Caniataodd y ‘cytundeb’ honedig hwn ar ariannu Catalwnia, a drafodwyd gan ERC gyda PSOE, i Salvador Illa (ymgeisydd PSOE yng Nghatalonia) gael ei gyhoeddi’n Llywydd Generalitat de Catalunya yn 2024.
Yn yr un modd, diolch i’r cytundeb ffurfio (investiture) rhwng Junts ac ERC gyda’r PSOE y cafodd Pedro Sánchez (ymgeisydd y PSOE yn Sbaen) ei gyhoeddi’n arlywydd gwladwriaeth Sbaen. Cyfiawnhaodd y ddwy blaid “independentist” Gatalanaidd (ERC a Junts) y penderfyniadau hyn drwy honni y byddent yn arwain at statws swyddogol i’r iaith Gatalaneg yn Ewrop ac at drefniadau ariannu unigryw i Gatalwnia, ymhlith llawer o addewidion eraill.
Pan ddaw hi i roi ysgrifen ar bapur, dim ond sgerbwd y sardinen a welwn bob tro. Pan fydd y “gallai fod wedi bod” yn cael ei falu gan realiti Sbaenaidd, dim ond hanes yn ailadrodd ei hun sy’n weddill, ynghyd â gormod o wleidyddion Catalanaidd sy’n gwrthod dysgu unrhyw wers.
Fel y gwelir yn y graffeg, roedd gan Junts ac ERC ddigon o bleidleisiau i geisio ymgeisyddiaeth ar y cyd i ennill Llywodraeth Catalwnia. Gallent fod wedi ymateb i’r neges a anfonwyd gan yr ymatal annibyniaethol, a’u hatalodd rhag sicrhau buddugoliaeth glir. Byddai ymateb cryf yn goresgyn eu tensiynau mewnol ac yn dangos eu bod wedi deall y neges gyda “rydyn ni’n eich clywed chi, gadewch i ni fynd amdani”, fod wedi ailgynnau’r sbarc; ond nid oedd ganddynt ddiddordeb. Yn yr un modd, nid ydynt chwaith yn dangos diddordeb mewn newid cwrs heddiw, gan eu bod yn parhau gyda’r un arweinyddiaeth a’r un deinameg wleidyddol a ddaeth â ni i’r fan hon.
*Mae'r ymadrodd yng Nghatalonia ‘sgerbwd y sardinen’ yn addas ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru a gweddill Gwledydd Prydain hefyd. Mae’n golygu fod plaid neu lywodraeth yn cyhoeddi polisiau neu addewidion sydd gyda cyn lleied o gig ar yr asgwrn mai dim ond asgwrn y sardinen sydd yn weddill, ac wrth gwrs – mae asgwrn sardinen yn ddiwerth.

2026: teyrnged i feistri Catalanaidd
Yn ffodus, bydd 2026 yn llawn digwyddiadau, cynadleddau a theyrngedau i enwau mawr diwylliant Catalwnia: gwerddon sydd yn ein hachub ni rhag trallod “ymreolaethol” y gorfodir arnom i fyw ynddo dan ormes Sbaen.
Bydd coffâdau swyddogol eleni yn canolbwyntio ar nifer o enwau Catalanaidd perthnasol; i dynnu sylw at dri ohonynt: Ildefons Cerdà (1815–1876), peiriannydd a chynllunydd trefol, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei gynllun grid Eixample Barcelona; Pau Casals (1876–1973), selydd a chyfarwyddwr cerddorol, ac awdur Emyn y Cenhedloedd Unedig (1971); ac, wrth gwrs, Antoni Gaudí (1852–1926), pensaer y Sagrada Família a llawer o adeiladau modernaidd eraill sydd wedi ennill bri rhyngwladol.
Efallai nad yw llawer o bobl yn gwybod bod Gaudí, ym mis Medi 1924, pan oedd eisoes yn hynod boblogaidd yng Nghatalonia, wedi dioddef camdriniaeth ac erledigaeth gan heddlu Sbaen am wrthod cefnu ar yr iaith Gatalaneg. Cafodd ei arestio a’i gymryd i gell carchar am fynychu’r offeren er cof am y rhai a fu farw yn 1714. Ie, ymhell cyn unbennaeth Franco, roedd ffasgiaeth eisoes yn cael ei harfer yn erbyn Catalaniaid. Efallai y tro nesaf y byddwn yn rhoi mwy o sylw i fynd yn ddyfnach i waith a bywyd enwau mawr Catalwnia.
I gloi, mae’n bwysig nodi bod llawer o fentrau’n cael eu trefnu yng Nghatalonia i ddatrys y llanast gwleidyddol hwn, oherwydd - fel y dywedodd yr ysgolhaig o Valencia, Joan Fuster (1922–1972): “Bydd yr holl wleidyddiaeth nad ydym yn ei wneud yn cael ei gwneud yn ein herbyn ni.” Rydym wedi cael mwy na digon o hynny.

#YESCatalonia
Anna Arqué i Solsona - ICEC Gweldydd Catalwnia