Symud ymlaen o'r llywio

Mwyafrif dros Annibyniaeth o Fewn Cyrraedd medd Arolwg Newydd

Byddai bron i draean o bleidleiswyr yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm yfory, tra bod mwy na hanner pobl Cymru yn gosod eu hunain ar y pwynt canol neu’n uwch pan ofynnir iddynt pa mor gryf y maent yn cefnogi neu’n gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru.

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd gan Survation ar ran YesCymru yn dangos y byddai 32% o bleidleiswyr tebygol yn pleidleisio dros annibyniaeth i Gymru pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory, byddai 68% yn pleidleisio yn erbyn, o hepgor ymatebwyr ansicr a’r rhai a wrthododd ateb.

Mae cwestiwn ar wahân yn awgrymu bod nifer sylweddol uwch a allai fod o blaid annibyniaeth.

Pan ofynnwyd i’r holl ymatebwyr osod eu hunain ar raddfa o 0, yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru yn gryf, i 10, yn cefnogi’n gryf, nododd 54% 5 neu’n uwch.

Mae hyn yn cynnwys 34% a osododd eu hunain rhwng 6 a 10, ar ochr y raddfa sydd o blaid annibyniaeth, ac 20% arall ar y pwynt canol, sef 5.

Dywed YesCymru fod y canlyniadau’n dangos, er bod bron i draean o bleidleiswyr tebygol eisoes yn barod i bleidleisio dros annibyniaeth, fod carfan lawer ehangach o’r cyhoedd yng Nghymru y byddai’n bosibl eu darbwyllo i gefnogi annibyniaeth.

Mae’r arolwg hefyd yn rhoi arwydd clir o’r hyn sy’n atal y gefnogaeth i annibyniaeth ar hyn o bryd.

Pan ofynnwyd beth oedd y rhwystr mwyaf, yn eu barn nhw, sy’n atal Cymru rhag dod yn annibynnol, nododd 46% bryderon economaidd. Dyna oedd yr ateb mwyaf cyffredin o gryn dipyn.

O gymharu, dim ond 5% ddywedodd mai hunaniaeth Brydeinig oedd y rhwystr mwyaf, a dim ond 5% a nododd wrthwynebiad y cyhoedd neu ddiffyg awydd am annibyniaeth. Cyfeiriodd 20% arall at ffactorau llywodraethol a gwleidyddol.

Daw’r canlyniadau wedi i YesCymru lansio ei ymgyrch 2032 ym mis Awst, sy’n galw am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru erbyn 2032 ac yn gosod nod y mudiad o adeiladu cefnogaeth fwyafrifol i annibyniaeth dros y chwe blynedd nesaf.

Dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd newydd YesCymru:

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos pam ein bod yn credu bod ennill mwyafrif dros annibyniaeth o fewn cyrraedd. Maent hefyd yn dangos yn glir ble mae’r her. Mae’n rhaid i ni feithrin hyder yn nyfodol economaidd Cymru a chyflwyno’r achos dros annibyniaeth fel ffordd o greu gwlad well.

“Dydyn ni ddim yn derbyn mai’r sefyllfa bresennol yw’r gorau y gall Cymru ei ddisgwyl. Rydym yn credu y gall ein gwlad wneud yn well, ac rydym yn benderfynol o gyflwyno’r achos dros Gymru annibynnol sy’n gwella bywydau pawb sy’n galw Cymru’n gartref.

“Dyna hanfod ein hymgyrch dros refferendwm annibyniaeth erbyn 2032. Mae cefnogaeth sylweddol i adeiladu arni, ond fydd cyrraedd mwyafrif ddim yn digwydd ohono’i hun.

“Ein tasg dros y chwe blynedd nesaf yw adeiladu’r mwyafrif hwnnw, a rhoi’r cyfle i bobl Cymru ddewis eu dyfodol eu hunain.”

Mae’r arolwg yn cael ei ryddhau bythefnos cyn yr Orymdaith dros Annibyniaeth nesaf yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26 Medi. Bydd cefnogwyr o bob cwr o Gymru yn ymgynnull yng Ngerddi’r Castell, ger Castell Aberystwyth, cyn gorymdeithio trwy’r dref, a dychwelyd i Erddi’r Castell ar gyfer rali. Mae’r orymdaith yn rhan o ymgyrch ehangach YesCymru i gynyddu cefnogaeth i annibyniaeth a sicrhau refferendwm erbyn 2032.

Mae’r un arolwg barn hefyd yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen o ran bwriad pleidleisio yn etholiad y Senedd, ar 33%, gyda Reform UK yn yr ail safle ar 31%. Mae Llafur ymhell ar ei hôl hi yn y trydydd safle ar 14%, gyda’r Ceidwadwyr ar 9%, y Gwyrddion ar 6%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% a phlaid arall ar 2%. Daw’r ffigurau gan ymatebwyr sy’n debygol o bleidleisio, maen nhw wedi’u haddasu yn ôl pa mor debygol ydynt o bleidleisio, gyda’r ymatebwyr ansicr a’r rhai a wrthododd ateb wedi’u hepgor.

Cynhaliwyd yr arolwg gan Survation trwy banel ar-lein ar ran YesCymru rhwng 13 a 24 Awst 2026, gan 1,023 o drigolion Cymru oedd 16 oed a throsodd. Pwysolwyd y data i adlewyrchu proffil oedolion yng Nghymru yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth, lefel uchaf o gymhwyster, pleidlais Etholiad Cyffredinol 2024, pleidlais Etholiad y Senedd 2026 a phleidlais Refferendwm yr UE 2016. Mae Survation yn aelod o’r British Polling Council ac yn cydymffurfio â’i reolau.

Mae’r pedwar tabl data llawn sy’n ymwneud â’r canlyniadau pleidleisio a grybwyllir yn y datganiad hwn i’r wasg ar gael fan yma. YesCymru_Wales_Polling_August_2026_PRESS_v2.xlsx

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.