Symud ymlaen o'r llywio

Celf Annibyniaeth - Dyddiad cau 16 Medi!

Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd artistiaid a phobl greadigol i archwilio beth mae adeiladu cenedl a hunanbenderfyniad yn ei olygu iddyn nhw.

Bydd yn archwilio sut mae’r artist yn teimlo y gallwn greu ac ail-greu Cymru, a datblygu a mynegi syniadau newydd, yn rhoi llwyfan i fynegiant artistig i ddatrys problemau ac ar ben hynny yn tori syniadau newydd, arloesol  a llawn dychymyg yn realiti ar gyfer Cymru well.

Wedi’i drefnu gan YesCymru Penybont ar Ogwr, bydd y darnau yn cael eu beirniadu gan yr artistiaid proffesiynol Iwan Bala, Bethan Ash a Claire Hiett ac os cânt eu dewis byddant yn cael eu harddangos yn Queen Street Gallery yng Nghastell-nedd fel rhan o arddangosfa rhwng dydd Sadwrn 2il Tachwedd a dydd Sadwrn 30ain Tachwedd. Bydd gwaith yr enillydd terfynol yn cael ei ddangos mewn arddangosfa unigol yn Studio 40 yng Nghastell-nedd yn 2025.

Trosolwg o'r gystadleuaeth

Mae arddangosfa Celf Annibyniaeth yn gystadleuaeth agored y gall unrhyw un gymryd rhan ynddi a fydd yn cael ei beirniadu yn broffesiynol gan bobl ag ystod eang o ddisgyblaethau. Codir ffi o £10 am bob gwaith celf (£5 i fyfyrwyr), a rhaid cyflwyno’r gwaith fel delwedd(au) digidol ar y cyd â ffurflen gais. Bydd y darnau yn cael eu hadolygu gan y beirniaid, a fydd yn dewis tua 40 – 80 o ddarnau ar gyfer yr arddangosfa. Bydd angen i'r darnau a ddewisir gael eu danfon i’r Queen Street Gallery yng Nghastell-nedd yn barod i'w harddangos erbyn dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Bydd y beirniaid hefyd yn dewis yr ennillydd terfynol.

Beirniaid: Iwan Bala, Bethan Ash & Claire Hiett.

Dyddiad cau ar gyfer delweddau a ffurflenni cais: Dydd Llun 16eg Medi 2024 - Diwrnod Owain Glyndŵr.

Arddangosfa yn Agor: Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2024.

Arddangosfa yn dod i ben: Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024.

Gwobr am y gwaith celf buddugol: Arddangosfa Unigol yn Stiwdio 40, Castell-nedd yn 2025.

Categorïau:

  1. Agored
  2. Myfyrwyr

Ffurflen gais: Rhaid defnyddio’r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho yma.

Canllawiau: Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i wneud cyflwyniad llwyddiannus i’r gystadleuaeth. Darllenwch y canllawiau yn llawn yma.

Gwybodaeth bellach: https://art-of-independence.wales/

Cyflwynwch eich cais i: [email protected]

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.