Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith dros Annibyniaeth - Bangor

Mae'r orymdaith nesaf ym Mangor dydd Sadwrn yma!

Mae'r holl wybodaeth rydych angen yn fan hyn.

Gyda'r pleidleisio diweddaraf yn nodi cefnogaeth i annibyniaeth ar 34%, ac yn dilyn llwyddiant yr orymdaith dros annibyniaeth yn Abertawe yn gynharach eleni, lle gorymdeithiodd dros 7,000 dros Gymru annibynnol, nod yr orymdaith hon ydi gyrru neges gryf mai annibyniaeth ydi’r unig ffordd i sichrhau dyfodol Cymru.

Gwahoddir cefnogwyr i ymgynnull ym Maes Parcio Glanrafon o 12pm ymlaen, gyda'r orymdaith yn dechrau'n swyddogol am 1pm. Anogir gorymdeithwyr i ddod â baneri, chwibanau, drymiau, ac, yn anad dim, eu teulu a'u ffrindiau.

Mae ein gorymdeithiau annibyniaeth wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda chefnogaeth yn tyfu, mae posibilrwydd cryf mai'r orymdaith hon fydd y fwyaf eto. Bydd mynd â'n galwadau am annibyniaeth i ddinas fel Bangor am y tro cyntaf yn anfon neges glir at weddill Cymru, San Steffan a thu hwnt ein bod o ddifrif am ein hachos, a'r unig ffordd i sicrhau cenedlaethau'r dyfodol yw i'r Gymru ofalu am ei materion ei hun.

Bydd yr orymdaith yn dilyn llwybr drwy ganol dinas Bangor ac yn dychwelyd i faes parcio Glanrafon am areithiau a rhywfaint o adloniant.

Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau ymylol a fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law, a Marchnad Indy, lle cewch gyfle i brynu a rhyngweithio â nifer o gwmnïau a sefydliadau pro-indy.

Yn ôl yr arfer, mae bysiau yn cael eu trefnu o bob rhan o Gymru, a bydd y manylion yn cael eu cadarnhau maes o law.

I gael yr holl ddiweddariadau am yr orymdaith gallwch RSVP yma.

 

Mae ein gorymdeithiau annibyniaeth wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda chefnogaeth yn tyfu, mae posibilrwydd cryf mai’r orymdaith hon fydd yr un fwyaf eto. Bydd mynd â’n gofynion am annibyniaeth i ddinas fel Bangor am y tro cyntaf yn anfon neges glir i weddill Cymru, San Steffan a thu hwnt ein bod o ddifrif ynglŷn â’n hachos, a’r unig ffordd i sicrhau cenedlaethau’r dyfodol yw i Gymru gofalu am ei faterion ei hun.

Bydd yr orymdaith yn mynd ar daith drwy ganol dinas Bangor ac yn dychwelyd i faes parcio Glanrafon ar gyfer areithiau ac ychydig o adloniant.

Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau ymylol a fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law, a Marchnad Indy, lle cewch gyfle i brynu a rhyngweithio â nifer o gwmnïau a sefydliadau pro-indy.

Yn ôl yr arfer, mae YesCymru yn trefnu bysiau i’r gorymdaith dros Annibyniaeth ym Mangor gyda thocynnau ar gael drwy Siop YesCymru.

Llwybr yr Orymdaith

Bydd yr orymdaith yn teithio i lawr Stryd Fawr Bangor, gan droi i Ffordd Glynne cyn mynd i lawr Ffordd Deiniol yn ôl tuag at Faes Parcio Glanrafon.

RALI ANNIBYNIATH

Yn dilyn yr orymdaith bydd Rali ym Maes Parcio Glanrafon yn cychwyn o tua 2pm, gyda llwyfan a sgrin fawr, siaradwyr a cherddoriaeth. Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae:

Rhun ap Iorwerth

Sera Cracroft

Joseph Gnagbo

Karen Wynne

Bryn Fôn

Fleur De Lys

+ Mwy

MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Next to Glanrafon Car Park, The Old Bowling Green will host an "Indy Market" from 10am to 4pm, where organisations will promote their causes, and local artisans and producers will showcase their offerings, creating a space for communal engagement and support.

GIG MAWR ANNIBYNIAETH

Wrth iddi nosweithio, mae’r dathlu yn parhau gyda’r “Gig Annibyniaeth” yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Mae Fleur De Lys, Tara Bandito, 3 Hwr Doeth, a Maes Parcio ar fin rocio’r llwyfan, gan addo noson o adloniant sy’n atseinio gyda themâu’r dydd. Prynwch eich tocyn yma.

DIGWYDDIADAU FFRINJ

  • Prynhawn o Ganu Gwerin: Dewch â’ch offerynnau neu eich lleisiau canu i Dafarn y Glôb yn dilyn yr orymdaith am brynhawn o ganu gwerin. Byddwn yn cynhesu ein lleisiau canu rhwng 3pm a 5pm cyn y gig fawr gyda’r nos.

 

  • Sgwrs Banel Hawl i Holi YesCymru: Dewch draw i Neuadd y Penrhyn, Bangor am 7.30yh noswyl yr orymdaith am sgwrs banel ddifyr. Bydd ein panel o wleidyddion ac arbenigwyr yn trafod hunaniaeth, cartrefi a chymunedoli. Cadeirydd - Menna Jones (Cyn Brif Weithredwr Antur Waunfawr), Catrin Wager (Plaid Cymru), Adam Turner (Y Blaid Werdd), Walis George (Cyn Brif Weithredwr Tai Eryri ac ymgyrchydd dros Ddeddf Eiddo), Grant Paisley (arbenigwr ynni adnewyddol a dad-garboneiddio cymunedol), Menna Machraeth (ymgyrchydd Iaith).

GWERSYLLA DROS ANNIBYNIAETH

Mae maes Gwersylla a Charafanau Treborth wedi ei ddynodi yn wersyll dros annibyniaeth ar benwythnos yr orymdaith fawr ar 23 Medi. Os oes gennych babell, carafán neu fan ac awydd gwersylla, cysylltwch â Jimmy ar 07803 611429 a rhowch wybod iddo eich bod yn mynychu’r orymdaith i gael gostyngiad o 10% ar y pris.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.