Symud ymlaen o'r llywio

Y Barri i Gynnal Gorymdaith Fawr dros Annibyniaeth ddydd Sadwrn

Bydd y Barri, un o drefi mwyaf Cymru, yn cynnal yr Orymdaith ddiweddaraf dros Annibyniaeth ddydd Sadwrn yma, gan ddod â phobl o bob cwr o'r wlad a thu hwnt at ei gilydd i ddatgan eu cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.

Wedi'i drefnu gan YesCymru ac AUOBCymru, bydd cefnogwyr yn ymgynnull o 11am yn Sgwâr y Brenin, a'r orymdaith yn cychwyn am 1pm.

Ers 2019, mae miloedd wedi bod yn rhan o orymdeithiau dros annibyniaeth mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Mae gan y Barri le balch yn hanes Cymru gan i’r dre fod yn allweddol i fudiad Cymru Fydd dros Ymreolaeth i Gymru yn y 1890au. Mae gorymdaith y penwythnos hwn yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan adlewyrchu’r momentwm cynyddol dros annibyniaeth a gweledigaeth hyderus, flaengar i Gymru.

Rali Annibyniaeth

Yn dilyn yr orymdaith, bydd rali ar Sgwâr y Brenin yn cynnwys areithiau a cherddoriaeth fyw. Ymhlith y siaradwyr mae cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, ymgyrchydd dros annibyniaeth i Gatalwnia Anna Arqué i Solsona, y gantores-gyfansoddwraig Eädyth Crawford, Kiera Marshall o Blaid Cymru, a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd. Bydd Emma Winter, sydd wedi dod i amlygrwydd yn dilyn ei hymddangosiad ar Y Llais ar S4C, yn perfformio’n fyw. Bydd y rali yn cael ei arwain gan y cynghorydd lleol ac un o’r trefnwyr Mark Hooper.

Dywedodd Leanne Wood:

Mae’n bryd rhoi terfyn ar ein dibyniaeth. Mae gennym gyfle i adeiladu dewis amgen yn lle’r model economaidd aflwyddiannus sy’n llyncu adnoddau ac elw er budd Dinas Llundain a’r corfforaethau mawr, gan adael briwsion i weithwyr a chymunedau Cymru. 

Yn wyneb anoddefgarwch a chasineb cynyddol, rhaid i’n mudiad gynnig gobaith. Rydym ni’n gwybod y gall ein gwleidyddiaeth a’n gwlad wneud yn well na hyn.

Cymru ar y Llwyfan Rhyngwladol

Bydd Anna Arqué i Solsona, Llefarydd ICEC (Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop) – Catalwnia, yn annerch y rali yn bersonol, gan ddod â phersbectif rhyngwladol i'r diwrnod. Bydd negeseuon fideo o gefnogaeth gan ei chyd-aelodau o Gomisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop, fydd yn rhannu negeseuon pwerus o undod ymhlith mudiadau annibyniaeth ledled Ewrop.

Dywedodd Anna Arqué i Solsona:

Mae mudiadau fel ein rhai ni yn credu mai democratiaeth yw'r llwybr gorau i hunan-benderfyniad llawn, hyd yn oed pan fydd hyn yn gwrthdaro â buddiannau'r gwladwriaethau yr ydym wedi ein dal ynddynt. Dyna pam mae undod ymhlith ein cenhedloedd yn hanfodol, wedi'i wreiddio mewn hawliau dynol ac egwyddorion democrataidd.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yng Nghymru diolch i wahoddiad YesCymru, ac at ddysgu gan fudiad mor ysbrydoledig – un y mae Catalaniaid yn ei gefnogi gyda gobaith a brwdfrydedd.

Mae Cefnogaeth i Annibyniaeth yn Cynyddu

Mae’r orymdaith yn cael ei chynnal wedi i arolwg barn gan Redfield a Wilton, a gomisiynwyd gan YesCymru, ddangos cefnogaeth gynyddol i annibyniaeth. Yn ôl y canlyniadau, byddai 41% o bleidleiswyr a oedd wedi gwneud eu penderfyniad bellach yn pleidleisio dros annibyniaeth. Ymhlith pobl 25 i 34 oed, mae'r gefnogaeth yn codi i 72%, arwydd clir bod yr ymgyrch yn mynd o nerth i nerth ymhlith pobl yn y genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:

Mae canlyniadau'r arolwg barn diweddaraf ar annibyniaeth yn arwydd clir bod cefnogaeth i annibyniaeth yn tyfu – a gyda hynny, y galw am newid go iawn. 

Ond dydy newid go iawn ddim yr un peth â phoblyddiaeth. Mae poblyddiaeth yn bwydo ar rwystredigaeth ac yn creu rhaniadau.

Yng Nghymru, mae’n cymunedau yn bwysig iawn ac mae gennym hanes balch o gyflawni mwy na'r disgwyl ohonon ni – mewn gwyddoniaeth, chwaraeon, y celfyddydau, gwleidyddiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n falch o weld ein cenedl yn cyfleu gobaith ac uchelgais trwy ffigyrau yr arolwg barn yma.

Rwy'n disgwyl ymlaen at ymuno â phobl o bob cwr o Gymru yn y Barri ar gyfer gorymdaith fywiog, gadarnhaol dros annibyniaeth.

Manylion llawn y digwyddiad: https://cy.yes.cymru/barry 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.