Bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, ymhlith y siaradwyr mewn rali yn dilyn yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26 Medi.
Yn ymuno ag ef fydd Hywel Griffiths, enillydd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol; y dylanwadwyr poblogaidd Bethany Davies a Cerys Hutin, sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, hanes Cymru ac annibyniaeth; ac Elwyn Vaughan AS dros Wynedd Maldwyn.

Bydd Siôn Jobbins o Aberystwyth, cyflwynydd podlediad Radio YesCymru, yn arwain y rali, a bydd Cadeirydd YesCymru, Rob Hughes, yn cloi’r digwyddiad. Bydd cerddoriaeth fyw gan Dros Dro a Connemara.
Dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd YesCymru:
“Rydym wrth ein bodd y bydd Rhun ap Iorwerth yn ymuno â ni yn Aberystwyth. Yn dilyn wythnos hanesyddol lle daeth arweinwyr sy’n cefnogi annibyniaeth o Gymru, yr Alban ac Iwerddon ynghyd yng Nghaerdydd, bydd yr orymdaith hon yn gyfle i bobl o bob rhan o Gymru ddod at ei gilydd mewn cyfnod pan fod momentwm gwirioneddol gan y mudiad dros annibyniaeth.”
Bydd yr orymdaith yn cychwyn yng Ngerddi’r Castell am 1pm ddydd Sadwrn 26 Medi, cyn dychwelyd yno ar gyfer y rali. Hon fydd yr unfed Orymdaith ar ddeg dros Annibyniaeth ers 2019.
Bydd Marchnad Annibyniaeth hefyd yng Ngerddi’r Castell rhwng 10am a 4pm. Trefnir y digwyddiad gan YesCymru ac AUOBCymru.
Rhagor o wybodaeth: cy.yes.cymru/aber