Mae angen gwirioneddol am y llyfryn hwn. Pleidleisiodd y Deyrnas Gyfunol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Mae polau’n parhau i ddangos cefnogaeth gref i annibyniaeth i’r Alban ddeng mlynedd ar ôl eu refferendwm ar y mater, ynghyd â thwf yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Mae trafodaethau ynglŷn ag ailuno Iwerddon mewn modd heddychlon yn codi stêm hefyd. Mae’r Deyrnas Gyfunol yn newid yn gyflym ac mae’n hollbwysig na chaiff Cymru ei gadael ar ôl.
Yn y tudalennau canlynol, bydd YesCymru yn ystyried cwestiynau allweddol ynglŷn ag annibyniaeth: Sut gall cenedl fach fel Cymru lwyddo yn ein byd heddiw? Pa adnoddau sydd gennym? Sut gallai annibyniaeth newid ffurf ein cymdeithas a’n heconomi? A beth fyddai ein lle yn y gymuned fyd-eang?
Bydd cefnogwyr annibyniaeth i Gymru yn gyfarwydd iawn â chlywed y cwestiynau hyn yn cael eu gofyn gan y rhai sy’n amheus ynglŷn ag annibyniaeth yn ogystal â phobl sy’n agored eu meddwl ond yn ansicr. Mae'r llyfryn hwn yn trin cwestiynau o’r fath fel gwahoddiadau i gynnal dadleuon rhesymegol. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau mawr hyn, gan roi’r wybodaeth i’r darllenwyr i'w galluogi i herio dadleuon gwan, di-fflach gan y rhai sy’n amddiffyn y status quo – a rhoi’r hyder i ni osod yr agenda ar gyfer annibyniaeth i Gymru.
Mae gwladgarwch at Gymru wedi’i wreiddio yn ddwfn yn ein pobl. Mae hyn i’w weld yn amlwg ym mhob gêm rygbi neu bêl-droed ryngwladol gyda’r holl angerdd ac amrywiaeth cynhwysol. Ond nid rhywbeth ar gyfer diwrnod gêm yn unig ydy Cymreictod; mae’n rhan o’n bywydau pob dydd, yn ein cymunedau, ein gweithleoedd, ac yn ein teuluoedd.
Rydyn ni’n gwybod hefyd nad ydy Cymreictod balch yn golygu cefnogi annibyniaeth i bawb. Nid llyfryn i gefnogwyr pybyr yn unig ydy hwn – mae o werth hefyd i’r rhai sydd heb benderfynu. Pobl all fod yn gefnogol yn eu calonnau, ond nid yn eu pennau hyd yma. Y bobl hynny sy’n chwilfrydig ynglŷn ag annibyniaeth (neu’n “indy-curious”).
Cychwynnodd YesCymru yn 2014 fel grŵp bach oedd yn cefnogi ymgyrch annibyniaeth yr Alban. Ers ei lansio’n swyddogol yn 2016, mae’r syniad o annibyniaeth i Gymru wedi symud o’r ymylon i fod yn gwbl ganolog. Ym mis Tachwedd 2024, roedd 37% o’r bobl mewn pôl piniwn yn cefnogi annibyniaeth i Gymru1 – ffigwr a oedd y tu hwnt i’r dychymyg ar un adeg.
Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol. Mae pawb sy’n gwneud eu cartref yng Nghymru – beth bynnag fo’u hoedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd, hil, crefydd, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol – yn ddinesydd llawn yng Nghymru annibynnol y dyfodol.
Mae’r byd yn dod yn fwyfwy ansicr, ac mae’r Deyrnas Unedig yn dal i ddelio â chanlyniadau Brexit. Felly, beth mae’r dyfodol yn ei gynnig i Gymru? Cael ei llyncu o fewn rhyw ‘undeb’ crebachlyd ac adweithiol, ynteu sefyll ar ei thraed yn genedl annibynnol ymhlith y cenhedloedd?
Mae mwy a mwy o bobl yn gweld yr annhegwch sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y status quo – boed hynny i’w weld yn y biliynau o bunnoedd y mae Cymru wedi'u colli yn sgil HS2, neu’r modd y mae Ystad y Goron yn rheoli rhai o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr.
Mae sofraniaeth cenhedloedd yn un o gonglfeini’r gyfraith ryngwladol. Bwriad y llyfryn hwn yw gosod ein hachos o blaid ein gallu i lywodraethu ein materion ein hunain.
O ystyried y dirwedd wleidyddol sy’n newid yn gyflym, gofynnwn: Sut mae modd parhau i anwybyddu cwestiwn annibyniaeth i Gymru a pha ddadl sydd yn dal i sefyll dros gynnal y status quo?
1 Arolwg Barn Survation a gynhaliwyd gan Arron Banks (cyhoeddwyd Tachwedd 8fed 2024). Ddim yn gwybod a heb benderfynu wedi’u dileu. Mae’r tablau llawn ar gael yn https://cdn.survation.com/wp-content/uploads/2024/11/08145423/Wales_Tables.xlsx