Pam Annibyniaeth?
Bwriad y llyfryn hwn yw ateb eich cwestiynau am annibyniaeth i Gymru mewn modd syml, gonest a chryno. Mae wedi’i anelu at bobl sy’n chwilfrydig, yn ansicr neu hyd yn oed yn gwbl amheus. Ein nod yn y canllaw hwn yw ei dweud hi fel y mae, a chyflwyno ffeithiau yn eglur. Bydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fod yn fwy hyderus am Gymru annibynnol – ac i ddylanwadu ar bobl eraill.
Credwn ei bod yn hen bryd cael dadl lawn ynglŷn ag annibyniaeth i Gymru. Pam?
Pam lai?
Fe allech feddwl bod Cymru’n rhy fach i fod yn annibynnol, ond gwledydd bach yw rhai o wledydd mwyaf llewyrchus, mwyaf cyfartal a hapusaf y byd. Beth sy’n gwneud pobl Cymru yn wahanol i’r Slofaciaid, y Daniaid neu’r Gwyddelod? Onid synnwyr cyffredin yw dweud y dylai pob penderfyniad sy’n effeithio ar Gymru gael ei wneud yng Nghymru? Nid rhai o’r penderfyniadau, ond pob un ohonyn nhw. Nid yw Cymru’n berffaith, ac mae digon o broblemau y mae angen mynd i’r afael â nhw. Ond oni fyddai’n haws delio â’r problemau hynny petai ein llywodraeth yn un i Gymru, â’i holl sylw ar anghenion Cymru? Ar hyn o bryd, mae San Steffan yn ein gweld yn ddibwys; caiff polisïau San Steffan eu llunio ar sail anghenion pobl eraill. Mae’n amlwg nad yw polisïau San Steffan yn cael eu cyflwyno er budd Cymru, fel y gwelson ni yn ystod trafodaethau ar Brexit a phandemig COVID-19. Os yw sefydliad, yn hanesyddol, wedi methu rhoi’r sylw dyledus i’ch anghenion chi, onid y cam naturiol yw ffurfio’ch sefydliad eich hun a llywio’ch tynged eich hun? Mae annibyniaeth yn gyfle i greu Cymru well.
Mae Cymru’n wahanol
Dro ar ôl tro, fe glywn ni bobl yn dweud: “Cymru? Onid rhan o Loegr yw hi?”. Mae gan Gymru lawer yn gyffredin â gwledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Gyfunol, ond fe wyddon ni fod yna lawer sy’n ein gwneud yn wahanol. Mae gan Gymru ei gwleidyddiaeth a’i gwerthoedd ei hun a’i bydolwg ei hun; mae ganddi ei diwylliant, ei hanesion a’i hiaith ei hun. Mae pobol o bob cefndir yn dylanwadu ar y rhain, boed yn aelodau o gymunedau amlddiwylliannol hynaf Prydain yn Butetown Caerdydd, yn ddisgynyddion i’r bobl a symudodd i Gymru yn ystod y chwyldro diwydiannol, neu’n ‘Gymry Newydd’ o Ewrop a gweddill y byd sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Ond eto, caiff Cymru ei thrin fel un o ranbarthau Lloegr yn rhy aml o lawer. Nid creu rhaniadau yw bwriad annibyniaeth; mae’n ymwneud â dathlu ein lle unigryw ni yn y byd a dod yn rhan go iawn o deulu cenhedloedd y byd.
Cael y llywodraeth y byddwch yn pleidleisio drosti
Mae Aelodau Seneddol Cymru yn ffurfio 6 y cant o Dŷ’r Cyffredin. Mewn etholiadau cyffredinol, does dim gwahaniaeth sut bydd Cymru’n pleidleisio, y llywodraeth y mae Lloegr ei heisiau a gawn yn San Steffan. Ers 1945, dim ond am ddwy flynedd mae pleidlais pobl Cymru wedi dylanwadu ar fap gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol, sef rhwng 1964 a 1966.
Llais bach sydd gan Gymru yn San Steffan, ac mae’n gwanhau. Mae pobl Cymru yn anfon 40 Aelod Seneddol i San Steffan ar hyn o bryd, gyda’r Comisiwn Ffiniau yn cynnig cwtogi’r rhif yma i gyn lleied â 31. Undeb anghyfartal yw’r Deyrnas Gyfunol, ac felly y bydd hi byth. Mae angen i bobl Cymru gymryd rheolaeth dros eu tynged eu hunain.
Dim rhagor o esgusodion o Fae Caerdydd
Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai meysydd ers datganoli, Cymru yw’r genedl dlotaf yn y Deyrnas Gyfunol o hyd, ac mae gwelliannau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, fel iechyd ac addysg, wedi bod yn rhwystredig o araf. Mae modd dadlau mai dim ond Llywodraeth Cymru sydd â phwerau ym mhob maes a all gyflawni newid gwirioneddol a chynaliadwy. Er enghraifft, sut gallwch chi ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd gwirioneddol gyfannol os nad yw gwariant ar fudd-daliadau a phwerau llawn dros drethu o dan eich rheolaeth? Byddai gan Lywodraeth Cymru sy’n cymryd ei henw o ddifrif, yn hytrach nag un sy’n dal i arddel meddylfryd ‘gweinyddiaeth ddatganoledig’, ryddid i fod yn fwy uchelgeisiol dros Gymru. Byddai annibyniaeth yn arfogi Cymru i wyrdroi ein tynged, ond byddai’n golygu hefyd y gallwn sicrhau bod ein gwleidyddion ein hunain yn atebol, gan eu gorfodi nhw i fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer dyfodol ein cenedl.
Mae’n risg, ond mae cymaint i’w ennill. Mae llawer o bobl yn dweud bod annibyniaeth yn syniad sy’n apelio, ond na fyddai Cymru byth yn gallu ei fforddio. A byddai, mi fyddai risgiau ynghlwm wrth ddod yn wlad annibynnol. Does dim byd mewn bywyd heb risg, yn enwedig pethau sy’n werth eu cael; ond mae pobl yn mynd amdani oherwydd eu bod eisiau bywyd gwell iddyn nhw’u hunain. Ac mae mwy a mwy o bobl yn dechrau gweld bod y ddadl am annibyniaeth yn rhoi gormod o sylw i’r risg, a dim digon i’r enillion. Newid bach iawn yn y ffordd o edrych ar bethau yw hyn, ond mae’r canlyniad yn eich grymuso.
Mae Cymru’n gyfoethog o ran adnoddau, ac mae ganddi'r potensial i fod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond dydyn ni ddim yn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau hynny. Byddai annibyniaeth yn agor drysau newydd i Gymru, gan alluogi pobl Cymru i adeiladu economi ar sail blaenoriaethau Cymreig yn hytrach na rhai Prydeinig. Gallwn adeiladu cymdeithas decach i unioni'r anghyfiawnderau hanesyddol a phresennol sy'n wynebu pobl groenliw, y gymuned LHDTQ+, pobl anabl, yr oddeutu 30 y cant o blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi, a grwpiau eraill sydd wedi'u hesgeuluso a'u rhoi ar y cyrion yn rhy hir. Mae angen i ni gydnabod y risgiau, heb ddilorni potensial Cymru. Ac ystyried ein diffyg grym o dan y gyfundrefn bresennol, gellid gofyn ai’r risg fwyaf oll yw gadael i bethau fod fel y maen nhw.
Dechrau newydd
Ers colli ein diwydiannau trwm, mae Cymru wedi bod mewn cyflwr o ddirwasgiad. Waeth pwy sydd mewn grym yn San Steffan, mae pethau wedi mynd am yn ôl yng Nghymru. Mae ein heconomi’n drychinebus i’r mwyafrif, a dirywiad ein sefydliadau addysgol yn adlewyrchu heriau ein cymdeithas a diffyg atebolrwydd gwleidyddol. Mae gormod o’n pobl ifanc yn wynebu dyfodol heb ddim gobaith nac uchelgais wirioneddol. Allwn ni ddim dibynnu ar bobl eraill i wyrdroi’r sefyllfa yma. Mae’n bryd i bobl Cymru fwrw ati, a gweithio gyda’n gilydd i greu cenedl well. Fydd neb arall yn gwneud hynny droson ni. Dim ond ni all ysgrifennu’r bennod nesaf yn hanes Cymru.
Y Bennod Flaenorol |
Y Bennod Nesaf |
|
Cyflwyniad | Pam nad yw datganoli’n ddigon, a pha wahaniaeth fyddai annibyniaeth yn ei wneud? |