Symud ymlaen o'r llywio

Breizh – Llydaw – Llythyrau gan Gyfeillion Rhifyn 1

Mae Llydaw ar gerdded! Mae YesBreizh yn don sy’n cario gobaith i’r Llydawyr.

Rydym yn dechrau deall bod y status quo y mae Paris wedi ein gadael ynddo am gyhyd, mewn gwirionedd, yn gyffion y mae’n rhaid eu diosg cyn gynted a phosib’.

Ond nid trwy’r hen ffyrdd! Symud ymlaen yn ofalus. Yn benderfynol. Yn amyneddgar ond gyda phenderfyniad ac arddeliad.

Beth ydym ni ei eisiau? Erbyn 2032, cael cymaint o hawliau datganoledig â’n cefndryd Celtaidd dros y dwr yng Nghymru ac yn yr Alban.

Er mwyn beth? Er mwyn galluogi ein heconomi i ddatblygu heb y cyfyngiadau y mae Paris yn eu gorfodi arnom heb unrhyw fath o ymgynghori.
Er mwyn dod o hyd i atebion i’r cwestiynau bob dydd y mae Llydawyr yn eu gofyn ynghylch tai, caffael, trafnidiaeth, y trawsnewid i ynni gwyrdd, ac ati.

Pam? Oherwydd bod disgwyl popeth gan lywodraeth ganolog sy’n dirywio ond yn wastraff amser llwyr ac yn wastraff egni.

Ac? Yn olaf, rhaid inni sicrhau statws swyddogol i’n hiaith genedlaethol, y Lydaweg, yr iaith Geltaidd olaf ar y cyfandir!

Rhaid inni lwyddo i ailuno ein gwlad gyda’i rhan ddeheuol, sydd wedi’i gwahanu oddi wrthym ni ers yr Ail Ryfel Byd.

Ein tîm Yes Breizh

Digon o brosiectau cyffrous, tîm brwdfrydig, ac aelodaeth sy’n tyfu bob dydd.

Cefnogwn Lydaw sy’n adeiladu ei dyfodol, gan ddechrau ar y daith hon heddiw!

Rydych chi ar fin clywed llawer iawn mwy am Lydaw!

Izold Guegan

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.