Symud ymlaen o'r llywio

Calendr Digwyddiadau YesCymru yn 2025

Ionawr

25ain – Diwrnod Santes Dwynwen
Lanwythwch fideo i’r cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #CaruCymru ar ddiwrnod Santes Dwynwen i ddweud pam rydych chi’n caru Cymru. 


Chwefror

15fed–16eg – Penwythnos Casglu Sbwriel
Gwnewch wahaniaeth yn eich ardal chi. Cysylltwch â’ch grŵp lleol YesCymru am ragor o wybodaeth. 


Mawrth

1af – Dydd Gŵyl Dewi
Ymunwch â digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yn eich ardal chi a chofiwch chwifio eich baner YesCymru!

28ain–29ain – Nabod Cymru (Taith Cymru) yn Abertawe
Penwythnos o drafodaethau, siaradwyr, comedi, cerddoriaeth, a hwyl i gyd yn ymwneud ag annibyniaeth ac Abertawe. Croeso cynnes i bawb.


Ebrill

26ain – Gorymdaith Dros Annibyniaeth, Y Barri
Ymunwch â miloedd o gefnogwyr annibyniaeth wrth i ni orymdeithio ar hyd strydoedd y Barri. Mwynhewch areithiau gan siaradwyr a cherddoriaeth fyw.


Mai

26ain–31ain – Eisteddfod yr Urdd
Bydd YesCymru yn ôl ar faes Eisteddfod yr Urdd, y tro yma ym Mharc Margam. Dewch i’n stondin am wythnos o hwyl a sbri.


Mehefin

7fed – Gŵyl Tawe yn Abertawe
Am y tro cyntaf, bydd gan YesCymru bresenoldeb yng Ngŵyl Tawe. Ymunwch â ni am nwyddau, trafodaethau, a mwy.

14eg–15fed – Tafwyl
Unwaith eto, bydd YesCymru yn noddi llwyfan yn Tafwyl gan roi cyfle i’n cefnogwyr fwynhau cerddoriaeth gyfoes orau Cymru.


Gorffennaf

21ain–24ain – Y Sioe Fawr
Mae cefnogi amaethyddiaeth yn flaenoriaeth i YesCymru. Galwch i’n gweld i rannu eich blaenoriaethau.


Awst

2il–9fed – Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam
Bydd stondin YesCymru yn cynnwys cerddoriaeth fyw, nwyddau, a thrafodaethau am annibyniaeth.

24ain–25ain – Gŵyl Rhwng y Coed ym Merthyr
Penwythnos o gerddoriaeth fyw a hwyl. Dewch i’n stondin am nwyddau a mwy.


Medi

I’w Gyhoeddi – Baneri ar Bontydd
Ymunwch â’n digwyddiad cenedlaethol "Baneri ar Bontydd". Yn 2024, roedd 26 grŵp allan ar bontydd; gobeithio y cyrhaeddwn 30 yn 2025!


+ Llawer mwy o ddyddiadau a digwyddiadau i’w cyhoeddi’n fuan a peidiwch anghofio am ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu trefnu gan grwpiau gwych YesCymru!

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.