Mae disgwyl i ganwr gwerin poblogaidd chwarae mewn gig yng Nghaernarfon i hybu achos annibyniaeth Cymru. Bydd Gwilym Bowen Rhys, a enillodd wobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru drwy ddod â geiriau ac alawon Cymreig hynafol yn fyw gyda'i arddull gerddorol gyfoes ei hun, yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Caernarfon am 7:30yh nos Wener, Hydref 11.
Mae'r digwyddiad, a fydd hefyd yn cynnwys y cerddor ifanc dawnus Alis Glyn, yn cael ei drefnu gan gangen Caernarfon YesCymru, sef y grŵp sy’n ymgyrchu o blaid annibyniaeth.
Yn ôl trefnydd y digwyddiad, Ifan Llewelyn Jones o YesCymru Caernarfon, gall mynychwyr y digwyddiad edrych ymlaen at "noson wych".
Mae Gwilym, sy'n hanu o bentref Bethel wrth droed Yr Wyddfa, ac sydd hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2, wedi bod yn canu yn y Gymraeg cyhyd ag y gall gofio.
Mae'r canwr-gyfansoddwr wedi datblygu cyswllt dwfn â chaneuon traddodiadol Cymreig a does dim yn well ganddo na rhannu ei gerddoriaeth â chymunedau lleol.
Mae wedi perfformio ledled Cymru a’r byd, o Aberystwyth i'r Ariannin, gan gynnwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Rhyddhawyd ei albwm gyntaf 'O Groth y Ddaear' yn 2016 gan gyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg Gorau'r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Helpodd hyn i'w sefydlu fel llais newydd a hanfodol ym myd cerddoriaeth Cymru.
Dywedodd Gwilym Bowen Rhys: "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y gig yma. Dydw i ddim wedi canu yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ers blynyddoedd lawer felly bydd hi'n braf gwneud hynny eto.
"Bydd y gynulleidfa yn gallu disgwyl caneuon bywiog, caneuon sy'n fwy hiraethus, caneuon gwladgarol, a chaneuon protest - felly mi fydd yna amrywiaeth a digon o ganeuon cyfarwydd i bobl allu canu gyda mi ar y diwedd dwi'n siŵr.
"Dwi'n ffodus iawn o gael Alis Glyn yn fy nghefnogi. Dim ond unwaith rydw i wedi ei gweld hi'n fyw, ond mae hi'n wych. Mae hi'n ysgrifennu caneuon, yn chwarae'r piano, yn canu, ac mae ganddi lais gwych."
Ychwanegodd: "Rwy'n gefnogwr mawr o annibyniaeth a YesCymru. Rwy'n cefnogi annibyniaeth oherwydd rwy'n credu ei fod yn opsiwn gwell na'r hyn sydd gennym yn wleidyddol ar hyn o bryd.
"Rydw i hefyd yn sosialydd brwd ac rwy'n credu mai annibyniaeth yw'r ffordd orau o sicrhau bod gennym Gymru decach a mwy cyfartal. Wrth gwrs, mae sail hanesyddol yn ogystal â diwylliannol ar gyfer cefnogi annibyniaeth hefyd."
Dywedodd Ifan Llewelyn Jones o YesCymru Caernarfon: "Mae Gwilym yn gerddor hynod dalentog ac yn boblogaidd iawn yn ardal Caernarfon. Mae'n sicr o ddenu tyrfa fawr. Mae hefyd yn gefnogol i YesCymru ac yn mynychu ein ralïau.
"Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau eu hunain. Mae'n hanfodol bod YesCymru yn ymgyrchu yn y gymuned.
"Mae angen i ni siarad â'n gilydd a chyfleu'r neges i bobl yng Nghaernarfon a thu hwnt nid yn unig bod annibyniaeth yn bosib ond mai dyma'r ffordd i sicrhau Cymru well a chymdeithas decach. Mae gennym y gallu ac mae gennym y talent.
"Mae cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn yr ardal yn allweddol i sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau'n fywiog ac yn ddiddorol.
"Mae hefyd yn ffordd i ni gael y neges allan i bobl sydd y tu allan i'r babell ar hyn o bryd fel petai. Mae'n ffordd o ddenu pobl a allai fod â diddordeb mewn annibyniaeth yng Nghymru ond sy'n ansicr ac eisiau darganfod mwy.
"Mae dod i'r digwyddiad yn ffordd wych o gefnogi YesCymru, yn ogystal â ffordd o gefnogi'r clwb rygbi lle mae'n cael ei gynnal.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw oherwydd bydd hi'n noson wych."
TOCYNNAU
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn costio £10 ac maent ar gael drwy Palas Print a Siop NaNog.