Symud ymlaen o'r llywio

Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Celtaidd ar Hunanbenderfyniad

Cynhaliwyd uwchgynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Gwener 25 Medi 2026, gan ddod â chynrychiolwyr o sefydliadau dinesig a gwleidyddol o Gymru, yr Alban ac Iwerddon ynghyd i drafod sut i gryfhau'r cydweithio rhwng ymgyrchoedd dros hunanbenderfyniad yn y tair gwlad.

Trefnwyd yr uwchgynhadledd, Partneriaeth y Cenhedloedd Celtaidd – Uwchgynhadledd Strategol ar Hunanbenderfyniad, gan YesCymru yn dilyn misoedd o drafodaethau a meithrin cysylltiadau â sefydliadau ar draws y tair gwlad.

Daeth cynrychiolwyr o naw sefydliad ynghyd:

  • YesCymru
  • Ireland’s Future
  • SDLP
  • Plaid Cymru
  • Plaid Werdd Cymru
  • Believe in Scotland
  • Business for Scotland
  • Common Weal
  • Scottish Independence Forum

Hon oedd y cyfarfod cyntaf o'i fath i ddod ag ymgyrchoedd dinesig a sefydliadau gwleidyddol o'r tair gwlad at ei gilydd i drafod eu buddiannau cyffredin a chyfleoedd i gydweithio.

Cydnabu'r cyfranogwyr fod potensial sylweddol i gryfhau eu mudiadau drwy rannu ymchwil, gwybodaeth, profiadau ac arbenigedd, yn ogystal â chynnig mwy o gefnogaeth i'w gilydd a hyrwyddo ymgyrchoedd ei gilydd.

Yn hollbwysig, roedd cytundeb eang y dylai uwchgynhadledd Caerdydd fod yn ddechrau ar gydweithio parhaus, yn hytrach na digwyddiad untro.

Cytunwyd mewn egwyddor i gynnal dau gyfarfod pellach, gyda'r nesaf wedi'i gynnig ar gyfer Iwerddon ym mis Tachwedd 2026, ac yna cyfarfod yn yr Alban.

Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y tair gwlad

Datblygwyd y fenter gan YesCymru yn dilyn sawl mis o drafodaethau â sefydliadau sy'n ymwneud â'r ymgyrchoedd dros annibyniaeth i Gymru a'r Alban ac ailuno Iwerddon.

Arweiniodd y trafodaethau hyn at uwchgynhadledd Caerdydd, lle rhannodd y cyfranogwyr eu safbwyntiau ar sefyllfa wleidyddol pob gwlad, yr heriau sy'n wynebu eu mudiadau a'r cyfleoedd i gydweithio'n agosach.

Yn hytrach na sefydlu mudiad newydd neu strwythur ffurfiol, roedd y pwyslais ar feithrin cysylltiadau ymarferol a fyddai'n galluogi'r mudiadau presennol i gydweithio'n agosach, gan gadw eu hannibyniaeth.

Ymhlith y prif faterion a drafodwyd roedd:

  • Rhannu ymchwil, gwybodaeth ac arbenigedd.
  • Dysgu o brofiadau gwahanol ymgyrchoedd dros hunanbenderfyniad.
  • Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd ar draws y tair gwlad.
  • Cryfhau cysylltiadau uniongyrchol rhwng y sefydliadau a gymerodd ran.
  • Archwilio cyfleoedd i gydweithio'n ymarferol.
  • Cadw'r momentwm drwy gyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau parhaus.

"Dechrau rhywbeth oedd hyn, nid diwedd cynhadledd"

Dywedodd Sam Murphy, Is-gadeirydd YesCymru:

"Roedd hwn yn foment wirioneddol arwyddocaol. Am y tro cyntaf, daeth cynrychiolwyr o fudiadau dinesig a sefydliadau llawr gwlad sy'n ymgyrchu dros ailuno Iwerddon ac annibyniaeth i Gymru a'r Alban at yr un bwrdd i ddechrau trafod sut y gallwn gydweithio.

Dechreuodd YesCymru y trafodaethau hyn fisoedd lawer yn ôl oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth dod â phobl ynghyd sy'n gweithio mewn gwahanol wledydd ond sy'n rhannu egwyddor sylfaenol: y dylai ein cenhedloedd gael yr hawl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

Nid ydym yn ceisio creu un sefydliad na dweud wrth neb sut y dylent gynnal eu hymgyrchoedd. Cryfder y fenter hon yw bod pob mudiad yn parhau'n annibynnol, gan gydnabod ar yr un pryd y gallwn gyflawni mwy drwy rannu ein gwybodaeth, cefnogi ein gilydd a hyrwyddo gwaith ein gilydd.

Roedd yn amlwg i mi fod gan bob gwlad rywbeth unigryw i'w gyfrannu a all helpu'r lleill. Mae YesCymru ar hyn o bryd yn ymgyrchu dros gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn 2032. Mae Iwerddon a'r Alban yn ymgyrchu dros eu refferenda eu hunain, a allai gael eu cynnal flwyddyn neu ddwy cyn neu ar ôl hynny. Credwn y gall yr uwchgynhadledd hon, a'r rhai a fydd yn dilyn, fod o gymorth strategol enfawr i wireddu'r nodau hynny.

Rydym yn croesawu effaith y cyfarfod diweddar rhwng ein prif weinidogion, ond credwn mai ennill calonnau a meddyliau pobl ar lawr gwlad sy'n allweddol i lwyddiant. Dyna yw prif ffocws ein sefydliadau.

Mae'r cytundeb i gyfarfod eto yn Iwerddon ym mis Tachwedd, ac yna cynnal cyfarfod yn yr Alban, yn dangos bod awydd gwirioneddol i barhau â'r gwaith hwn. Dechrau rhywbeth oedd cyfarfod Caerdydd, nid diwedd cynhadledd."

Edrych tua'r dyfodol

Gosododd yr uwchgynhadledd sylfaen ar gyfer cydweithio agosach rhwng y mudiadau a gymerodd ran, yn seiliedig ar ddysgu oddi wrth ei gilydd, cydweithio ymarferol a chefnogaeth ar y cyd.

Pwysleisiodd y trefnwyr y byddai'r fenter yn parchu annibyniaeth ac amgylchiadau gwleidyddol unigryw pob sefydliad, gan gydnabod ar yr un pryd fanteision cydweithio tuag at eu nodau.

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal yn Iwerddon ym mis Tachwedd 2026, wedi'i drefnu gan Ireland’s Future, gyda'r manylion pellach i'w cytuno rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan. Bwriedir cynnal cyfarfod arall yn yr Alban wedi hynny.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.