Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn ymuno ag ymgyrchwyr o Iwerddon a’r Alban mewn uwchgynhadledd Partneriaeth Geltaidd yn Nulyn

Ymunodd cynrychiolwyr YesCymru â chyd-ymgyrchwyr o Iwerddon a’r Alban yn Leinster House yn Nulyn heddiw (dydd Mawrth 17 Tachwedd) ar gyfer yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau Partneriaeth Geltaidd sy’n ceisio cryfhau’r cydweithio rhwng y tair gwlad.

Trefnwyd y digwyddiad gan Ireland’s Future mewn cydweithrediad â’r Seneddwyr Frances Black a Patricia Stephenson, gan ddod ag ymgyrchwyr llawr gwlad blaenllaw sy’n gweithio dros annibyniaeth Cymru a’r Alban ac ailuno Iwerddon at ei gilydd.

O dan gadeiryddiaeth y Seneddwr Black, cafwyd cyfraniadau gan Gerry Carlile o Ireland’s Future, Gordon MacIntyre-Kemp o Believe in Scotland, Patrick McCarthy o Independence Forum Scotland, a Sam Murphy, Is-gadeirydd YesCymru.

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r mudiadau cenedlaethol, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau partneriaethau strategol, rhannu profiadau ymgyrchu a datblygu cydweithio agosach rhwng mudiadau llawr gwlad.

Dywedodd Sam Murphy, Is-gadeirydd YesCymru, a arweiniodd ddirprwyaeth Cymru:

"Roedd hi’n wych bod yn Nulyn ochr yn ochr â’n cyd-ymgyrchwyr o Iwerddon a’r Alban, gan adeiladu ar y cydweithio a ddechreuodd pan gynhaliodd YesCymru gyfarfod cyntaf y Bartneriaeth Geltaidd yng Nghaerdydd fis Medi eleni.

"Mae gan fudiadau llawr gwlad fel YesCymru rôl enfawr i’w chwarae i wireddu annibyniaeth, efallai rôl fwy na phleidiau gwleidyddol hyd yn oed. Mae gan bob un o’n mudiadau gryfderau, profiadau a syniadau unigryw y gall y lleill ddysgu ohonynt.

"Ar y cyd ag Ireland’s Future, Believe in Scotland ac Independence Forum Scotland, rydym yn meithrin cysylltiadau, yn rhannu strategaethau ac yn datblygu ffyrdd o gefnogi ymgyrchoedd ein gilydd.

"Ein huchelgais gyffredin yw sicrhau refferenda llwyddiannus yn ein gwledydd yn y blynyddoedd sydd i ddod. I YesCymru, mae hynny’n golygu cryfhau’r mudiad ac ennill refferendwm ar annibyniaeth i Gymru erbyn 2032."

Cyfarfod heddiw oedd yr ail o dri digwyddiad y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Bartneriaeth Geltaidd, yn dilyn y cyfarfod cyntaf a drefnwyd gan YesCymru yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Nod y bartneriaeth yw dyfnhau’r cydweithio rhwng y tri mudiad cenedlaethol, gan gydnabod, er bod amgylchiadau gwleidyddol pob gwlad yn wahanol, y gall ymgyrchwyr elwa’n aruthrol o rannu profiadau, strategaethau a chymorth ymarferol.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.