Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn croesawu Comisiwn Cenedlaethol Cymru ond yn galw am lwybr clir tuag at refferendwm annibyniaeth

Mae YesCymru wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am sefydlu Comisiwn Cenedlaethol Cymru, gan alw arno i helpu i osod llwybr clir ac ymarferol tuag at refferendwm annibyniaeth.

Bydd y Comisiwn newydd, dan gyd-gadeiryddiaeth y Fonesig Menna Rawlings a'r Athro Emyr Lewis, yn darparu cyngor annibynnol ar flaenoriaethau datganoli, yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafodaethau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac yn ystyried tri opsiwn: atgyfnerthu datganoli, Teyrnas Unedig ffederal ac annibyniaeth.

Dywedodd YesCymru, a lansiodd ei ymgyrch dros refferendwm annibyniaeth erbyn 2032 yn gynharach eleni, fod y Comisiwn yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r cwestiynau ymarferol ynghylch annibyniaeth Cymru.

Dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd YesCymru:

"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut y bydd y Comisiwn hwn yn gwneud y gwaith paratoi trylwyr sydd ei angen ar gyfer refferendwm annibyniaeth, y mae YesCymru yn credu y dylid ei gynnal erbyn 2032.

"Mae San Steffan wedi dangos dirmyg tuag at y broses ddatganoli yng Nghymru drwy wrthod trosglwyddo grymoedd pellach, gan gynnwys dros Ystad y Goron a seilwaith rheilffyrdd.

"Mae gan sawl maer yn Lloegr fwy o bwerau na Chymru, ac mae'n mynd yn fwyfwy anodd credu bod gan San Steffan naill ai'r ddealltwriaeth na'r ewyllys i roi Cymru yn gyntaf.

"Y cwestiwn mawr yw faint mwy o amser ydyn ni'n ei roi iddyn nhw? Os nad yw Cymru wedi bod yn flaenoriaeth ar ôl 800 mlynedd, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod amser y Deyrnas Unedig ar ben.

"Rydym yn credu'n llwyr y bydd Cymru annibynnol yn arwain at ddyfodol gwell i bobl Cymru, ac yn ein rhoi mewn sefyllfa well i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu pobl.

"Rydym yn annog y Comisiwn i sicrhau bod llwybr clir tuag at annibyniaeth, gan roi dyfodol Cymru yn gadarn yn nwylo pobl Cymru."

Cadarnhaodd YesCymru barodrwydd i gydweithio'n adeiladol â'r Comisiwn, gan bwysleisio ar yr un pryd fod yn rhaid i bobl Cymru gael y cyfle yn y pen draw i benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.