Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn Croesawu Memorandwm Caerdydd ar Hawl Cymru i Hunan-benderfyniad

Mae YesCymru wedi croesawu’r cytundeb hanesyddol a lofnodwyd yng Nghaerdydd heddiw, wrth i arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin lofnodi memorandwm ar y cyd yn cadarnhau hawl Cymru, yr Alban ac Iwerddon i hunan-benderfyniad.

Mae’r memorandwm yn datgan “nad oes gan unrhyw lywodraeth yn San Steffan yr hawl i rwystro democratiaeth na thanseilio’r egwyddor mai ein pobl ni fydd yn penderfynu ar eu dyfodol eu hunain” ac yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i “baratoi ar gyfer, cynllunio a hwyluso newid cyfansoddiadol”.

O dan y setliad cyfansoddiadol presennol, ni all y Senedd ddeddfu i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, ac nid oes gan Gymru unrhyw fecanwaith cyfreithiol sefydledig i gynnal un heb gytundeb San Steffan.

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Rob Hughes:

“Mae YesCymru yn croesawu unrhyw drafodaethau blaengar i sefydlu fframwaith a llwybr tuag at Gymru Annibynnol.

“Y mater sylfaenol yma yw pwy sydd â’r hawl i benderfynu ar ddyfodol Cymru. Credwn fod yn rhaid i Gymru gael yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth heb i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol allu rhwystro’r dewis hwnnw.”

Mae gan Gogledd Iwerddon fecanwaith statudol eisoes ar gyfer cynnal Refferendwm. Nid oes gan Gymru unrhyw fecanwaith cyfatebol.

Parhaodd Mr Hughes:

“Lansiodd YesCymru ymgyrch ym mis Awst i sicrhau refferendwm annibyniaeth erbyn 2032, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio tuag at y nod hwnnw.

“Mae YesCymru yn fudiad llawr gwlad gyda miloedd o aelodau. Er mor gadarnhaol yw memorandwm heddiw, credwn fod yn rhaid i dynged Cymru fod yn nwylo pobl Cymru yn y pen draw, nid gwleidyddion yn unig.

“Byddwn yn cynnal ein 11eg Gorymdaith dros Annibyniaeth yn Aberystwyth ar 26 Medi, a byddwn yn ceisio adeiladu ar ganlyniadau cadarnhaol ein harolwg barn diweddar a’r ymdeimlad gwirioneddol o gyffro sydd o fewn y mudiad. Ymunwch â ni yn Aberystwyth!”

Mewn arolwg barn gan Survation, a gomisiynwyd gan YesCymru ac a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, daeth i’r amlwg y byddai 32% o’r rhai sy’n debygol o bleidleisio mewn refferendwm yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.

Ymhlith y rhai dan 45 oed sy’n debygol o bleidleisio mewn refferendwm, roedd mwyafrif o blaid annibyniaeth ym mhob grŵp oedran: 59% ymhlith pobl 18 i 24 oed, 54% ymhlith pobl 25 i 34 oed a 57% ymhlith pobl 35 i 44 oed.

Bydd 11eg Gorymdaith dros Annibyniaeth YesCymru yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 26 Medi, gan ddechrau am 1pm yng Ngerddi’r Castell.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.