Gyda sioc a thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Dewi ‘Pws’ Morris. Nid yn unig roedd e’n adnabyddus ers yr 1970au am ei gerddoriaeth a’i hiwmor ond hefyd am fod yn ddyn oedd wastad yn barod i siarad yn glir, a gyda gwên, dros annibyniaeth a’r Gymraeg.
Mae bywyd a gyrfa Dewi Pws fel adlewyrchiad o’r mudiad cenedlaethol a bywyd Cymru. Magwyd ef yn Abertawe gan ddilyn cwrs i fod yn athro yng Nghaerdydd. Chwaraeodd rygbi dros glwb Pont-y-pŵl, roedd yn gyfforddus yn y Gymru Gymraeg a’r Gymru nad oedd yn siarad Cymraeg. Roedd y ffaith yma yn rhan o’i apêl a pam y gallai, fel Grav o’i flaen, fod yn un o’r bobl prin hynny oedd yn pontio pobl Cymru.
Roedd Pws yno ar ddechrau'r sin miwsig roc cyfoes Gymraeg ar ddechrau’r 1970au gyda’r Tebot Piws ac yna gydag Edward H. Dafis – un o’r grwpiau roc Cymraeg cyntaf. Roedd Edward H. yn gefnogwyr mawr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hynny ar adeg y protestiadau mawrion dros arwyddion ffyrdd Cymraeg a Sianel Deledu Cymraeg – S4C heddiw. Pan ddaeth Edward H. i ben aeth ymlaen i ganu yn grŵp Inja Roc ac yna Mochyn ‘Apus. Mae caneuon enwog Edward H. fel ‘Tŷ Haf’ a ‘Dewch at eich Gilydd’ yn arwydd o’r sbectrwm gwleidyddol caled a meddal.
Roedd Pws yno ar wawrio teledu Cymraeg yn yr 1970au gan gymryd rhan yn rhaglen blant ‘Miri Mawr’ ac roedd yno ar ddechrau'r gyfres opera sebon, Pobol y Cwm yn 1974. Yn sgîl hynny, ymddangosodd yn y ffilm rygbi eiconig, ‘Grand Slam’ sydd dal i ddiddanu pobl hyd heddiw. Yn yr 1980au roedd ei gyfres comedi coch, ‘Torri Gwynt’ yn syfrdanol o boblogaidd – cofiaf bois yn Ysgol Glantaf na fyddai byth yn siarad Cymraeg wrth eu bodd gyda’r gyfres ac yn sôn amdano drannoeth yn yr ysgol. Roedd gan Pws y gallu i siarad a gwneud i bobl o bob cefndir i wenu a chlosio at y Gymraeg.
Bu’n ymgyrchydd cyson di-flewyn ar dafod dros y Gymraeg. Wastad yn barod i gefnogi Cymdeithas yr Iaith, a beirniadu sefydliadau Cymraeg hefyd os oedd angen.
Baswn i byth yn honni ‘mod i’n un o ffrindiau pennaf Dewi, ond des i’w adnabod yn weddol dda yn 2013 wrth i mi sefydlu Ras yr Iaith – ras hwyl dros y Gymraeg yn seiliedig ar rasys tebyg yn Llydaw (Ar Redadeg) a Gwlad y Basg (Korrika). Cyfansoddodd Pws gân y Ras yn ddi-dal (er i ni dalu Stiwdio Fflach a’r cerddorion am recordio). Defnyddiwyd y gân drwy gydol y rasys. Yn nodweddiadol o Pws cytunodd hefyd i fod yn MC i’r Ras gan sefyll yng nghefn fan fawr wen yn gweiddi anogaeth a chyfarwyddiadau a chodi hwyl i’r miloedd o bobl a phlant a redodd i basio baton yr iaith ymlaen! Wrth gwrs, gwnaeth Pws hyn oll am ddim heb unwaith ofyn am arian na ffafr – dyna oedd natur bonheddig y dyn. Roedd am i’r holl elw o werthu cilometrau i redeg yn y Ras fynd at y gronfa ganolog i roi nôl i fudiadau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Pan sefydlwyd YesCymru yn 2016 daeth yn gefnogwr o’r mudiad. Cofiaf y syrpreis a’r hapusrwydd yn 2019 pan gysylltodd gyda mi a Hedd Gwynfor (Ysgrifennydd YesCymru ar y pryd) gyda chân i YesCymru. Doeddwn i heb ofyn am un, na hyd yn oed meddwl am y syniad. Ond dyna natur Pws, roedd yn gweld yr angen lle nad oedd eraill. Mae’r gân ‘Yes Yes Cymru’ yn wych – y dôn yn syml a’r geiriau dwyieithog yn tarro’r hoelen ar ei phen.
Byddai Pws yn fy ffonio yn achlysurol am sgwrs – fel arfer yn ystod oriau gwaith! Roedd am wybod, efallai clywed gen i, fod popeth yn iawn gydag YesCymru. Roedd yn pryderi bod y mudiad oedd fel ffagl fawr llachar yn tanio annibyniaeth yng nghalonnau pobl Cymru am edwino. Ac roedd, roedd ‘na adegau pan oedd y mudiad, fel pob mudiad, yn cael ei llanw a thrai. Ond mae YesCymru yn wydn a dydy’r mudiad yma ddim yn mynd i ddiflannu. Gyda’r galwadau ffôn yno, byddai’n fy ngalw yn Sioni Winwns a finnau’n ei alw’n ‘Pwsddyn’, cefais gip ar Dewi Pws y dyn dwys oedd yn becso tu ôl y wen.
Bu farw Pws llawer rhy fuan. Roedd ‘na ddegawd da arall o ddwlu ac ymgyrchu yno. Mae’n fy nhristau na fydd yn gweld y newid mawr rwy’n siŵr sydd am ddod i Gymru. Ond mae’r hyn mae e wedi gwneud i dynnu pobl at ei gilydd, rhoi gwen ar wyneb y Gymraeg a chenedlaetholdeb, a’i gefnogaeth gadarn i YesCymru, yn waddol bwysig eithriadol. Rwy’n amau na welwn ni fyth eto person fel Dewi ‘Pws’ Morris a hynny am fod ei fywyd e a’i brofiadau e yn ddrych o’r newid syfrdanol sydd wedi bod yng Nghymru – er gwell a gwaeth – ers yr 1970au.
Cwsg mewn hedd, Pwsddyn!
Siôn T. Jobbins (Cyn Gadeirydd YesCymru)