Bydd YesCymru yn cynnal etholiadau ar gyfer Cyfarwyddwyr newydd ym mis Chwefror 2025. Bydd enwebiadau ar agor o 16 Ionawr i 5 Chwefror, gyda’r etholiadau’n cael eu cynnal rhwng 24 a 28 Chwefror.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gyfarwyddwr? Darllenwch isod i ddysgu mwy am pam fod angen Cyfarwyddwyr ychwanegol arnom a pham y dylech ystyried cynnig eich hun.
Pam mae angen Cyfarwyddwyr newydd:
Yn gyntaf, mae angen Cyfarwyddwyr newydd arnom er mwyn i'r sefydliad fod mor effeithiol â phosibl. Po fwyaf o gyfarwyddwyr sydd gennym, y mwyaf o sgiliau a'r amser sydd gennym ar lefel bwrdd i fuddsoddi mewn gyrru ein hymgyrch a'r sefydliad yn ei flaen. Mae'r baich gwaith yn cael ei reoli'n well pan fo mwy i'w rannu a chyfrannu.
Yn ail, mae angen i ni allu cynrychioli pob rhan o Gymru yn gyfartal ac mae'n bwysig bod gennym bobl fedrus o bob rhanbarth o Gymru yn rhan o'n Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLC).
Pam y dylech ddod yn Gyfarwyddwr:
I Gyfrannu.
Mae gwasanaethu fel cyfarwyddwr yn ffordd wych o wasanaethu achos rydych chi’n angerddol amdano. Meddyliwch am y materion sydd o bwys mwyaf i chi sy'n cymell eich rhesymau dros ddymuno annibyniaeth. Mae gwasanaethu fel cyfarwyddwr yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth ar lefel strategol a sicrhau bod yr ymgyrch dros Gymru annibynnol yn llwyddiannus, gan roi cyfle i chi ac i bawb yng Nghymru newid Cymru er gwell.
Amrywiaeth a chynrychiolaeth
Mae bwrdd yn elwa ar amrywiaeth o bob math. Amrywiaeth ethnigrwydd, sgiliau, gwybodaeth, profiad, rhywedd a mwy. Beth bynnag fo’ch cefndir, po fwyaf o gyfarwyddwyr sydd gennym, po fwyaf y gall y sefydliad elwa o amrywiaeth y cyfarwyddwyr hynny.
Llesiant personol a boddhad
Er y gall wirfoddoli eich amser ymddangos fel gormod o faich, yn enwedig mewn byd modern lle mae amser yn werthfawr, mae ymchwil yn dangos dro ar ôl tro bod rhoi eich amser ac egni i eraill yn fuddiol i'ch iechyd meddwl a’ch lles eich hun. Gall wneud i fywyd deimlo'n fwy ystyrlon a rhoi ymdeimlad pwerus o bwrpas i’ch bywyd.
Byddwch hefyd yn cael meithrin perthnasoedd personol ystyrlon gyda phobl debyg a chael rhywfaint o hwyl ar hyd y ffordd hefyd!
Hunan-ddatblygiad
Yn gyfnewid am roi eich amser ac egni, byddwch hefyd yn datblygu’ch hun a phobl eraill.
Gellir rhannu llu o sgiliau a gwybodaeth i gefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.
Yn etholiadau 2025, mae'r seddi canlynol yn rhydd:
- Gogledd Cymru - 2 sedd
- Canol a Gorllewin Cymru - 1 sedd
- Canol De Cymru - 2 sedd
- Dwyrain De Cymru - 1 sedd
- Gorllewin De Cymru - 2 sedd
- Tu allan i Gymru - 2 sedd
Gall ymgeiswyr sefyll am sedd naill ai yn y rhanbarth lle y maen nhw’n byw neu sefyll am sedd mewn rhanbarth cyfagos os ydynt yn aelod gweithgar o grŵp achrededig YesCymru yn y rhanbarth hwnnw.
GWNEWCH GAIS YN AWR!
- Mae’r ffurflen gais ar gyfer ymgeiswyr ar gael yma. Mae hwn yn cynnwys rhestr lawn o feini prawf ar gyfer ymgeiswyr ac enwebwyr.
- Mae dogfen Swyddogaeth a Chyfrifoldebau Cyfarwyddwyr YesCymru ar gael yma.