Symud ymlaen o'r llywio

Caerdydd i Groesawu Cynhadledd Ewropeaidd ar Annibyniaeth

Cynhadledd ICEC i'w Chynnal yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd – Gorffennaf 5, 2025

Mae YesCymru yn falch o gyhoeddi y bydd cynhadledd Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop (ICEC) 2025 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 5, yn yr Hen Lyfrgell yng Nghanol Caerdydd. Mae'r digwyddiad yn nodi carreg filltir bwysig yn y cydweithrediad sy'n tyfu rhwng mudiadau mewn gwledydd Ewropeaidd sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth.

Yn cael ei threfnu gan YesCymru ar ran Cymru, sydd yn un o’r gwledydd sydd yn aelodau o ICEC, bydd y gynhadledd ryngwladol hon yn dod â chynrhychiolwyr o saith cenedl: Cymru, yr Alban, Catalunya, Gwlad y Basg, Fflandrys, Sud Tirol, a Veneto yngyd. Y ddolen gyswllt rhwng y gwledydd yma ydi’r ymrwymiad i ddod a hunanlywodraeth ddemocrataidd a chydnabyddiaeth genedlaethol i’r gwledydd.

ICEC

Mae Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop (ICEC) yn rwydwaith rhyngwladol sy'n gweithio i hyrwyddo'r hawl i hunanreolaeth, annibyniaeth a phrosesau democrataidd heddychlon ar wledydd bychain Ewrop. Mae ICEC yn hybu cynnwys y gwledydd yma o fewn y fframwaith Ewropeaidd ac yn cefnogi cydweithio ar faterion gwleidyddol, economaidd, a diwylliannol.

Y Weledigaeth i Gydweithio

Nod Cynhadledd ICEC 2025 yng Nghaerdydd yw creu cysylltiadau gwaith agosach rhwng y saith gwlad sy'n cymryd rhan, gan hyrwyddo strategaethau wedi'u rhannu, cyfnewid gwybodaeth, a chydweithrediad yn eu hymdrechion am annibyniaeth. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr, trafodaethau panel, a chyflwyniadau diwylliannol, gan gynnig llwyfan i drafod dyheadau a heriau pob gwlad.

Dywedodd Phyl Griffiths, llefarydd ar ran ICEC, Cymru:

"Mae hi’n fraint ac anrhydedd i gynnal cynhadledd ICEC yma yng Nghymru, mae hwn yn fwy na chynhadledd - mae'n dathliad o ddemocratiaeth, hunaniaeth, a'r ymdrech gyffredin am ddyfodol gwell ar gyfer ein cenhedloedd."

Dywedodd Geraint Thomas, cynrychiolydd Cymru ar gyfer ICEC:

"Mae trefnu cynhadledd ryngwladol fel hyn yn gyfle heb ei ail i gryfhau cysylltiadau rhwng ein gwledydd. Drwy ddod ynghyd, rydym yn rhannu nid yn unig ein heriau ond hefyd ein strategaethau, syniadau, a gobaith ar gyfer y dyfodol. Mae'r cydweithrediad hwn yn rhoi sylfeini ar gyfer cyfnod newydd o gydweithrediad ymhlith gwledydd bychain Ewrop — un sydd wedi ei seilio ar barch, undod, a gweledigaeth yr ydym yn ei rannu o hunanlywodraeth ddemocrataidd."

Byddwch yn rhan o'r gynhadledd...

Mae gynhadledd ICEC ar agor i'r cyhoedd, y cyfryngau, a phawb sydd diddordeb yn nyfodol democratiaeth Ewropeaidd. Bydd mwy o fanylion, gan gynnwys amseroedd a chyhoeddiadau siaradwyr, yn cael eu rhannu yn yr wythnosau i ddod.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.