50 Mlynedd ers dienyddio Txiki ac Otaegi
Ym mis Medi, nodwyd hanner can mlynedd ers dienyddio Txiki ac Otaegi, dau ymgyrchydd o Wlad y Basg a gafodd eu dienyddio gan drefn ffasgaidd yr unben Franco ddau fis cyn ei farwolaeth.
I nodi'r hanner canmlwyddiant hynny, cynhaliwyd sawl arddangosfa a digwyddiad coffa, yn ogystal â rali fawr yn Iruñea (Pamplona) a ddenodd dros 5,000 o bobl.
Er bod rhai ar y chwith wleidyddol yn Sbaen wedi ceisio manteisio ar ffigurau Txiki ac Otaegi drwy eu portreadu fel “ymgyrchwyr gwrth-ffasgaidd” yn unig, mae pobl Gwlad y Basg yn gwybod yn iawn eu bod wedi ymladd nid yn unig yn erbyn unbennaeth Franco ond hefyd dros annibyniaeth Euskal Herria (Gwlad y Basg) fel holl aelodau ETA o’r un genhedlaeth. Bu farw Franco yn ei wely 50 mlynedd yn ôl, ond nid yw Euskal Herria eto wedi sicrhau ei rhyddid o wladwriaeth Sbaen.

Ar Dachwedd 22, mae’r chwith wladgarol yn Ngwlad y Basg wedi trefnu gorymdaith genedlaethol yn Bilbao o dan y slogan “Askatasunaren Haizea” (Gwynt y Rhyddid), i alw am annibyniaeth i Wlad y Basg ac i gofio Txiki ac Otaegi yn ogystal â’r holl wladgarwyr Basgaidd a gafodd eu dienyddio gan yr unben Franco.
Statws Gwleidyddol Newydd ar Gyfer Gorllewin Gwlad y Basg
Bu ymgais yn 2005 gan lywodraeth Gwlad y Basg ar y pryd, dan arweiniad y Lehendakari (Llywydd) Ibarretxe, i ddiwygio’r statws gwleidyddol a gymeradwywyd yn 1979 ar gyfer Gorllewin Gwlad y Basg (Cymuned Awtonomaidd y Basg). Daeth y statws gwleidyddol hwnnw â mwy o ryddid ac awtonomiaeth i’r rhan hon o’n gwlad, ond mae wedi cael ei dorri yn ol yn systematig gan lywodraeth Sbaen ers hynny.
Yn y bôn, cynigiodd y diwygiad hwn fodel cyffederasiwn ar gyfer Sbaen lle byddai Gorllewin Gwlad y Basg yn mwynhau awtonomiaeth wleidyddol helaeth (roedd awtonomiaeth economaidd ac ariannol eisoes wedi’i sicrhau yn 1979). Byddai wedi sefydlu perthynas wleidyddol lle byddai Gorllewin Gwlad y Basg yr un mor gyfartal â Sbaen. Er i Senedd y Basg gymeradwyo’r prosiect gwleidyddol hwn yn 2005, fe’i gwrthodwyd yn blwmp ac yn blaen gan lywodraeth a sefydliadau cyfreithiol Sbaen – y farnwriaeth (judiciary).

Ar ôl 20 mlynedd o aros, mae’r ddwy brif blaid genedlaetholgar yn Nghymuned Awtonomaidd Gwlad y Basg (y dde genedlaetholgar a’r chwith genedlaetholgar) wedi ailddechrau’r prosiect ac yn llunio statws gwleidyddol newydd lle mae’r PSOE Basgaidd, sy’n ddibynnol ar y Blaid Sosialaidd Sbaenaidd, hefyd yn cymryd rhan.
Mae cyfraniad y PSOE i’r prosiect gwleidyddol hwn yn codi amheuon na fydd yn cyd-fynd a’n breuddwyd ni o annibyniaeth, a statws cenedlaethol llawn. Er bod y chwith a’r dde genedlaetholgar yn dadlau y dylai’r geiriad gynnwys hawl pobl Gwlad y Basg i benderfynu ar eu dyfodol gwleidyddol (ffordd arall i ddweud hawl i hunanreolaeth), nid yw’n ymddangos y bydd y PSOE yn derbyn y cysyniad hwn.
Yn ol y sôn hefyd, y bydd y statws newydd yn cydnabod cymeriad cenedlaethol Gwlad y Basg ac yn sefydlu perthynas wleidyddol lle byddai llywodraethau Gwlad y Basg a Sbaen yn gwbl gyfartal. Mae hyn yn greiddiol – gan ei fod yn golygu nad oes gan lywodraeth Sbaen unrhyw bosibilrwydd o ymyrryd – fel y mae’n ei wneud ar hyn o bryd – yn y penderfyniadau gwleidyddol sy’n cael eu gwneud yng Ngorllewin Gwlad y Basg.
Disgwylir y bydd drafft o’r statws gwleidyddol newydd yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf.
Josu Albero