LLAWER MWY NA GÊM BÊL-DROED
Ar 15 Tachwedd 2025, llenwyd Stadiwm San Mamés ym Mhilbao (Gwlad y Basg) yn llawn i’r entrychion, gyda 51,000 o gefnogwyr yn mynychu’r gêm bêl-droed rhwng timau cenedlaethol Gwlad y Basg a Phalesteina.
Roedd hyn yn llawer mwy na digwyddiad chwaraeon. Roedd yn ddatganiad gwleidyddol pwerus gyda dwy alwad glir: yn gyntaf, cydnabyddiaeth swyddogol i dîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad y Basg; ac yn ail, datganiad o undod â phobl Palesteina, sydd ar hyn o bryd yn dioddef hil-laddiad creulon.
Sefydlwyd tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad y Basg ym 1930 a bydd yn dathlu ei ganmlwyddiant cyn bo hir. Cafodd ei wahardd yn ystod unbennaeth y Cadfridog Franco, er i'r tîm barhau i chwarae gemau mewn alltudiaeth. Ar ôl marwolaeth yr unben, ailgychwynnodd y tîm ei weithgareddau. Mae pêl-droedwyr o bob rhan o Wlad y Basg yn cynrychioli’r tîm, waeth beth fo’r ffiniau gweinyddol.
Yn wahanol i dimau cenedlaethol eraill o genhedloedd heb wladwriaeth - megis yr Alban, Cymru, neu Ynysoedd y Ffaröe - dim ond gemau cyfeillgar y caniateir i dîm cenedlaethol Gwlad y Basg eu chwarae, ac nid cystadlaethau swyddogol. Mae’r rheswm yn syml: mae gwladwriaeth Sbaen yn atal ffederasiynau rhyngwladol fel FIFA ac UEFA rhag rhoi’r hawl i Wlad y Basg (Euskal Herria) gofrestru tîm cenedlaethol a gydnabyddir yn swyddogol.
Mae arolygon barn yn dangos yn gyson gefnogaeth llethol ymhlith poblogaeth Gwlad y Basg i gydnabyddiaeth swyddogol timau chwaraeon y wlad.
Enillodd tîm Gwlad y Basg y gêm yn erbyn Palesteina 3–0. Eto i gyd, y tu hwnt i’r sgôr terfynol, anfonodd y stadiwm llawn neges ddigamsyniol: galwad am dîm cenedlaethol Gwlad y Basg cwbl swyddogol, a’r alwad i roi diwedd ar yr hil-laddiad yn erbyn pobl Palesteina, roedd cri’r negeseuon yma i’w clywed yn uchel ac yn glir.

PROTEST FAWR YN ERBYN YMOSODIADAU AR YR IAITH FASGAIDD
Ar 7 Ionawr, daeth Euskalgintzaren Kontseilua - y prif sefydliad sifil sy’n gweithio i hyrwyddo ac amddiffyn yr iaith Fasgaidd - â miloedd o bobl ynghyd mewn protest fawr ym Mhilbao.
Nod y brotest oedd condemnio’r ymosodiadau cynyddol ar yr iaith Fasgaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan lysoedd Sbaen, ac annog siaradwyr Basgeg i ddod ynghyd i amddiffyn eu hawliau ieithyddol.
Er bod y Fasgeg yn iaith swyddogol yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Gorllewin Gwlad y Basg), mae nifer o ddyfarniadau yn y llysoedd wedi tanseilio’r statws hwn yn sylweddol. Mae rhai o’r llysoedd wedi dyfarnu hyd yn oed ei bod yn anghyfreithlon mynnu gwybodaeth o’r Fasgeg fel amod ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod Sbaeneg yn gweithredu fel yr unig iaith gwbl swyddogol, tra bod y Fasgeg yn cael ei neilltuo i statws eilradd.
Mewn ymateb, mae Senedd Gorllewin Gwlad y Basg ar hyn o bryd yn ystyried drafftio deddf newydd gyda’r nod o atal camddefnydd cyfreithiol o’r fath. Mae’r dyfarniadau hyn wedi cael eu hyrwyddo’n weithredol gan sefydliadau a chyrff unoliaethol Sbaenaidd sy’n gwrthwynebu normaleiddio ieithyddol.
Josu Albero - ICEC Euskal Herria (Gwlad y Basg)