Gall treftadaeth gyfoethog Ffestiniog helpu i hybu'r economi a'r diwylliant lleol.
Dyna'r neges gan ddigwyddiad Nabod Ffestiniog, sy'n cael ei threfnu gan YesCymru Bro Ffestiniog, i hyrwyddo achos annibyniaeth Cymru.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim, a gynhelir ddiwedd y mis hwn, yn rhan o'r gyfres Nabod Cymru sy'n cael ei threfnu gan YesCymru, y grŵp sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth, ledled Cymru, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, teithiau tywys, areithiau a thrafodaethau panel.
Yn ôl un o drefnwyr y digwyddiad, Hefin Jones, mae'r ffaith bod y model menter gymdeithasol wedi cael ei mabwysiadu'n frwd yn yr ardal yn gallu bod yn "ysbrydoliaeth" i gymunedau eraill yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn nos Wener, Medi 27 am 7 o'r gloch gyda Noson Caban, sy'n cael ei chynnal yn Cellb yng nghanol Blaenau Ffestiniog ac yn cynnwys sgwrs gydag AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts a pherfformiad gan y canwr a'r cyfansoddwr lleol, Gai Toms.
Yna ar ddydd Sadwrn, Medi 28, bydd y diwrnod yn dechrau gyda brecwast yng Nghaffi Llyn yn Nhanygrisiau, a fydd yn digwydd rhwng 8:30yb a 10:00yb.
Wedyn bydd gan fynychwyr y digwyddiad ddwy daith dywys i ddewis ohonynt, a bydd y ddwy yn cychwyn o'r caffi am 10:00yb.
Bydd un daith yn mynd â’r cerddwyr i Lyn Cwmorthin a heibio olion chwarel lechi Cwmorthin.
Bydd y daith arall, y mae lle i 15 arni, yn mynd â’r cerddwyr mewn 3 char i barc beicio poblogaidd Antur Stiniog, menter gymdeithasol ddielw sydd â nifer o safleoedd ledled yr ardal.
Am 2 o'r gloch y prynhawn cynhelir trafodaeth rhwng awduron lleol yn Siop Lyfrau'r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog lle bydd Dewi Prysor ac awdur arall i'w gadarnhau yn trafod eu gwaith.
Yna am 4 o'r gloch cynhelir trafodaeth banel ar annibyniaeth gyda Cadi Dafydd, newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn newyddion Golwg360 yng nghaffi Tŷ Coffi Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog.
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth fydd Mererid Boswell, o grŵp Melin Drafod, AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor, y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn a chyn Gyfarwyddwr YesCymru, Gaynor Jones.
Gyda'r nos o 8:30yh ymlaen, bydd noson meic agored dan arweiniad grŵp Acordions dros Annibyniaeth yn cael ei chynnal yng Ngwesty Pengwern, gwesty sy'n eiddo i'r gymuned yn Llan Ffestiniog.
Dywedodd Hefin Jones o YesCymru Bro Ffestiniog: "Mae aelodau YesCymru Bro Ffestiniog yn edrych ymlaen at groesawu pobl o bob cwr o'r wlad i benwythnos Nabod Cymru.
"Mae gennym nifer o ddigwyddiadau cyffrous wedi'u cynllunio sy'n cynnwys teithiau tywys, trafodaethau panel a cherddoriaeth fyw.
"Wrth i ni wneud hyn byddwn yn tynnu ar dreftadaeth gyfoethog Ffestiniog am ysbrydoliaeth. Er enghraifft, ar y nos Wener, rydyn ni'n cynnal Noson Caban, fydd yn cynnwys sgwrs gan Liz Saville Roberts AS a cherddoriaeth gan Gai Toms.
"Mae'r gair caban yn arwyddocaol oherwydd ers talwm mi fyddai'r chwarelwyr oedd yn gweithio yn yr ardal yma yn cyfarfod am ginio mewn cwt roedden nhw'n ei alw'n y caban.
"Mae hyn yn rhywbeth fyddai'n digwydd ym mhob un o'r chwareli yn yr ardal gyfagos. Bydden nhw'n cael awr i ffwrdd am ginio lle bydden nhw'n trafod gwleidyddiaeth a chanu caneuon.
"Yn ogystal â chyfle i gael seibiant a chymdeithasu roedd hefyd yn fforwm gwleidyddol a diwylliannol. Dyna pam rydyn ni'n galw'r nos Wener Nabod Ffestiniog yn Noson Caban.
"Felly mi fyddwn yn cael rhywun i siarad am wleidyddiaeth a chael rhywun i ganu. Mae hyn yn ffordd newydd o barhau â hen draddodiad."
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl o bob rhan o Gymru yn dod i Ffestiniog ac mae'n gyfle i ni gyd drafod y mudiad annibyniaeth a lle rydyn ni'n mynd yn y dyfodol.
"Mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud ag anrhydeddu ein treftadaeth ond mae hefyd yn ymwneud â dangos sut y gall yr hyn rydym wedi'i wneud yn Ffestiniog i hybu'r economi leol a hyrwyddo ein diwylliant fod yn ysbrydoliaeth i eraill.
"Mae Antur Stiniog yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni gan bobl yn y gymuned leol yn dod at ei gilydd i greu menter gymdeithasol. Mae'n atyniad hynod boblogaidd.
"Mae'n dod ag arian i mewn i'r ardal ac yn sicrhau fod yr arian yn aros ac yn cylchredeg yn yr economi leol. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg.
"Bydd y rhai sy'n dod ar y daith dywys yn cael clywed am sut y dechreuodd y fenter yn ogystal â'i gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn credu bod hwn yn fodel y gellir ei ddefnyddio ledled Cymru er mwyn gwella ein cymunedau.
"Mae Nabod Ffestiniog yn gyfle i ni drafod y math o Gymru rydan ni eisiau yn y dyfodol a sut allwn ni gyrraedd yno."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr YesCymru, Rob Hughes: "Roedd yr ymateb gawson ni i'n digwyddiad Nabod Cymru yn ddiweddar ym Merthyr yn wych ac rydym yn anelu at gael awyrgylch a phrofiad tebyg yn Ffestiniog.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Blaenau ym mis Medi i drafod annibyniaeth a chael amser gwych.
"Ar ran y bwrdd, hoffwn ddiolch o galon i bawb fu'n ymwneud â YesCymru Bro Ffestiniog am gytuno i gynnal y digwyddiad yn eu hardal ac rwy'n gobeithio gweld llawer o bobl yno."