Symud ymlaen o'r llywio

Diweddariad Ariannol: Edrych yn ôl a Dyfodol Disglair

Mae’n bleser gennym rannu diweddariad ariannol gyda chi, sy’n adlewyrchu ar heriau 2023 a’r cynnydd sylweddol rydym wedi’i wneud yn 2024.

2023: Blwyddyn Heriol

Mae’r Cyfrifon Ariannol a gwblhawyd yn ddiweddar ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023 yn dangos yr anawsterau a wynebwyd gennym yn 2023. Arweiniodd costau uwch at golled sylweddol o £105,604, gyda’n cronfeydd arian parod yn gostwng 70% rhwng mis Mawrth 2023 a diwedd 2023.

Mae’r heriau hyn yn tanlinellu pam y bu angen cymryd camau pendant i sicrhau dyfodol y mudiad.

Bydd cyfrifon 2023 yn cael eu trafod yn llawn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gynnar yn 2025.

2024: Dyfodol Gwell

Mae’n bleser gennym adrodd bod 2024 wedi bod yn drobwynt i YesCymru.

Trwy reolaeth ariannol ofalus a chynllunio strategol, byddwn yn gwneud elw yn 2024, gan ganiatáu inni ailadeiladu ein cronfeydd arian parod sydd wrth gefn. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn awr wedi ein paratoi'n well ar gyfer heriau'r dyfodol ac yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae ein sefyllfa ariannol gryfach wedi ein galluogi i wneud mwy nag erioed o’r blaen. Mae uchafbwyntiau 2024 yn cynnwys:

  • Presenoldeb cyntaf yn Tafwyl, lle bu inni gysylltu â miloedd o gefnogwyr.
  • Digwyddiadau llwyddiannus NabodCymru ym Merthyr a Bro Ffestiniog.
  • Cefnogaeth i grwpiau lleol sy'n cynnal digwyddiadau ledled Cymru.

Rydym hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol. Mae Swyddog Cyfathrebu newydd wedi ymuno â’n tîm, a fydd yn canolbwyntio ar wella’r ffordd yr ydym yn cysylltu â chefnogwyr ac yn ymgysylltu â’r etholwyr ehangach. Yn ogystal maer nifer o ymgyrchoedd cyffrous newydd ar y gweill!

2025: Edrych Ymlaen

Wrth edrych ymlaen at 2025, byddwn yn dychwelyd i gefnogi dwy orymdaith annibyniaeth, mwy o weithgareddau cymunedol, yn ogystal â sawl digwyddiad cenedlaethol newydd.

Diolch am eich cefnogaeth wrth i ni weithio gyda’n gilydd tuag at YesCymru cryfach a dyfodol mwy disglair i bawb sy’n galw Cymru’n gartref.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Yn dangos 1 ymateb

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.

  • YesCymru Caernarfon
    commented 2025-01-02 20:38:27 +0000
    Ardderchog – mae’r sefyllfa rwan yn gadarnhaol a chyffroes! Diolch i’r Cyfarwyddwyr, ac yn arbennig i Phyl, am eich dyfalbarhad yn 2024. Ar ran YesCaernarfon, rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ymgyrchoedd egniol yn 2025. Diolch.