Symud ymlaen o'r llywio

Llawlyfr Grwpiau (2019 tan 2022)

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru o bryd i'w gilydd, ond hefyd gwiriwch https://www.yes.cymru/groups am adnoddau eraill sy'n ymwneud â grwpiau YesCymru.

Y peth cyntaf i'w gofio am redeg grŵp YesCymru yw nad oes un ffordd o wneud hynny, felly gwnewch o'n grŵp i chi! Bydd eich grŵp YesCymru lleol chi'n adlewyrchu'ch cymuned neu dref leol, a'r hyn sy'n bwysig i chi ar y cyd. Mae yna resymau diddiwedd dros fod eisiau Cymru annibynnol, a gwahanol ffyrdd i ymgyrchu drosti, felly gwnewch hynny yn eich ffordd chi.

Fodd bynnag... mae yna rai pethau defnyddiol a fydd o gymorth i chi. Gyda hynny mewn cof, ac er mwyn osgoi pawb i orfod ail-ddyfeisio'r olwyn, dyma gasgliad o bethau yr ydym wedi'u dysgu hyd yn hyn ar ein taith tuag at Gymru annibynnol.

Gallwch neidio i'r adrannau perthnasol yma...

 

Sefydlu eich grŵp

Oes angen caniatâd arnaf i sefydlu grŵp lleol o YesCymru?

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch trwy Twitter @YesCymru neu Facebook, dim ond i ddweud helo ac i wneud yn siŵr nad oes eisoes grŵp lleol yn eich ardal chi rydych wedi ei fethu!

Os ydych chi'n cychwyn grŵp, bydd angen i ni wybod eich enw llawn a'ch cyfeiriad e-bost personol. Mae hyn ar gyfer ein cofnodion ni'n unig – ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag eraill.

Enwi eich grŵp

Ystyriwch pa leoliad fyddai'r un gorau i'ch grŵp ei gynrychioli. Efallai y bydd tref/dinas neu ardal benodol yn gweithio'n well na dewis sir gyfan yng Nghymru fel eich enw chi, gan y bydd wedyn yn caniatáu i drefi a chymunedau eraill yn y sir ffurfio eu grwpiau eu hunain. Os ydych chi'n byw yn ardal Caerdydd neu Abertawe, mae yna grwpiau ar gyfer y ddinas gyfan, ond hefyd grwpiau sy'n cynrychioli rhai o'r ardaloedd, felly mae'n hollol iawn os ydych chi am greu grŵp mwy lleol fel hyn.

Sylwer mai'r ffurf swyddogol o steilio enw ein mudiad yw YesCymru (mewn un gair) yn hytrach na Yes Cymru. Yn yr un modd, y talfyriad ar gyfer enw grwpiau yw, er enghraifft, YesAbertawe, yn hytrach nag Yes Abertawe.

E-bost

Y cam cyntaf yw cael cyfeiriad e-bost ‘@yes.cymru’ cyffredinol wedi ei greu ar gyfer eich grŵp. Bydd hyn yn ddefnyddiol wrth greu unrhyw gyfrifon eraill y gallai fod eu hangen arnoch, e.e. cyfryngau cymdeithasol. Hefyd pan fyddwch chi'n dechrau cael pobl eraill i gyfrannu at redeg y grŵp, bydd yn eich galluogi i rannu dyletswyddau e-bost rhwng aelodau'r grŵp.

Byddwch yn medru gyrru e-bost fel, a derbyn e-byst wedi eu gyrru at, enw eich grŵp, e.e. [email protected] neu [email protected]Os oes enw dwyieithog ar eich ardal chi, e.e. Y Fenni ac Abergavenny, yna byddwn yn creu cyfeiriadau yn y ddwy iaith, h.y. [email protected] ac [email protected] - y ddau yn cyrraedd yr un blwch post, felly gellir defnyddio'r naill neu'r llall.

Bydd angen i ni greu'r blwch post ar eich rhan yn Google Workspace, ond chi fydd yn dewis y cyfrinair er mwyn mewngofnodi, a does gennym ni ddim ffordd o wybod beth fydd y cyfrinair.

Mae e-bost Google yn wych ar gyfer anfon e-byst at bobl unigol neu grwpiau bach o bobl, ond er mwyn anfon e-byst swmpus at gefnogwyr yn eich ardal chi, fodd bynnag, dylid defnyddio NationBuilder (gweler y rhan Cronfa ddata aelodau isod), am edrychiad fwy proffesiynol.

Byddwn yn rhestru cyfeiriad e-bost eich grŵp ar ein gwefan fel y gall pobl yn eich hardal chi, a chynrychiolwyr grwpiau YesCymru lleol eraill, gysylltu â chi. Rydym yn eich annog i wirio'r cyfrif e-bost yma'n aml am ohebiaeth.

Cyfryngau cymdeithasol

Dechreuwch gyda chyfrif Twitter ac os gallwch chi, hefyd Tudalen neu grŵp Facebook. Os nad ydych yn gyffyrddus gyda'r un o'r pethau hyn, recriwtiwch ffrind sydd yn! Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost grŵp newydd i gofrestru gyda'r gwefannau.

Gyda Twitter dim ond un math o gyfrif sydd, felly mae'n eithaf syml. Sefydlwch eich cyfrif, ac os oes gennych chi ddigon o le, gallwch chi ddefnyddio'r enw yn ei ffurf lawn, e.e. ar gyfer enw'r dudalen/cyfrif fe allech chi gael YesCymru Welshpool, ond os ydych chi'n gyfyngedig o ran nifer y nodau (mae handle Twitter yn gyfyngedig i 15 nod) yna gallai'r ffurf gryno, e.e. YesWelshpool fod yn fwy priodol.

Gyda Facebook gall fod yn anodd ar y dechrau. Pan ydych chi'n defnyddio Facebook ar gyfer eich rhwydweithio cymdeithasol personol, gelwir y math hwn o gyfrif yn broffil.  Mae proffiliau wedi'u bwriadu ar gyfer pobl, nid sefydliadau, ac felly os ceisiwch greu proffil yn enw eich grŵp YesCymru, mae'n debyg y bydd yn cael ei gau i lawr gan Facebook, a bydd yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau. Yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw naill ai Tudalen neu grŵp, neu'r ddau. Mae tudalen yn bennaf i roi gwybod i'r cyhoedd am weithgareddau'r grŵp YesCymru, ac mae grŵp yn bennaf er mwyn trafodaeth rhwng cefnogwyr yn eich ardal chi.

Gall proffiliau (h.y. pobl) ddangos cefnogaeth i Dudalennau trwy eu 'Hoffi', a phan fyddant yn gwneud hynny, bydd eich cynnwys yn ymddangos ar eu llinell amser. Gall proffiliau 'ymuno' â grwpiau i gymryd rhan. Esbonnir y gwahaniaeth rhwng y tri math o gyfrif yn yr erthygl hon ar wefan Facebook.

O ran rhoi mynediad i'r cyfrifon rhwydweithio cymdeithasol i eraill yn eich grŵp YesCymru, mae Twitter a Facebook yn dra gwahanol yn hyn o beth. Gyda Twitter nid yw'n bosibl rhoi'r caniatâd i gyfrif ddefnyddio cyfrif arall, felly'r unig ffordd yw rhoi'r prif gyfrinair iddynt. Os ydyn nhw'n defnyddio Twitter ar ap ffôn clyfar, yna bydd cyfrif y grŵp YesCymru yn ymddangos fel cyfrif ar wahân ar eu rhestr cyfrifon Twitter. Datrysiad syml yw hwn, ond yn fwy cyfyngol, oherwydd mae'n rhaid i chi rannu'r cyfrinair gyda'r holl gyfranwyr, ac os ydych chi am ddirymu mynediad rhywun, bydd yn rhaid i chi newid y cyfrinair.

Noder: pan fydd y cyfrinair Twitter yn cael ei newid, nid yw hyn yn allgofnodi holl ddefnyddwyr y cyfrif yn awtomatig, felly bydd pawb sydd â'r cyfrif wedi'i sefydlu ar eu ffôn yn dal i allu ei ddefnyddio'n llawn. Os ydych chi'n newid y cyfrinair i gyfyngu mynediad i'r cyfrif, bydd angen i chi allgofnodi o'r holl sesiynau. I wneud hyn, ewch i gyfrif Twitter grŵp YesCymru, ewch i Settings and privacy, yna Account, yna Apps and sessions, a dewis Log out of all other sessions. Bydd yn rhaid i bawb a fydd yn defnyddio'r cyfrif o hynny ymlaen fewngofnodi gyda'r cyfrinair newydd.

Mae Facebook yn llawer mwy soffistigedig yn hyn o beth, ac ar gyfer pob Tudalen gallwch osod gwahanol rolau i wahanol broffiliau, h.y. i wahanol bobl. Er enghraifft, fe allech chi roi rôl y Golygydd i rywun, a fydd yn caniatáu iddyn nhw bostio ar y Dudalen, neu fe allech chi eu gwneud yn Weinyddwr, a fydd hefyd yn rhoi'r gallu iddyn nhw ychwanegu neu dynnu pobl o rolau'r dudalen.

Felly nid oes angen rhannu unrhyw gyfrineiriau, ac os ydych chi am ddirymu caniatâd rhywun am ba bynnag reswm, does ond angen i chi dynnu eu proffil o'r rhestr Page Roles. Esbonnir hawliau Tudalennau Facebook yn yr erthygl hon (Nodyn: i ddechrau'r broses hon, mae angen i chi fod yn edrych ar eich tudalen, h.y. https://facebook.com/[enwtudalen], yn hytrach na'ch proffil).

Wrth ymateb i gynnwys gan eraill yn Facebook, Gall fod yn anodd gwybod a yw'ch gweithredoedd yn cael eu gwneud 'fel' y Dudalen, neu 'fel' eich proffil, felly dyma erthygl  ar wefan Facebook a allai fod o gymorth gyda hyn.

Logo

Ar gyfer eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, mae rhai grwpiau'n defnyddio logo plaen YesCymru, ond credwn ei fod yn edrych yn well os yw'r logo wedi'i addasu ychydig i adlewyrchu rhywbeth am yr ardal leol. Mae rhai grwpiau wedi bod yn greadigol iawn - edrychwch ar yr hyn mae eraill wedi'i wneud. Dyma restr Twitter o grwpiau YesCymru: https://twitter.com/YesCymru/lists/grwpiau-yescymru-groups/members

Fel arall, rhowch wybod i ni os ydych chi am i ni ddylunio rhywbeth yn ganolog i chi.

Oes rhaid i mi fod yn aelod o YesCymru er mwyn cychwyn grŵp?

Nid oes rhaid i chi fod yn aelod i gychwyn grŵp - mae yna ychydig o grwpiau nad yw eu prif berson cyswllt yn aelod - ond mae'n rhaid bod swyddogion grwpiau yn aelodau.

Hefyd, mae GDPR bellach yn golygu mai dim ond os ydych chi'n aelod YesCymru y gallwn ni rannu gwybodaeth am aelodau eraill gyda chi, er enghraifft rhestr o aelodau eich ardal chi at ddibenion eich grŵp. Ni allwn rannu'r data hwn â'r rhai nad ydynt yn aelodau.

Gwneud eich grŵp yn hygyrch

Mae grwpiau lleol yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn annibyniaeth - nid oes rhaid iddynt fod yn aelodau o YesCymru i gymryd rhan. Wedi dweud hyn, ceisiwch annog pobl i ymaelodi. Mae'r ffioedd tanysgrifio yn helpu i ariannu digwyddiadau yn ganolog ac yn lleol, ac yn helpu i gynhyrchu deunyddiau rydyn ni'n eu hanfon at y grwpiau i'w defnyddio'n lleol - deunyddiau ymgyrchu fel taflenni a nwyddau.

Dewch i adnabod eich cynulleidfa. Mae dod o hyd i'ch arbenigedd yn yr ymgyrch ehangach yn allweddol. Sut y byddwch chi'n apelio at bobl leol? Beth yw eich demograffig yn lleol, beth sy'n bwysig i bobl ble rydych chi'n byw, a sut y byddwch chi'n gwneud Cymru annibynnol yn berthnasol yn y cyd-destun hwn? Bydd yn cymryd amser i ddatrys hyn, felly peidiwch â phoeni am ei gael yn syth.

Nid yw'r gefnogaeth i annibyniaeth yn digwydd dros nos, felly mewn trafodaethau â'r cyhoedd mae'n syniad da nodi dilyniant ar eu cyfer, llwybr personol tuag at annibyniaeth. Gall defnyddio termau fel #indycautious, #indycurious a #indyconfident helpu gyda hyn.

Gwnewch hi'n hwyl - os ydych chi'n mwynhau'ch hun yna bydd pobl eraill yn ymuno!


Cyfleu neges YesCymru

Cadwch hi'n bositif! Un o'r pethau pwysicaf rydyn ni wedi'u dysgu hyd yn hyn yw bod negeseuon cadarnhaol yn fwy perswadiol na rhai negyddol. Mae'r rhesymau pam y bydd Cymru annibynnol yn hollol anhygoel yn fwy ysbrydoledig na'r rhesymau pam fod y gwrthwyneb yn beth drwg.

Gofynnwch lawer o gwestiynau. Bydd pobl yn gofyn i chi am yr holl atebion. Ond y peth mwyaf pwerus y mae grwpiau wedi'i ddarganfod, yn enwedig wrth redeg stondinau stryd, yw bod yn chwilfrydig. Gofynnwch i bobl am yr hyn maen nhw ei eisiau ar gyfer dyfodol Cymru.

A oes angen i holl gyfathrebu'r grŵp fod yn ddwyieithog?

Dylech deilwra eich dull i weddu eich cynulleidfa leol. Ar gyfer deunyddiau argraffedig, os oes gennych allu cyfieithu o fewn y grŵp, gwych, ond os nad, gallwn gyfieithu'n ganolog. Ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, rydym yn derbyn efallai na fydd bob amser yn bosibl cyfathrebu'n ddwyieithog, felly gwnewch yr hyn a fedrwch, a beth fydd yn fwyaf tebygol o ddenu cefnogaeth i'r achos.

Materion allanol

Cadwch yn glir o unrhyw faterion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r ymgyrch dros annibyniaeth, materion a allai achosi anghytundeb rhwng cefnogwyr annibyniaeth. Gan fod YesCymru yn sefydliad amhleidiol, nid oes gennym safbwynt/polisi ar faterion penodol fel arfer, heblaw'r gred y bydd Cymru yn wlad well o reoli ei materion ei hun. Efallai y bydd rhai pobl yn ceisio defnyddio YesCymru fel platfform ar gyfer eu credoau/ideoleg eu hunain, a gofyn i YesCymru fynegi safbwynt neu roi sylwadau ar faterion penodol. Bydd cael ein llusgo i faterion allanol ond yn gwanhau ein neges graidd, ac yn rhoi rheswm i rai pobl beidio â'n cefnogi. Felly dylech anwybyddu unrhyw gais o'r fath oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol ag annibyniaeth, neu oni bai bod YesCymru wedi penderfynu cefnogi'r achos. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn bosibl ateb y cais trwy eu hatgoffa y bydd pobl Cymru yn penderfynu ar hyn ar ôl annibyniaeth. Dyma rai enghreifftiau o faterion a allai achosi dadleuon rhwng cefnogwyr annibyniaeth:

  • Aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd - o'r rhai a bleidleisiodd yn refferendwm 2016, pleidleisiodd dros hanner i adael yr UE. Dangosodd arolwg YouGov yn 2017 gefnogaeth gref i annibyniaeth ymhlith y rhai a bleidleisiodd i adael yr UE. Felly peidiwch â rhoi barn ynghylch a ddylai Cymru fod yn aelod o'r UE - dim ond dweud y bydd gan Gymru'r hawl i benderfynu ar hynny ar ôl annibyniaeth. Byddai bod yn feirniadol o'r ffordd y mae Llywodraeth San Steffan wedi rheoli'r broses o adael yr UE yn iawn, gan mai mater o gymhwysedd yw hwn, nid ideoleg.
  • Mewnfudo - mae hwn yn bwnc dadleuol ar y gorau, ac yn sicr nid yw'n un y dylai YesCymru fod yn mynegi barn arno. Eto, mae polisi mewnfudo yn rhywbeth a gaiff ei benderfynu gan Lywodraeth Cymru annibynnol.
  • Y frenhiniaeth - nid yw pawb yn credu y dylai Cymru annibynnol fod yn Weriniaeth, felly nid ydym am ddieithrio'r bobl hyn o'r syniad o annibyniaeth. Gallwn ymweld â'r mater hwn ar ôl annibyniaeth, fel y gwnaeth Iwerddon.
  • Eraill - y fyddin, sosialaeth/cyfalafiaeth, ynni niwclear.

Pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill

Rydym yn sefydliad amhleidiol. Ni ddylem ddangos gogwydd i un blaid am gefnogi annibyniaeth. Yn yr un modd, peidiwch ag ymosod ar un arall am beidio. Mae ennill cefnogaeth prif bleidiau Cymru yn hanfodol os ydym am gyflawni ein nod. Efallai bod gan rhywun farn ar ba mor gyflym y mae Llywodraeth Cymru yn dod yn ei blaen gyda datganoli, ond os ydym yn feirniadol o sut maent yn rhedeg ein gwlad gyda'r pwerau sydd ganddynt ar hyn o bryd, gallai rhywun yn hawdd ofyn "Pam ydych chi eisiau annibyniaeth a rhoi mwy o bwerau iddynt?", a thanseilio'r achos dros annibyniaeth felly.

Yn yr un modd, peidiwch ag ymosod ar sefydliadau, grwpiau nac ymgyrchoedd eraill. Rydym yn debygol o fod angen eu cefnogaeth yn y dyfodol.

Peidiwch â chythruddo dilynwyr sefydliadau yr ochr arall i'r ddadl trwy wrthdystio yn eu digwyddiadau. Dim ond tynnu sylw negyddol at ein hachos y bydd hyn, a gallai arwain at ddial yn y pen draw, ble mae gwrthwynebwyr annibyniaeth yn mynychu ein digwyddiadau ni'n hunain. Gallai hyn beri i ddigwyddiadau YesCymru wyro oddi wrth y digwyddiadau hapus a chadarnhaol yr ydym am iddynt fod.

Rydym am gadw'r sgwrs annibyniaeth yn rhydd o elyniaeth er mwyn ennyn diddordeb pawb. Am yr un rheswm, peidiwch â defnyddio deunyddiau ymgyrch YesCymru i orchuddio deunyddiau sefydliadau eraill. Mae YesCymru yn gweithio oherwydd ei fod yn cael ei ystyried fel gwir ddewis amgen, yn hytrach nag yn bodoli ddim ond i wrthwynebu pethau eraill.

Addysg

Peidiwch â bod yn nawddoglyd nac yn goeglyd tuag at eraill - mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn broffesiynol ac yn gwrtais, beth bynnag fo'u credoau. Peidiwch ag ymosod ar unigolion sydd â barn wahanol, nac ymuno ag eraill sy'n gwneud hynny. Mae'n bwysig bod cyfrifon YesCymru yn aros yn uwch na hynny, ac i beidio â chael eu gweld yn hyrwyddo ymddygiad negyddol. Yn hytrach nag ystyried y bobl hyn fel gelynion, dylem geisio newid eu meddyliau yn bwyllog gyda'r wybodaeth gywir. Ni ddylid beio neb am fod â barn 'Brydeinig' - mae llawer o bobl wedi bod yn derbyn gwybodaeth wrth-Gymreig trwy gydol eu hoes. Ein her yw eu haddysgu.

Canllaw cyfryngau cymdeithasol

Dyma ychydig o bethau i'w cofio wrth bostio fel cyfrif YesCymru ar y cyfryngau cymdeithasol:

https://cy.yes.cymru/social-media-guidelines

Mae'n hynod bwysig bod pawb yn cadw at y rheolau hyn. Trwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gydag enw a logo YesCymru, rydych chi'n cynrychioli YesCymru, ac mae'r cyhoedd yn tybio eich bod chi'n siarad ar ran y sefydliad cyfan.

Weithiau rydyn ni'n teimlo'r angen i gysylltu â grŵp i drafod negeseuon penodol ar y cyfryngau cymdeithasol. Os byddem yn gwneud hynny, yna peidiwch â'i gymryd i galon. Y bwriad yw ein cadw ni i gyd yn bositif ac yn rhydd o feirniadaeth, a sicrhau nad yw'n ymddangos ein bod ni'n rhagfarnllyd tuag at nac yn erbyn unrhyw blaid wleidyddol. Weithiau mae'n rhaid i ni atgoffa'n hunain o'r rheolau hyn wrth ddefnyddio'r cyfrifon canolog hefyd!

Asedau Cyfathrebu i'w defnyddio

Cliciwch ar y ddolen hon i weld ein Asedau Cyfathrebu, y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio gan unrhyw grŵp YesCymru. Yn gynwysedig mae pecyn brandio YesCymru, logo YesCymru mewn amrywiaeth o siapiau a fformatau, a channoedd o graffeg a ffotograffau yn ymwneud â YesCymru a gorymdeithiau AUOBCymru. Hefyd yn gynwysedig y mae dogfen sy'n casglu prif bwyntiau a sloganau YesCymru i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol neu wrth gynhyrchu eich llenyddiaeth eich hunain. Byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys i'r ffolder hon o bryd i'w gilydd.


Gweithgareddau

Cyfarfod wyneb-yn-wyneb

Cynhaliwch eich cyfarfod cyntaf cyn gynted ag y gallwch! Bydd pethau'n mynd ati o ddifrif unwaith y byddwch chi'n dechrau cyfarfod yn y cnawd. Gallwch chi gyflawni llawer ar-lein, ond mae gwneud cysylltiadau yn wych ac yn dod ag egni i'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae ein grwpiau mwyaf gweithredol yn cyfarfod bob rhyw fis, a rhai'n amlach.

Cyfarfod ar-lein

Er mwyn helpu ein grwpiau lleol a’n grwpiau diddordeb i gadw mewn cysylltiad â'u haelodau pan efallai nad yw cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn bosibl, mae YesCymru wedi prynu tanysgrifiad i Zoom Pro, y gwasanaeth cyfarfodydd ar-lein poblogaidd. Mae hyn yn caniatáu cyfarfodydd ar-lein heb gyfyngiad amser i hyd at 100 o gyfranogwyr, a mae ar gael i chi ei ddefnyddio pryd bynnag y dymunwch. Cysylltwch â [email protected] am ragor  fanylion.

Cydweithio ag aelodau eraill y grŵp

Ar wahân i ddefnyddio e-bost fel ffordd o adael i bawb wybod am eu gweithgareddau, mae llawer o grwpiau'n defnyddio grŵp WhatsApp ar gyfer yr aelodau mwyaf gweithgar neu eu grŵp. Mae hyn yn ddefnyddiol i daflu syniadau o gwmpas, a gwelwyd ei fod yn fwy effeithiol nag e-bost wrth drefnu digwyddiad penodol.

Gwneud YesCymru yn fwy gweledol yn eich ardal chi

Dyma rai pethau sydd wedi gweithio i grwpiau amrywiol yn y gorffennol:

  • Cynnal digwyddiad Baneri ar Bontydd dros ffordd brysur yn eich ardal chi. Os nad ydych yn ymwybodol o beth yw hyn - cefnogwyr yn ynghyd i hedfan baneri ar bont yn eu hardal leol i godi ymwybyddiaeth - mae mor syml â hynny. Byddai cwpl o oriau ar benwythnos yn ddigon. Cofiwch dynnu digon o luniau a'u postio ar eich cyfryngau cymdeithasol.
  • Gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion ddangos eu cefnogaeth i YesCymru trwy arddangos poster mewn ffenestr, rhoi sticer ar eu car, neu osod baner YesCymru ar eu heiddo.
  • Dewch o hyd i fusnesau lleol a fyddai'n barod i osod poster neu faner YesCymru yn eu sefydliad, neu gofynnwch i'ch tafarn leol a fyddant yn gadael i chi hongian baner YesCymru ar y wal yno.
  • Siaradwch â ffermwr lleol sy'n berchen ar dir wrth ymyl ffordd brysur, a gofynnwch a allwch chi roi polyn yn sownd i un o'u pyst ffens, a rhoi baner YesCymru arni.
  • Un ffordd wych o gynyddu gwelededd yw noddi crysau tîm rygbi neu bêl-droed lleol. Mae nifer o wylwyr yn mynychu gemau ieuenctid hefyd. Fel arall, gall baneri hysbysebu ar ochr cae'r tîm lleol fod yn effeithiol. Gallwn helpu gyda'r costau hyn yn ganolog. Neu os yw'r clwb yn arbennig o gefnogol, efallai y byddan nhw'n gadael i chi roi baner i fyny yno am ddim.
  • Mae llawer o Gynghorau Tref a Chymuned bellach wedi datgan yn swyddogol eu bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, fel y dangosir ar y map hwn. Wrth gwrs ein gobaith yw y bydd pob Cyngor Tref a Chymuned yng Nghymru yn gwneud yr un peth yn y pen draw, neu o leiaf yn ei roi i bleidlais. Gall eich grŵp helpu gyda hyn trwy estyn allan i'r Cynghorau Tref a Chymuned yn eich ardal chi a gofyn iddynt ystyried cynnig am hyn.
Digwyddiadau

Trefnwch ddigwyddiad yn eich ardal leol. Efallai noson gyda siaradwyr gwadd yn trafod gwahanol agweddau o annibyniaeth, e.e. arbenigwr ynni gyda gweledigaeth o sut y gallai Cymru annibynnol ffurfio rhwydwaith o fentrau cydweithredol ynni adnewyddadwy, neu arbenigwr amaeth i drafod y cyfleoedd y gallai Cymru annibynnol eu cynnig i'r diwydiant ffermio.

Neu os ydych chi awydd ychydig o gomedi, rydyn ni'n cynnal digwyddiadau comedi stand-yp rheolaidd o'r enw Sefyll Lan Dros Gymru (Stand Up For Wales) yn y ddwy iaith. Mae'r criw gweithgar sy'n trefnu'r nosweithiau hyn wedi eu lleoli yn ardal Abertawe, ond maent yn awyddus i fynd â'u nosweithiau comedi llwyddiannus i bob cornel o Gymru, a gweithio gyda grwpiau lleol i sicrhau bod y profiad gorau yn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd lleol. Edrychwch ar eu tudalen, yma, am ragor o wybodaeth.

Efallai y bydd yn cymryd amser i arbrofi gyda gwahanol leoliadau. Mae'n bwysig cael rhywle tawelach i ffwrdd o sŵn cefndirol mewn lleoliad prysur. Wrth i'ch grŵp dyfu, efallai y bydd gan aelodau gysylltiadau â lleoliadau sy'n gyfeillgar i annibyniaeth.

Hysbysebu eich gweithgareddau

Sut mae cael pobl i gymryd rhan yn eich gweithgareddau? Llawer o hysbysebu trwy'r cyfryngau cymdeithasol, ar dafod leferydd, rhoi posteri i fyny mewn siopau. Anogwch pobl i ddod â'u ffrindiau 'chwilfrydig' gyda nhw. Mae'n bwysig creu diwylliant cryf yn eich grŵp bod croeso i bawb, ni waeth ble maen nhw ar y daith tuag at annibyniaeth. Hefyd, byddwch yn gwbl glir ei fod yn amhleidiol: mae croeso i unigolion sydd â chysylltiadau gydag unrhyw blaid, neu dim plaid o gwbl.

Rydym wedi darganfod bod hysbysebion Facebook taledig wedi'u targedu yn ffordd wych o gynyddu presenoldeb mewn digwyddiadau. Gall y grŵp ei hun wneud hyn, neu gall grwpiau cyfansoddedig (gweler yr adran DATBLYGU EICH GRŴP isod) fanteisio ar ein gwasanaeth hyrwyddo digwyddiadau am ddim er mwyn helpu i gynyddu presenoldeb.

Mae dogfennu eich gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y digwyddiad neu wedi hynny bron mor bwysig â chynnal y digwyddiad yn y lle cyntaf, felly cofiwch dynnu lluniau o bob gweithgaredd y mae eich grŵp yn ei wneud – hyd yn oed rhai cyfarfodydd pwysig – a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo eu bod yn ofn mynychu oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth i'w ddisgwyl, felly mae rhannu lluniau yn ffordd dda o chwalu'r ofn hwnnw.

Stondinau stryd, a stondinau mewn digwyddiadau mwy

Mae llawer o grwpiau YesCymru wedi defnyddio stondinau stryd yn llwyddiannus iawn fel ffordd o ymgysylltu â'r cyhoedd. Maent yn syml i'w sefydlu, a gallant fod yn ffordd effeithiol iawn o rannu gwybodaeth ag eraill. Mae'n dda bod mor weladwy â phosib, felly rhowch faneri ar ddangos. Mae gwisgo crysau-t YesCymru hefyd yn ffordd effeithiol o wneud hyn. Os ydych chi y tu allan, nid yw'n cymryd llawer o wynt i chwythu pethau oddi ar y bwrdd, felly dewch â rhai pwysau papur neu gerrig mân gyda chi.

Mae yna lawer, lawer o ddigwyddiadau ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn. Beth am holi am gael stondin YesCymru yno i'ch grŵp? Gallwn eich helpu gyda chost llogi'r stondin.

Rydym wastad yn chwilio am ddigwyddiadau a allai roi cyfle i ni ledaenu neges annibyniaeth. Os oes gŵyl, carnifal, cynhadledd, bore coffi, neu unrhyw fath o ddigwyddiad mawr y credwch a allai fod yn dda i YesCymru fod â phresenoldeb ynddo, rhowch wybod i ni.

Llenyddiaeth a nwyddau mewn digwyddiadau

Pryd bynnag y byddwch chi'n trefnu digwyddiad neu os oes gennych chi stondin yn rhywle, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â rhywfaint o lenyddiaeth a nwyddau i'w rhoi i ddarpar gefnogwyr. Gallwn anfon atoch faint bynnag o daflenni sydd eu hangen arnoch, a gallwn hefyd anfon sticeri, sticeri ceir, bathodynnau, llyfrau, ac ati, y gallwch naill ai eu rhoi i ffwrdd er mwyn helpu i ledaenu'r neges, neu godi swm bychan amdanynt, er mwyn casglu arian i'ch grŵp - pa un bynnag sy'n gweithio orau i chi.

Sicrhewch hefyd fod gennych ychydig o gopïau o ffurflen aelodaeth YesCymru gyda chi. Mae'r mwyafrif o bobl yn ymuno ar-lein, ond mae llawer o sy'n well ganddynt beidio â gwneud hynny, am wahanol resymau, felly gall digwyddiadau grŵp YesCymru fod yn gyfle da i recriwtio aelodau newydd. Gallwn naill ai anfon ychydig o gopïau o'r ffurflen atoch, neu gallwch argraffu eich un chi o fan hyn. Dylid anfon ffurflenni wedi'u llenwi i'r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Yn olaf, ym mhob digwyddiad, cofiwch gasglu enwau a chyfeiriadau e-bost unrhyw un sy'n barod i dderbyn e-byst grŵp a/neu ganolog YesCymru. Bydd ychwanegu'r bobl hyn at eich rhestr bostio yn helpu i hyrwyddo digwyddiadau pellach.

Oes angen i'r incwm a godwn yn y grŵp gael ei roi i YesCymru yn ganolog?

Nag oes. Rydym yn cydnabod bod digwyddiadau yn costio arian i'w trefnu, felly gellir cadw unrhyw arian a godir o werthiannau, rhoddion, mynediad i ddigwyddiadau ac ati yn eich grŵp, i fynd tuag at drefnu digwyddiadau pellach.

Trefnu digwyddiad taflennu

Mae llawer o grwpiau wedi trefnu ymgyrchoedd taflenni torfol yn eu hardaloedd lleol, ac rydym hefyd wedi trefnu ymgyrch ledled y wlad. Mae mwy o siawns y bydd rhywun yn darllen rhywbeth wedi'i bostio trwy eu drws nag ar sgrin. Mae hyn nid yn unig yn ffordd dda o ledaenu gwybodaeth, ond mae hefyd yn ffordd wych o ddenu pobl newydd i'ch grŵp. Anfonwch e-bost atom i ofyn am daflenni a fe wnawn eu postio atoch.

Gyda phentrefi llai, gallai fod yn rwyddach i gwrdd yn rhywle (efallai yn ystod cyfarfod grŵp rheolaidd), rhannu'r taflenni, ac yna annog y criw i daflennu pan allant. Ond gyda dinasoedd a threfi mawr, efallai y bydd yn haws cadw tefn os byddwch chi'n cyhoeddi amser a lle i gwrdd, a datrys pwy sy'n gwneud pa strydoedd yn y fan a'r lle, yn dibynnu ar faint o bobl a ddaw. Rydym wedi darganfod bod rhannu'r dasg Wardiau Cyngor yn ffordd dda o ddidoli'r gwaith. Un adnodd defnyddiol a ddefnyddiwn yw Ordnance Survey Elections Maps. I'w ddefnyddio, chwyddwch i mewn i'ch ardal chi yn gyntaf, yna ar yr ochr chwith cliciwch BOUNDARY ac yna ticiwch Unitary Authority Electoral Divisions (yr opsiwn olaf).


Datblygu'ch grŵp

Grwpiau cyfagos

Fe'ch anogir i gydweithio â grwpiau eraill yn eich ardal ehangach, a chefnogi'ch gilydd. Yma ceir map sy'n dangos yr holl grwpiau YesCymru eraill sydd wedi eu sefydlu, yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gennym restr Twitter o holl grwpiau YesCymru. Rydym yn ceisio diweddaru'r rhestr hon gymaint â phosibl. Rhowch wybod i ni os yw'ch grŵp chi ar goll: https://twitter.com/YesCymru/lists/grwpiau-yescymru-groups/members

Rydym yn defnyddio Slack i hwyluso trafodaeth rhwng grwpiau, i rannu syniadau, ac i drafod ymgyrchoedd gydag aelodau'r pwyllgor canolog. Platfform negeseuon preifat ar-lein yw Slack, ble mae trafodaethau'n cael eu trefnu i 'sianeli' yn ôl y pwnc. Gellir defnyddio'r gwasanaeth trwy borwr gwe neu drwy lawrlwytho ap ffôn clyfar Slack.

Byddwn yn gyrru gwahoddiad i'r gweithle Slack i gyfeiriad e-bost eich grŵp. Os nad ydych wedi derbyn y gwahoddiad, cysylltwch â ni ar [email protected]. Mae angen i'ch grŵp gael ei gyfeiriad e-bost ei hun cyn i ni fedru gwahodd y grŵp i'r gweithle Slack.

Dod yn grŵp YesCymru cyfansoddedig

Wrth i'ch grŵp ddatblygu, fe'ch anogir i'w arwain ar lwybr tuag at ddod yn grŵp YesCymru cyfansoddedig. Yn ôl Cymal 69.(a) o Gyfansoddiad YesCymru, diffinnir grŵp cyfansoddedig fel:

LOCAL GROUPS & SECTIONS / GRWPIAU LLEOL AC ADRANNAU shall be recognised and will be properly constituted under this constitution if they meet the following criteria:

(i) agree to the aims and objectives set out in clause 2; [gweler isod]
(ii) Have contacted the chair of YesCymru wishing to be designated the status of a Local Group or Section;
(iii) agree to the YesCymru social media guidelines;
(iv) have held a meeting with 5 or more YesCymru members present, and elected a chair.

Ble mae Cymal 2 y soniwyd amdano uchod yn nodi:

YesCymru is a campaigning organisation with the aim of gaining independence for Wales in order to improve the way the country is governed. YesCymru believes that Wales would be better running its own affairs, as part of a wider European and international family. YesCymru believes in an inclusive citizenship, which embraces the fact that all who choose to make Wales their home – regardless of age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sex, sexual orientation – are full citizens of the new Wales.

Mae grwpiau cyfansoddedig hefyd yn helpu i lunio dyfodol YesCymru. Gall pob grŵp anfon hyd at ddau gynrychiolydd i Bwyllgor Cenedlaethol YesCymru, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, mewn gwahanol leoliadau ledled y wlad.

Gall cydnabyddiaeth fel grŵp cyfansoddedig hefyd ddod â buddion ariannol i'ch grŵp. Yn gyntaf, mae pob grŵp cyfansoddedig yn gymwys i wneud cais am grantiau. Bydd cael cyllideb yn eich galluogi i gynnal digwyddiadau mwy uchelgeisiol. 

Grantiau i Grwpiau cyfansoddedig

Gall pob grŵp cyfansoddedig wneud cais i'r pwyllgor canolog am arian. Gall yr arian cael ei ddefnyddio ar gyfer creu baneri, i helpu gyda threfniadau digwyddiadau, neu mewn amryw o ffyrdd eraill e.e. noddi clwb chwaraeon lleol. Yr uchafswm ar gyfer pob grŵp cyfansoddiedig ar hyn o bryd yw £500 y flwyddyn, ond os oes angen mwy bydd modd trafod fesul achos.

Er mwyn manteisio ar hyn, rydym yn gofyn bod cyfrif banc yn gysylltiedig â'ch grŵp, ac i'r arian gael ei drosglwyddo i'r cyfrif hwn, yn hytrach na chyfrif personol (gweler isod ar sut i sefydlu cyfrif banc) neu fod yr arian yn cael ei drosglwyddo yn uniongyrchol i gyfrif busnes (e.e. os yn prynu baneri).

Os nad yw eich grŵp yn un cyfansoddedig ar hyn o bryd (gweler manylion uchod) gallwn drafod unrhyw grantiau fesul achos.

Cyfrif banc

Mae'n syniad da agor cyfrif banc ar gyfer y grŵp, yn enwedig os ydych chi'n gwerthu nwyddau YesCymru neu'n cynnal digwyddiadau ble rydych chi'n codi ffi mynediad.

Er tegwch i'n haelodau, mae'n bwysig bod y trafodion banc sy'n mynd trwy brif gyfrif YesCymru mor dryloyw â phosibl. Felly os yw grŵp yn ceisio am arian, ni fyddwn yn gallu gwneud taliadau i gyfrifon banc unigolion.

Mae'r brif fanciau i gyd yn cynnig cyfrifon banc cymunedol, sydd â'r un nodweddion â chyfrifon cyfredol busnes, ond sydd ar gyfer sefydliadau dielw yn unig, felly nid oes unrhyw ffioedd bancio.

Dylid penodi dau neu fwy o swyddogion grŵp fel llofnodwyr y cyfrif banc. Rydym yn argymell y Trysorydd a'r Cadeirydd.

Dylech agor y cyfrif o dan yr enw YesCymru [EnwGrŵp], a chael enw 'hefyd yn masnachu fel' gyda'r talfyriad Yes[EnwGrŵp]. Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i dderbyn sieciau sy'n daladwy i'r enwau hyn.

Gall gymryd ychydig wythnosau i sefydlu cyfrif banc o'r math hwn, felly os ydych chi'n gwneud cais am arian gan bwyllgor canolog YesCymru, yna bydd angen ystyried hyn.

Dyma rai enghreifftiau o gyfrifon banc addas:

NatWest Community Bank Account
https://www.business.natwest.com/business/business-banking/business-bank-accounts/community-bank-account.html

HSBC Clubs, Charity and Community Bank Account
https://www.business.hsbc.uk/cy-gb/everyday-banking/business-accounts/charity-banking-community-account

Santander Treasurer’s Current Account
https://www.santander.co.uk/business/clubs-and-charities-accounts/treasurers-current-account

Cronfa ddata aelodau

Yr allwedd i adeiladu eich grŵp yw cryfhau eich rhwydwaith lleol, ac estyn allan at unigolion o'r un anian yn eich ardal chi. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o wneud hyn, ond i rai pethau gallai e-bost fod yn fwy priodol. Gallwn rannu gyda chi fanylion aelodau YesCymru yn eich ardal, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei wneud mewn ffordd sy'n cydymffurfio'n llawn â GDPR. Mae'n hanfodol nad ydych yn rhannu'r wybodaeth hon ag eraill.

Y ffordd fwyaf effeithiol i ni rannu'r wybodaeth hon gyda chi yw rhoi hawl i aelodau o'ch grŵp chi i fewngofnodi i'n system CRM (Rheoli Perthynas Cwsmer), o'r enw NationBuilder. Mae hyn yn debyg iawn i wasanaethau marchnata eraill fel Mailchimp, a bydd yn caniatáu i chi anfon e-byst wedi'u brandio at yr aelodau sy'n lleol i chi yn unig. Mae gan hyn lawer o fuddion:

  • Mae'r rhestr o aelodau sy'n cael ei hychwanegu at eich rhestr e-bostio yn cael ei diweddaru'n awtomatig ac yn syth wrth i aelodau newydd ymuno â YesCymru
  • Mae e-byst yn cael eu hanfon o gyfeiriad e-bost [enwgrŵp]@yes.cymru
  • Does dim angen poeni am gofio rhoi cyfeiriadau e-bost yn y maes 'Bcc' wrth anfon e-bost - mae'r system yn ei wneud yn awtomatig
  • Bydd gan bob e-bost ddolen i adael i dderbynwyr ddad-danysgrifio o e-byst pellach os dymunant. Byddant yn gallu dad-danysgrifio o e-byst canolog YesCymru tra'n parhau i dderbyn e-byst grwpiau lleol - neu i'r gwrthwyneb
  • Mae'n cydymffurfio'n llawn â GDPR oherwydd ein bod ond yn rhannu'r data sy'n angenrheidiol, ac oherwydd eich bod yn mewngofnodi i'r system, nid oes angen i ddata aelodau adael y system, felly nid oes angen anfon taenlenni dros e-bost.

Oherwydd GDPR, dim ond os ydych chi'ch hun yn aelod YesCymru y gallwn rannu manylion aelodau eraill gyda chi. Hefyd, bydd angen i unrhyw un o'ch grŵp sy'n bwriadu defnyddio'r system uchod gytuno i delerau defnydd penodol, a nodir yn y ddogfen hon.

I gadarnhau eich bod yn cytuno i'r telerau, copïwch holl destun y ddogfen uchod a'i anfon mewn e-bost o'ch cyfrif e-bost personol (nid e-bost grŵp YesCymru) i'n cyfeiriad e-bost [email protected], gan nodi eich enw, enw eich grŵp, ac eich swydd o fewn y grŵp.

Gobeithio ein bod wedi symleiddio'r broses gymaint â phosibl tra'n parhau i gydymffurfio â GDPR. Bydd angen i bawb sydd am ddefnyddio'r system fynd trwy'r un broses gadarnhau.

Os oes gennych unrhyw restrau e-bost eraill o gefnogwyr a gasglwyd mewn digwyddiadau, anfonwch nhw atom a fe wnawn eu hychwanegu at NationBuilder fel y byddant yn ymddangos ar eich rhestr e-bostio. Fel hyn, bydd eich holl gefnogwyr lleol mewn un lle. Ar y pwynt yma, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod gennych chi ganiatâd i dderbyn gohebiaeth gan y grŵp lleol a gan YesCymru yn ganolog, oni bai eich bod yn ein hysbysu fel arall.

Dyma gyfarwyddiadau rydyn ni wedi'u llunio i esbonio'r broses o anfon e-byst allan o NationBuilder.

Unrhyw beth arall

Os oes unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar:

E-bost: [email protected]
Twitter: @YesCymru
Facebook: facebook.com/YesCymru