Symud ymlaen o'r llywio

Cyfarchion Hen Galan o'n Prif Weithredwr

Er bod llawer iawn i'w wneud, llawer iawn i'w ddysgu a llawer o waith o’m blaen i sicrhau 2023 llwyddiannus, mae'r 19 wythnos gyntaf yn y swydd wedi bod yn werth chweil. Mae dod i adnabod y CLlC presennol a darganfod eu bod yn graff, yn gynhyrchiol ac yn rhyfeddol o weithgar wedi bod yn wych. Roedd cael y cyfle i annerch y dyrfa enfawr yn yr orymdaith yng Nghaerdydd yn achlysur arbennig iawn (er mod i’n teimlo mod i ar bigau’r drain). Mae gweithio gyda’r Bwrdd, yn gyntaf i greu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y sefydliad, yna i gychwyn y broses o weithredu’r weledigaeth honno, wedi bod yn gynhyrchiol, yn heriol ac yn llwyddiannus hyd yma.

Yn sylfaenol i’r weledigaeth honno yw’r dealtwriaeth y gallwn yn fuan weld ein hunain mewn sefyllfa lle bo’r Deyrnas Unedig eisoes wedi peidio â bodoli. Mae Gogledd Iwerddon yn mynd i aduno â Gweriniaeth Iwerddon, canlyniad anochel i Gytundeb Gwener y Groglith ond un sydd yn sicr wedi ei gyflymu gan Brexit a’r cachfa trefniadol gan San Steffan yn sgil hynny - hyn wedi ei symbylu gan Brotocol Gogledd Iwerddon wrth gwrs. Yn y cyfamser, mae’r Alban bellach yn gyson yn profi mwyafrif o blaid Annibyniaeth, gyda mwyafrif llethol ymhlith y rhai dan hanner cant – dim ond mater o amser yw hi iddynt hwythau nawr. Mae’n llwyr bosib y bydd Cymru’n fuan yn syllu ar ddyfodol fel dim mwy nag atodiad i Loegr, heb fod bellach yn rhan o undeb o genhedloedd mond yn un genedl fach sydd wedi’i rhwymo’n rymus i gymydog llawer mwy. Cymydog nad sydd yn dangos fawr ddim o barch at ei bartner iau. Nid oes dyfodol disglair i Gymru yn y berthynas hon, nid yw’n darparu ‘yswiriant’.

Ar hyn o bryd, fel sefydliad, nid yw YesCymru yn barod am hyn. Nid oes gennym strwythurau ymgyrchu cadarn ar unrhyw lefel. Nid oes gennym sianeli cyfathrebu mewnol effeithiol a chadarn. Nid oes gennym ddigon o gyrhaeddiad nac effeithiolrwydd yn ein cyfathrebu allanol. Nid yw hyn fawr syndod gan ein bod yn parhau i fod yn sefydliad gymharol ifanc a ffres. Serch hynny, mae’n siomedig. Fel sefydliad rydym wedi rhaid esblygu’n gyflym, wedi dioddef poenau twf cyflym a bellach wedi mynd trwy gyfnod o drawsnewid sylfaenol er mwyn medru ailddatgan ac ail ganoli ein ffocws ar ein nod craidd. Dros y 6-18 mis nesaf rhaid i'r trawsnewid a thwf hwnnw barhau'n gyflym. Mae'n rhaid i ni ddatblygu yn gorff ymgyrchu effeithiol, unedig ac ysbrydoledig, gydag aelodau a grwpiau gweithredol ar lawr gwlad ym mhob twll a chornel o Gymru. Mae'n rhaid i ni ddod yn lwyfan sy'n medru uno holl gefnogwyr Annibyniaeth yn eu cyfanrwydd er mwyn rhoi llais cyfunol llawer mwy pwerus i’r ymgyrch. Mewn Undod mae Nerth.

Dyma sut fyddwn yn ennill y ddadl dros Annibyniaeth, dyma sut fyddwn yn perswadio poblogaeth Cymru, dyma sut fyddwn yn cyrraedd ein nod. 

Ar lefel gymunedol rhaid i ni ymgysylltu mor aml ag y gallwn ag unigolion i drafod dyfodol ein gwlad. Bydd gan bawb reswm i gefnogi Annibyniaeth a rhaid i ni, fel unigolion ac fel sefydliad, arwain pobl ar eu taith i ddarganfod y rheswm hwnnw.

Dros y chwe mis nesaf byddwn yn gweithio'n galed i sefydlu grwpiau newydd, i ailsefydlu grwpiau segur, i gael grwpiau presennol i fod yn gynyddol wethredol o fewn eu cymunedau mewn cymaint o ffyrdd â phosibl - o gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, i gynnal eu gweithgareddau cymunedol eu hunain, i gyfathrebu. gydag aelodau a chefnogwyr presennol ar draws yr ardal y mae eu grŵp yn ei gwasanaethu. Bydd ymgyrchoedd cenedlaethol yn adeiladu ar y sylfeini lleol hyn a chyn hir bydd gennym beiriant ymgyrchu effeithiol gyda chyrhaeddiad lleol a chenedlaethol.

Cawn ennill ein Annibyniaeth trwy gyfrannu’n gyson yn ein cannoedd, ein miloedd, mewn mor o ffyrdd bach a mawr - dyma’r baich sydd arnom, y sawl sy’n credu’n angerddol mai dyma’r ffordd orau o greu dyfodol mwy disglair i Gymru ac i’r cenedlaethau i ddilyn.

Y gynhadledd mis Mehefin bydd ein cyfle fel grwpiau, gwirfoddolwyr a mudiad i ddod ynghyd. Yma byddwn yn rhannu gwybodaeth, yn dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn sefydlu cysylltiadau personol, newydd i gryfhau ein rhwydwaith o gymorth gweithredol ledled Cymru.

Cyn y gynhadledd byddwn hefyd yn cynnal ein gorymdaith dros Annibyniaeth yn Abertawe, byddwn yn annog cymaint o aelodau â phosibl i ddod i hwn o bob rhan o Gymru ond, yn bwysicach fyth, byddwn yn gofyn i bawb a ddaw i geisio dod ag un, dau, llond dwrn, o deulu, ffrindiau a chydnabod, gyda nhw - unigolion fydd efallai prin yn Indy-Curious neu heb erioed ystyried Annibyniaeth. Ni fydd mesur llwyddiant yr orymdaith honno yn y niferoedd sy'n mynychu, na chwaeth yn y cadarnhad o gefnogaeth ymhlith y rhai ohonom sydd eisoes ac angerdd dros Indy, dim hyd yn oed yn y sylw o’r cyfryngau sy’n siwr o ddod yn ei sgîl. Rhaid mesur ein llwyddiant drwy faint o bobl daw gam yn nes at gefnogaeth lawn i Gymru Annibynnol, trwy’r niferoedd o unigolion y mae’n gwthio i gymryd y cam o ddatgan eu cefnogaeth ac ymuno â YesCymru, o ran faint sy’n gadael gyda thân newydd brwdfrydig yn eu boliau, yn barod i ymgyrchu'n frwd o blaid Annibyniaeth.

Ar yr ochr ddigidol byddwn yn parhau â'r gwaith o wella ein platfform i aelodau a chefnogwyr. Mwy o gynnwys (darllenwch Flog Bendigeidfran os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod!), mwy o offer i grwpiau ac aelodau fel cymhorthion ymgyrchu, defnydd mwy helaeth o gyfryngau cymdeithasol ar draws mwy o lwyfannau. Yn fyr, yn 2023, byddwn yn gwneud mwy o bopeth - gan ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar ein nod craidd o Annibyniaeth.

Ymlaen gyfeillion, i Annibyniaeth!

Gwern Gwynfil

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.