Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lansiodd Cadeirydd YesCymru, Rob Hughes, ymgyrch 2032 y mudiad, gan bennu amcan clir ac uchelgeisiol: sicrhau refferendwm ar annibyniaeth yn 2032.
Gwnaed y cyhoeddiad mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod ddydd Sul, 2 Awst.
Mae’r ymgyrch yn nodi cyfnod newydd pwysig i YesCymru. Mae annibyniaeth eisoes wedi ennill ei le yn y drafodaeth wleidyddol genedlaethol. Drwy bennu 2032 fel y targed ar gyfer cynnal refferendwm, mae’r mudiad wedi darparu amserlen benodol ac amcan gwleidyddol clir y gall cefnogwyr drefnu o’i gwmpas ac adeiladu cefnogaeth y cyhoedd.

Dywedodd Rob Hughes yn y cyfarfod:
“Rwy’n credu ein bod wedi cael hen ddigon ar grwydro drwy fywyd heb roi rhywbeth i ni, i’n cefnogwyr ac i bobl Cymru ganolbwyntio arno.”
Bydd ymgyrch 2032 yn canolbwyntio ar gynyddu’r gefnogaeth i annibyniaeth, ateb y cwestiynau ymarferol sydd gan bobl am ddyfodol Cymru ac adeiladu’r pwysau gwleidyddol sydd ei angen i sicrhau refferendwm.
Ychwanegodd Rob Hughes
“Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw perswadio pobl Cymru y bydd Cymru annibynnol yn cynnig dyfodol gwell iddyn nhw ac i’r cenedlaethau i ddod.”
Bydd yr ymgyrch nid yn unig yn cyflwyno’r achos dros gynnal refferendwm, ond hefyd yn amlinellu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y math o wlad y gallai Cymru annibynnol fod.

Wrth gloi’r cyfarfod cyhoeddus, dywedodd Rob Hughes:
“Dewch i ni adeiladu gwlad sy’n deg, yn oddefgar ac yn groesawgar, a defnyddio sgiliau, hyder ac uchelgais pobl Cymru i greu gwlad sy’n gweithio i bob un ohonom, i’n plant ac i’r cenedlaethau i ddod.”
Dros y chwe blynedd nesaf, bydd YesCymru yn gweithio i droi’r gefnogaeth i annibyniaeth yn alwad glir am refferendwm, gan amlinellu hefyd y camau gwleidyddol ac ymarferol sydd eu hangen i gyflawni’r amcan hwnnw.
Daw’r lansiad yn dilyn cyfarfod cyntaf erioed YesCymru â gweinidog yn Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf lle wnaeth Rob Hughes gyfarfod â'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad - Dafydd Trystan Davies AS - i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru ac amcan y mudiad o sicrhau ac ennill refferendwm ar annibyniaeth.
Mae aelodau, cefnogwyr ac ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael eu hannog i alw draw i uned YesCymru i ddysgu mwy am yr ymgyrch. Bydd rhagor o fanylion am y gwaith sydd ei angen i adeiladu cefnogaeth a sicrhau refferendwm yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Gwyliwch ar Radio YesCymru:
"Mae Cadeirydd newydd YesCymru, Rob Hughes, yn sgwrsio gyda Siôn Jobbins am lansiad yr ymgyrch newydd ‘2032’ dros refferendwm annibyniaeth, a’r posibilrwydd o ymgyrch ar y cyd dros annibyniaeth i Gymru a’r Alban ac Iwerddon unedig."