Mae YesCymru wedi cynnal y cyfarfod cyntaf erioed gyda Gweinidog yn Llywodraeth Cymru wrth i’r mudiad baratoi i gyhoeddi “Amserlen Annibyniaeth” yn yr Eisteddfod Genedlaethol y penwythnos hwn.
Fe wnaeth Cadeirydd YesCymru, Rob Hughes, gyfarfod gyda Dafydd Trystan Davies, Gweinidog y Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru ddydd Iau (30/07/26).
Roedd y cyfarfod hanesyddol yn gyfle i drafod amcanion YesCymru, dyfodol cyfansoddiadol Cymru a rôl y mudiad wrth feithrin cefnogaeth gyhoeddus i annibyniaeth.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Rob Hughes:
“Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog am y cyfle i drafod ein huchelgais ar gyfer y Gymru annibynnol, a’r rôl y gall YesCymru ei chwarae wrth arwain trafodaeth genedlaethol am ddyfodol ein gwlad.
“Nod YesCymru yw sicrhau refferendwm ar annibyniaeth i Gymru a’i ennill. Er mwyn cyflawni hynny, bydd angen i ni fynd â phobl Cymru gyda ni a chyflwyno achos clir dros annibyniaeth fydd yn argyhoeddi.
“Fel y gellid disgwyl, rydym yn rhannu rhai dyheadau â Llywodraeth bresennol Cymru, ac roedd y drafodaeth yn gadarnhaol. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau hefyd, ac mae’n rhaid i YesCymru barhau i fod yn llais annibynnol, cryf ac effeithiol, gan sicrhau bod annibyniaeth yn parhau ar frig yr agenda wleidyddol. Mae dyletswydd arnom i wneud hynny, ar ran pobl Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.”

Daw’r cyfarfod wrth i YesCymru baratoi i wneud cyhoeddiad polisi arwyddocaol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ddydd Sul.
Mae’r mudiad dros annibyniaeth, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei aelodaeth ers etholiad y Senedd ym mis Mai, wedi datgan ers tro mai annibyniaeth i Gymru yw ei nod pennaf. Am y tro cyntaf, bydd yn pennu amserlen ar gyfer gweithio tuag at gyflawni’r nod
Ychwanegodd Rob Hughes:
“Ers sefydlu YesCymru yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, rydym wedi bod yn rhan o drawsnewid y drafodaeth genedlaethol am annibyniaeth.
“Yn hanesyddol bu’r gefnogaeth ar tua 5% ond mae wedi cynyddu i dros 35%, ond dydy’r mudiad ddim wedi pennu amserlen ar gyfer sicrhau annibyniaeth hyd yma.
“Yng nghyfnod YesCymru, mae’r wlad wedi gweld newid gwleidyddol sylweddol. Bellach, credwn mai ein cyfrifoldeb ni yw helpu i arwain cam nesaf y drafodaeth genedlaethol am annibyniaeth.
“Bydd ein hamserlen yn cynnig fframwaith realistig i’r mudiad ehangach dros annibyniaeth adeiladu cefnogaeth, cyflwyno ei achos ac ennill calonnau a meddyliau’r rhai sydd eto i’w darbwyllo mai annibyniaeth sydd sydd fwyaf llesol i Gymru.
“Byddwn yn dechrau’r gwaith hynny yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sul.”
Bydd YesCymru yn cyhoeddi ei “Amserlen Annibyniaeth” am 11am ddydd Sul, 2 Awst 2026, ym Mhabell y Cymdeithasau 1, Eisteddfod y Garreg Las, Sir Benfro.