Mae YesCymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn lansio rhifyn newydd sbon llyfryn Annibyniaeth yn Dy Boced (Independence in Your Pocket), yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.
Dyma’r diweddariad sylweddol cyntaf i’r llyfryn ers pedair blynedd, mae’n ailwampiad llwyr o’r cyhoeddiad poblogaidd ac yn cynnig canllaw llawer mwy cynhwysfawr a hygyrch i annibyniaeth nag erioed o’r blaen.
Yr Achos Dros Annibyniaeth
Dywedodd Owen Donovan, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect ers y cychwyn ac sy’n ysgrifennu am annibyniaeth ar stateofwales.com:
"Mae gan bob taith ddechrau, canol a diwedd. Er bod niferoedd cynyddol ohonom yn gwybod mai annibyniaeth yw pen y daith i Gymru, ni allwn ddefnyddio map gwag. Mae angen i ni gael syniad o ble rydym yn mynd.
"Mae’r llyfryn newydd sbon hwn yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am annibyniaeth i Gymru a’r hyn y byddai’n ei olygu i bob un ohonom."
Mae’r llyfryn dwyieithog diweddaraf yn cynnwys ystod ehangach o bynciau nag erioed, ac mae’n mynd i’r afael â nifer o’r cwestiynau sy’n codi’n gyson ynglŷn â’r hyn y gallai annibyniaeth ei olygu i Gymru.
Am y tro cyntaf, mae’r fersiynau print ac ar-lein yn cynnwys cyfeiriadau at destunau eraill er mwyn rhoi cyfle i ddarllenwyr fynd at y dystiolaeth y tu ôl i’r dadleuon. Mae’r fersiwn ar-lein bellach yn ddogfen fyw, a bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i ddata newydd gael ei gyhoeddi ac yn sgil datblygiadau a newidiadau gwleidyddol.
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
"Rwy’n falch iawn o weld Annibyniaeth yn Dy Boced / Independence in Your Pocket yn dychwelyd – nid yn unig gyda chlawr newydd sbon, ond hefyd gyda chynnwys wedi’i ailwampio’n llwyr, sy’n ei wneud yn fwy hygyrch, deniadol a pherswadiol nag erioed. Rwy’n siŵr y bydd y rhifyn hwn yn treulio llai o amser mewn pocedi, a llawer mwy yn nwylo darllenwyr brwd. Dewch i nôl copi yn Tafwyl y penwythnos hwn i weld os ydych chi’n cytuno.”
Mynnwch Gopi yn Nhafwyl neu Ar-lein
Bydd y llyfryn ar gael am £5 o stondin YesCymru yn Tafwyl dros y penwythnos. Mae wedi’i lunio ar gyfer unrhyw un sy’n chwilfrydig am annibyniaeth, ac yn cynnig cyflwyniad clir, addysgiadol a chymhellol wedi’i seilio ar gwestiynau gwirioneddol ac ar dystiolaeth.
Mae’r rhifyn newydd hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar yes.cymru/annibyniaeth, lle gellir ei ddarllen ar-lein neu ei lawrlwytho fel PDF. Gellir prynu copïau print o’r un dudalen hefyd.
Mae Tafwyl yn ŵyl rhad ac am ddim sy'n addas i’r teulu gyfan, sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Cynhelir yr ŵyl ddydd Sadwrn a dydd Sul, 14–15 Mehefin, rhwng 11am a 10pm ym Mharc Bute, Caerdydd (CF10 3ER). Yn ogystal â lansio’r llyfryn, mae YesCymru yn falch o noddi llwyfan Gwerinle unwaith eto eleni, gan roi llwyfan i artistiaid #CenhedlaethAnnibyniaeth.
Annibyniaeth yn dy Boced / Independence in Your Pocket
Chweched Argraffiad – Mai 2025
ISBN: 978-1-7385604-7-9
Fformat: Llyfryn A6. Dwyieithog cefn wrth gefn
Tudalennau: 208 (Cymraeg: 107 / Saesneg: 101)
Cyhoeddwyd gan: YesCymru
© YesCymru 2025 – Cedwir pob hawl
Achos clir a chadarn dros annibyniaeth i Gymru – yn dy boced
Mae chweched argraffiad newydd sbon o Annibyniaeth yn dy Boced / Independence in Your Pocket ar gael nawr! Mae’r llyfryn dwyieithog hwn wedi’i lunio i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am annibyniaeth i Gymru.
Gyda dros 200 o dudalennau, dyma’r diweddariad sylweddol cyntaf i’r llyfryn ers pedair blynedd, mae’n ailwampiad llwyr o’r cyhoeddiad poblogaidd ac yn cynnig canllaw llawer mwy cynhwysfawr a hygyrch i annibyniaeth nag erioed o’r blaen.
Mae wedi’i lunio ar gyfer unrhyw un sy’n chwilfrydig am annibyniaeth, ac yn cynnig cyflwyniad clir, addysgiadol a chymhellol wedi’i seilio ar gwestiynau gwirioneddol ac ar dystiolaeth.