Cadarnhawyd mai Gerddi'r Castell yn Aberystwyth fydd man cychwyn yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth, a fydd yn cael ei chynnal yn y dref am 1pm ar ddydd Sadwrn, 26 Medi.
Mae gan y castell gysylltiad arwyddocaol â hanes Cymru, gan iddo gael ei gipio gan luoedd Owain Glyndŵr ym 1404 a bod dan reolaeth ei luoedd am sawl blwyddyn yn ystod yr ymgyrch i greu gwladwriaeth Gymreig annibynnol.
Dywedodd un o’r trefnwyr, Jeff Smith, wrth siarad ar ran YesAberystwyth, grŵp lleol YesCymru yn yr ardal:
“Mae Gerddi'r Castell yn lleoliad gwych yng nghanol Aberystwyth ac rydym yn falch iawn y bydd pobl yn ymgynnull yno cyn yr orymdaith ac yn dychwelyd ar gyfer y rali.
“Bydd llwybr yr orymdaith yn mynd â ni trwy ganol y dref, ar hyd prom eiconig Aberystwyth, heibio'r Hen Goleg ac yn ôl i Erddi'r Castell.
“Mae cysylltiad hanesyddol diddorol hefyd. Mwy na chwe chanrif yn ôl, roedd Castell Aberystwyth yn rhan o ymgais Owain Glyndŵr i sefydlu gwladwriaeth Gymreig annibynnol.”
Dywed trefnwyr yr orymdaith fod yr hanes yn rhoi arwyddocâd ychwanegol i'r lleoliad, ond maent yn pwysleisio bod yr orymdaith yn canolbwyntio'n bendant ar Gymru heddiw a'r math o wlad y gallai fod yn y dyfodol.

Ychwanegodd Cadeirydd newydd YesCymru, Rob Hughes:
“Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol y lleoliad eiconig hwn, bydd yr orymdaith a’r rali yn edrych i’r dyfodol. Heddiw, mae annibyniaeth yn ymwneud â rhoi'r pŵer i bobl Cymru wneud eu penderfyniadau eu hunain ac adeiladu gwlad decach, mwy ffyniannus a mwy hyderus sy'n gwella bywydau pawb sy'n galw Cymru'n gartref iddynt.”
“Bydd yr orymdaith yn ddigwyddiad cadarnhaol a chroesawgar i bawb sy'n credu y dylai Cymru gael yr un hawl â gwledydd eraill i benderfynu ar ei dyfodol ei hun.”
Gorymdaith Aberystwyth fydd yr unfed ar ddeg mewn cyfres o orymdeithiau dros Annibyniaeth a gynhaliwyd ledled Cymru ers 2019.
Disgwylir i filoedd o bobl fynychu, ac mae'r rhai sy'n teithio i Aberystwyth yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.
Mae bws hefyd yn cael ei drefnu o'r gogledd-orllewin. Dylai unrhyw un sy'n dymuno teithio ar y bws gysylltu â Teithiau Elfyn Thomas ar 01407 731080 am ragor o fanylion ac i archebu tocynnau.
Bydd gwybodaeth bellach am yr orymdaith, gan gynnwys map yn dangos llwybr yr orymdaith, gwybodaeth teithio, siaradwyr, hygyrchedd a diweddariadau eraill, yn cael ei hychwanegu dros yr wythnosau nesaf ar: www.yes.cymru/aber