Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith dros Annibyniaeth - Gwybodaeth hanfodol

Mae gorymdaith fawr Wrecsam yn prysur agosáu, ac mae’r rhifyn hwn o’r cylchlythyr wedi ei neilltuo i’r trefniadau ar gyfer penwythnos Gŵyl Annibyniaeth Wrecsam.

Gorymdaith dros annibyniaeth

Bydd yr orymdaith ei hun yn cychwyn yn brydlon am 12pm ar 2 Gorffennaf yn Llwyn Isaf, Wrecsam.

Mae YesCymru, Indyfest Wrecsam ac AUOBCymru yn annog pawb sy'n mynychu i gyfarfod o 10.30am ac i ddod â baneri, drymiau ac offerynnau.

Dyma lwybr yr orymdaith - mae’n oddeutu milltir o hyd - digon hir i ni weld talp go-lew o Wrecsam, ond heb fod rhy hir.

Rali annibyniaeth yn dilyn yr orymdaith

Yn dilyn yr orymdaith bydd rali gyda siaradwyr a cherddoriaeth, bydd modd gweld popeth sy’n digwydd ar y llwyfan ar sgriniau mawr.

Wedi’u cadarnhau yn barod mae

  • Dafydd Iwan
  • Evrah Rose, bardd ac ymgyrchydd
  • Pol Wong, Indy Fest Wrecsam
  • Tudur Owen, digrifwr a darlledwr 
  • Carrie Harper, Cynghorydd Sir Wrecsam
  • Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd Cymru
  • Dylan Lewis Rowlands, Labour for Indy Wales
  • Roopa Vyas, llysgennad #hergametoo
  • Dewi 'Pws' Morris, canwr, actor a barddonwr
  • Dylan Rhys Jones, Awdur a darlithydd
  • Band Cambria

Bydd mwy o enwau yn cael eu rhyddhau yn arwain at y diwrnod.

Marchnad Annibyniaeth

Mae “Indy Market” yn cael ei threfnu i gyd-fynd â’r orymdaith, bydd dros 20 o stondinau yn cynnig bwyd, diod a chynnyrch lleol, gan gynnwys nwyddau i hyrwyddo annibyniaeth. Bydd y farchnad yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, o 9.30am nes 4pm ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf.

Teithio

Gellir cyrraedd Wrecsam yn weddol gyfleus ar drên neu fws - mae gorsaf drenau Wrecsam Canolog o fewn tafliad carreg i Llwyn Isaf, ac mae gorsaf fysiau ganolog Wrecsam o fewn 2 funud o gerdded hefyd.

Mae nifer o grwpiau YesCymru yn trefnu bysiau hefyd, gallwch chi gael y manylion a chadw sedd ar siop YesCymru.

Mae digonedd o feysydd parcio cyhoeddus o gwmpas Wrecsam, ond gan fod disgwyl nifer fawr o geir - y cynta’ i’r felin gaiff falu.


Dyma fap sy'n dangos meysydd parcio.

Gwersylla

Mae’r meysydd gwersylla yma yn lleol i Wrecsam -

  • The Plassey Eyton, LL13 0SP - Caniateir Cwn
  • New Farm Caergwrle, LL12 9EE - Caniateir Cwn - oedolion yn unig
  • Emral Gardens Bangor-Is-Y-Coed, LL13 0BG - Caniateir Cwn - Oedolion yn unig
  • Trench Farms, Penley, LL13 0NA - Caniateir Cwn
  • James Caravan Park Rhiwabon, LL14 6DW - Caniateir Cwn (os ydych yn archebu lle yma gallwch gael lleoliad gyda mynychwyr eraill yr  orymdaith drwy roi gwybod i’r perchnogion eich bod yn adnabod Phyl Griffiths *nid cod cyfrinachol mo hwn*)
  • Wild Cherry Camping Y Waen, LL14 5BG - Caniateir Cwn
  • Llyn Rhys Llandegla, LL11 3AF - Caniateir Cwn

Nwyddau o siop YesCymru

Cofiwch y bydd siop YesCymru ar-lein yn gwerthu yr holl nwyddau sydd eu hangen ar gyfer gorymdaith lwyddiannus. 
Archebwch erbyn 12pm ddydd Mercher 29/06 er mwyn cael eich nwyddau mewn pryd.

Bydd stondin nwyddau gan YesCymru yn Wrecsam ar gyfer yr orymdaith hefyd - gallwch chi stocio’r cwpwrdd dillad yn llawn o nwyddau ar gyfer gweddill y flwyddyn!

Rhannu Lluniau a Fideos

Cofiwch dynnu lluniau o’ch taith draw i Wrecsam a'r orymdaith ei hun, a’i rhannu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu â ffoto@yes.cymru

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.