Symud ymlaen o'r llywio

Països Catalans – Gwledydd Catalwnia – Llythyrau gan Gyfeillion Rhifyn 1

Dathlu Democratiaeth ar 50fed Pen-blwydd Marwolaeth yr unben Sbaenaidd Franco

I Gatalaniaid, mae 20 Tachwedd yn ddyddiad o goffau a dathlu – nid yn unig am ei fod yn nodi marwolaeth unben ffasgaidd olaf Sbaen, Francisco Franco, ond hefyd am ei fod yn ein hatgoffa nad yw breuddwyd Franco – breuddwyd oedd wedi ei gwreiddio mewn canrifoedd o oruchafiaeth Sbaenaidd, wedi llwyddo i ddiffodd hunaniaeth, iaith na gobeithion democrataidd Catalwnia.

Er y bu Franco farw yn 1975, ni fu paid ar y peiriant a greuwyd ganddo am beth amser. Parhau wnaeth yr hen gyfundrefn, y prosesau a’r sefydliadau ymhell wedi i Franco dynnu ei anadl olaf. Parhaodd barnwyr,  uchel-swyddogion y fyddin, yr heddlu, ac uwch-swyddogion a oedd wedi gwasanaethu o dan yr unben yn eu lle. Yn hytrach na datgymalu’r gyfundrefn, sicrhaodd Franco parhad i’w drefn trwy adfer y frenhiniaeth Bourbon - gan osod brenin yr oedd wedi’i fagu ei hun – yn warcheidwad ar ei werthoedd Ffrancoaidd.

Yn wahanol i ffasgaeth yr Almaen, nid yw ffasgaeth Sbaen erioed wedi cael ei llusgo gerbron llys barn. Cafodd troseddau yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd o dan deyrnasiad Franco erioed eu hymchwilio, a chafodd neb eu herlyn, a pharhaodd y gormes ymhell ar ôl ei farwolaeth: lladdwyd dros 700 o bobl ar ôl 1975. Heb adnewyddu pŵer barnwrol a sefydliadol, parhaodd degawdau o awdurdodoliaeth yn gudd dan yr wyneb, hyd yn oed wrth i’r byd gredu bod democratiaeth wedi cyrraedd Sbaen.

Ar y pen-blwydd hwn, rydym ni yma yng Nghatalwnia yn talu teyrnged i bawb a ddioddefodd ac a fu farw oherwydd y drefn giaidd hon - plant, menywod a dynion a dargedwyd gan Gatalanoffobia systemig a gydnabyddir gan haneswyr ac arsylwyr rhyngwladol fel ei gilydd. Ymhlith y dioddefwyr hyn roedd ffigurau amlwg megis:

  • Josep Sunyol i Garriga, Llywydd clwb peldroed Barcelona, a lofruddiwyd yn 1936 am ei ddaliadau gwleidyddol a’i amddiffyniad o Gatalanedd.
  • Lluís Companys, Llywydd y Generalitat, a gafodd ei ladd gan luoedd Franco yn 1940. Wynebodd farwolaeth yn urddasol: llygaid yn agored, yn droednoeth, ac yn gweiddi ei eiriau olaf – “Per Catalunya!”

Lluís Companys i Jover

"Rydym ni yn bobol fydd yn ymladd, ac er y byddwn ni’n dioddef, byddwn yn ennill y dydd."

Mae eu dewrder a’u haberth yn parhau i ysbrydoli Catalaniaid heddiw wrth i ni ymdrechu am ddyfodol rhydd, democrataidd ac annibynnol.

Gwyliwch y ffilm fer 16’ am ragor o wybodaeth: Catalonia: Peaceful Agreements or Bloody Papers? – YouTube

Dathlu Diwylliant Catalanege

Ar draws holl genedl Catalwnia – yn y tiriogaethau sydd dan ormes Sbaen ac yn y rhai dan reolaeth Ffrainc – mae ein pobl yn parhau i wrthsefyll pwysau ymerodrol y wladwriaeth fodern. Yn oes y globaleiddio, mae diwylliannau cenedlaethol heb wladwriaeth annibynnol bron yn ddieithriad o dan anfantais. Eto i gyd, rydym yn sefyll yn gadarn. Yng ngeiriau enwog Francesc Pujols:

“Mae ysbryd y Catalan yn tyfu ac yn goroesi bygythiad y torrwr beddi sydd wastad yn deisyfu ei thranc.”

Ac mae’r dystiolaeth ym mhobman.

Mae creadigrwydd Catalaneg yn parhau i ffynnu gyda bywiogrwydd rhyfeddol: 2,345 o weithiau cerddorol o bob math yn cael eu rhestru bob blwyddyn, 25 o lyfrau yn cael eu cyhoeddi bob dydd, a mwy na 200 o gylchgronau arbenigol yn cael eu cynhyrchu yn ein hiaith. Nid ystadegau yn unig yw’r rhain – mae nhw yn dystiolaeth fod diwylliant Catalaneg yn parhau i sefyll yn falch ac yn ffynnu er gwaethaf rhwystrau di-ddiwedd.

Gellir gweld enghraifft bwerus o’r gwydnwch hwn yn y sîn gerddoriaeth Gatalanaidd sy’n tyfu’n gyflym. Mae cyngherddau ar draws y wlad yn llawn pobl ifanc yn canu’n falch yn y Gatalaneg – ac yn aml yn gweiddi’n groch dros annibyniaeth. Mae gwyliau fel CabróRock yn dangos pa mor ddwfn yw’r egni diwylliannol hwn. Ac yn Barcelona, mae carreg filltir newydd wedi ei chyrraedd: ers blynyddoedd, Coldplay oedd yn dal y record am y gynulleidfa fwyaf ar gyfer cyngerdd un artist. Ond erbyn hyn, mae’r grŵp Catalanaidd Oques Grasses wedi chwalu’r record honno’n ddigamsyniol. Gwerthwyd pob un o’r 55,000 o docynnau ar gyfer eu cyngerdd yn y Stadiwm Olympaidd mewn dim ond 21 munud, gan arwain at drefnu pedair sioe arall yn y dyddiau canlynol. Dyna 220,000 o bobl – yn bennaf yn ifanc, ond nid hwynt yn unig – wedi’u huno mewn dathliad o gerddoriaeth fyw a diwylliant Catalaneg.

Felly ar 20 Tachwedd, er nad ydym eto yn byw mewn gwladwriaeth Catalanaidd rydd o ddemocratiaeth perffaith – fe ddathlwn! Dathlwn oherwydd ein bod yn gwybod, yn y pen draw, mai ni sy’n berchen ar y dyfodol. Bydd buddugoliaeth ar y gorwel – a prysuro mae’r dydd hwnnw.

Ac yn ngeiriau Oques Grasses:

“Mor rhyfedd ac mor brydferth,
Rhwng gwyrth a thrychineb yw ein lle.
Awyr o olau i wneud i ti deimlo’n hapus –
Mae’r nos yn disgleirio, ac mae’n disgleirio i ti,
Oherwydd rwyt ti yma.”

Anna Arqué i Solsona

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.