Symud ymlaen o'r llywio

Pam Fy Mod Eisiau Annibyniaeth? - Pol Wong

Yn syml, oherwydd yr hyn sydd yn fy nghalon a fy meddyliau ac oherwydd y blinder corfforol o weld disgleirdeb llethol Cymru yng nghysgod etifeddiaeth dywyll canrifoedd o orthrwm.

Fe wna i esbonio o safbwynt Shaolin. Mae Shaolin Gong fu yn arddel cyrraedd hapusrwydd/undod trwy greu harmoni rhwng y meddwl, y corff a’r enaid/ysbryd.

Fel y nifer cynyddol sy’n cefnogi annibyniaeth rwy’n gweld ein heriau ni yn y Gymru sydd ohoni heddiw. Erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl yn dod i weld y diffyg democrataidd sydd yng Nghymru a’r anfantais i’n datblygiad economaidd yn sgil hynny, sydd, yn ei dro, yn atal unrhyw gorff yng Nghymru rhag gweithredu’n effeithiol. Rwy’n gweld y diffyg cyfleoedd, y dirywiad bwriadol a’n cymunedau’n gwywo bob dydd.

Rwy’n gweld anghyfartaledd yn y Deyrnas Gyfunol, yn gweld sut bu i’r Deyrnas Gyfunol ddod yn gyfystyr â’r Ymerodraeth, yn credu’n llwyr yn ei frolio’i hun ac yn ein llusgo ymhellach i ddifancoll hunanoldeb heb feddwl ymhellach na’r tymor byr. Mae popeth sy’n digwydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Rydyn ni’n dangos symptomau dibyniaeth.

I mi, mae’r amodau presennol, y rhestr ddiddiwedd o broblemau economaidd, cymdeithasol a democrataidd yn dangos ein meddylfryd yn glir. Allwn ni ddim dod at ddatrysiad i leddfu’n meddwl anniddig. Ni all ein meddwl ddod at gydbwysedd, mae’n orlawn, dan bwysau, yn bryderus a negyddol, a does ganddo ddim o’r gallu i gyfleu ei hun.

Rydyn ni’n ddibynnol! Meddylfryd yw dibyniaeth! Pan fo’r meddwl mewn cyflwr gwael mae gallu a chryfder y corff yn lleihau.

Mae’n sefydliadau a’n systemau llywodraethu yn cynrychioli cyflwr corfforol ein cenedl a’n systemau’n cynrychioli’r corff. Os ydyn nhw’n gweithio’n dda bydd y corff a holl systemau’r corff yn gweithredu’n iawn. Er enghraifft, pan fydd cylchrediad y gwaed yn gweithio ar ei orau mae gwaed yn cylchredeg yn rhydd. Bydd yn porthi’r corff ag ocsigen a phrotein newydd. Mae’r corff yn ei gynnal ei hun a gall ddatblygu a thyfu.

Mae gweithredu meddyliol yn gwella hefyd. Ar hyn o bryd nid yw’n gwaed ni yn cael ei greu gan ein corff ni ein hunain. Rydyn ni’n derbyn trallwysiad parhaus. Trallwysiad dan reolaeth Boris Johnson, neu bwy bynnag sydd yn Brif Weinidog ar Loegr. Does gyda ni ddim rheolaeth dros amseriad y trallwysiad, ei faint na hyd yn oed dy math o waed! Ac mae rhai o’n horganau mewnol ar goll, cofiwch!

Mae’r corff yn gwasanaethu’r meddwl, yn union fel mae’n sefydliadau, ein cyfreithiau, ein harferion ac yn y blaen yn isadeiledd i’n cymdeithas. O’u cyfateb fel hyn mae’n hawdd gweld effaith y corff ar y meddwl.

Beth am yr enaid? Mae enaid yn annirweddol, ond does dim modd gwadu ei effaith. Wrth drafod ysbryd rydyn ni’n sôn am hanes ein cenedl, yr iaith Gymraeg, emosiwn, treftadaeth, diwylliant a’r angen naturiol i rannu a pherthyn, i fod â hunaniaeth, cysylltiadau a theimlo gobaith a chariad. Enaid ein cenedl yw’r union beth sy’n ein cyflrru i frwydro dros annibyniaeth nawr, y rheswm rydyn ni “Yma o hyd”.

Ein henaid hynafol sydd wedi dioddef yr un amodau’n union ers milenia, dan reolaeth. Mae enaid Cymru yn olygfa hanesyddol ryngwladol ar raddfa aruthrol. Mae’n gofnod o ganrifoedd o gredu yn y genedl Gymreig er gwaethaf popeth. O Hywel Dda i Llywelyn ein Olaf, Owain Glyndwr, a’r holl wladgarwyr trwy’r canrifoedd i’r gwleidyddion, yr ymgyrchwyr, athrawon, rhieni, ac artistiaid sydd wedi cadw’r ffydd. Yr hen bobl sydd wedi fy ysbrydoli dros y blynyddoedd, yn eu 70au ac 80’au yn dal i fod yn rhannu taflenni, codi arian a threfnu. Nid yn y gobaith o fod ar eu hennill yn bersonol, ond am eu bod yn credu yng Nghymru a’n cenedl. Enaid y Cymry sydd wedi cynnal y corff yma sy’n fyw o hyd, yn benderfynnol. Yr enaid sydd wedi dod â ni yma.

Dyma sydd wrth galon fy rheswm i dros fod eisiau annibyniaeth. Yn syml, rwy’n credu, yn gyntaf ac yn flaenaf, yn y genedl Gymreig. Wrth ddweud wrth y byd pwy ydyn ni rydyn ni’n bodoli, ac o fodoli mae gyda ni lais. Ac mae angen i ni ei ddefnyddio!

Pan mae’r meddwl, y corff a’r enaid yn un, gallwn ni wireddu ein potensial.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.