Symud ymlaen o'r llywio

Rali Nid yw Cymru ar Werth - Adroddiad YesMachynlleth

Bu aelodau YesMachynlleth yn gorymdeithio trwy dref Machynlleth ar ddydd Sadwrn 14 Medi, gyda 500 o bobl eraill, yn ystod Rali Glyndŵr 'Nid yw Cymru ar Werth' Cymdeithas yr iaith Gymraeg. Nod y rali oedd pwysleisio’r angen i fynd i’r afael â phroblem tai haf ac ail-dai yn yr ardal, ac i stopio’r allfudiad o bobl ifanc o’r fro.

Roedd YesMachynlleth wedi bod yn rhan o’r trefniadau, gyda sawl aelod yn siarad, stiwardio, neu’n helpu allan ar y diwrnod. Yn ogystal â hyn, bu aelodau’r gangen yn weithgar iawn yn dosbarthu pamffledi’n hysbysebu’r rali o ddrws i ddrws yn yr ardal, ac yn sioeau amaethyddol y cylch.

Meddai Simon Jones, llefarydd ar ran YesMachynlleth:

"Roedd y rali’n llawer o hwyl, ac yn gyfle pwysig i bwysleisio’r angen i ddatrys y broblem dai yn yr ardal. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gallu helpu trefnu’r digwyddiad, a datgan yn glir mai’r ffordd orau i fynd i’r afael â materion tai yw annibyniaeth, lle bydd yr holl bwerau angenrheidiol yn nwylo Cymru."

Cerddodd y dorf o faes parcio Stryd Maengwyn, ac wrth iddynt basio Senedd-dy Owain Glyndŵr roedd côr o blant yr ardal yn canu cân o berfformiad diweddar Cwmni Theatr Maldwyn o sioe gerdd Y Mab Darogan. Aeth pobl yn eu blaen wedyn ar hyd Stryd y Maengwyn i Blas Machynlleth, lle cawsant eu hadloni gan Linda Griffiths. Roedd hi’n ddiwrnod prysur ym Machynlleth, gyda llawer o ymwelwyr yn y dref, felly llwyddwyd i greu argraff ar bawb a oedd ar y stryd, gyda nifer yn holi beth oedd achos y rali, ac yn datgan eu cefnogaeth.

Cafwyd areithiau gan Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith, Delyth Jewell AS, y cynghorydd lleol Alwyn Evans, yr awdur Mike Parker a’r ymgyrchydd tai Catrin O’Neill, a aeth ymlaen i ganu sawl cân, cyn i’r rali orffen gyda phawb yn canu’r anthem genedlaethol. Cafwyd sesiwn gerddoriaeth fywiog iawn yn nhafarn y Wynnstay ar ôl y rali, gyda phawb yn canu’n frwd ac yn mwynhau.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.