Symud ymlaen o'r llywio

Demo yn y Senedd i alw am Drosglwyddo Rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru

Ar ddydd Mawrth (8 Gorffennaf), fe wnaeth YesCymru gynnal digwyddiad egniol wrth y Senedd ym Mae Caerdydd i dynnu sylw at yr ymgyrch i drosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru.

Yn ystod y digwyddiad gwahoddwyd Aelodau o'r Senedd i arwyddo datganiad ffurfiol i ddatgan cefnogaeth i'r ymgyrch. Bu ymgyrchwyr yn dal baneri mawr dwyieithog yn dweud “Transfer the Crown Estate / Trosglwyddwch Ystad y Goron”, a defnyddiwyd chwibannau, drymiau ac offerynnau eraill i greu ton o sŵn ar gyfer pob llofnod.

Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:

Mae pobl Cymru yn glir - rydyn ni eisiau rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain. Mae trosglwyddo Ystad y Goron i Gymru yn gam hanfodol ar ein taith tuag at annibyniaeth.

Ychwanegodd Rob Hughes, un o Gyfarwyddwyr YesCymru a threfnydd y digwyddiad:

Ymgyrch yw hon i adeiladu cenedl hunangynhaliol sy'n barod i gymryd ei lle ar lwyfan y byd fel gwlad hyderus ac annibynnol.

Daw'r digwyddiad wrth i fomentwm dros ymgyrch Ystad y Goron gynyddu, a wedi i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ddatgan eu cefnogaeth yn ffurfiol.

Yn ystod y digwyddiad arwyddodd 11 Aelod o'r Senedd ddatganiad ffurfiol o gefnogaeth - naw o Blaid Cymru a dau o'r Blaid Lafur. Dros yr wythnosau nesaf bydd YesCymru yn gwahodd aelodau eraill y Senedd i ychwanegu eu henwau. Bydd rhest yn cael ei chyhoeddi a'i diweddari ar wefan YesCymru.

Mae'r datganiad yn nodi:

“We, the undersigned, support transferring control of the Crown Estate to Wales.”

Mae'r rhai a arwyddodd yn y digwyddiad yn cynnwys:

  • Adam Price MS (Plaid Cymru)
  • Carolyn Thomas MS (Llafur)
  • Cefin Campbell MS (Plaid Cymru)
  • Heledd Fychan MS (Plaid Cymru)
  • John Griffiths MS (Llafur)
  • Llŷr Gruffydd MS (Plaid Cymru)
  • Luke Fletcher MS (Plaid Cymru)
  • Mabon ap Gwynfor MS (Plaid Cymru)
  • Peredur Owen Griffiths MS (Plaid Cymru)
  • Rhun ap Iorwerth MS (Plaid Cymru)
  • Sioned Williams MS (Plaid Cymru)

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.