Symud ymlaen o'r llywio

Datganiad YesCymru

Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol diweddar YesCymru, mae pedwar swyddog y Pwyllgor Canolog wedi ymddiswyddo - Iestyn ap Rhobert (Cadeirydd), Rhydian Hughes (Is-Gadeirydd), Moelwen Gwyndaf (Ysgrifennydd) a Gweirydd ap Gwyndaf (Trysorydd).

Hoffai YesCymru ddiolch iddynt oll am y gwaith enfawr a'r ymrwymiad a roddwyd ganddynt i'r achos dros annibyniaeth i Gymru. Maent wedi chwarae rhan bwysig yng ngwaith y Pwyllgor Canolog, sydd wedi cymryd YesCymru o syniad i ymgyrch genedlaethol, gan arwain y cynnydd mewn cefnogaeth o annibyniaeth i Gymru.

Bydd tri o aelodau'r pwyllgor sy'n weddill nawr yn rhannu'r dyletswyddau swyddog, ar sail dros dro. Mewn dau fis, byddwn yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig â'r pwrpas penodol o benodi pwyllgor newydd, llawn o 16 drwy bleidlais. Byddwn yn agor enwebiadau ar gyfer pob un o'r 16 swydd yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddwn yn rhoi digon o rybudd i'n haelodau o hyn, ac o'r trefniadau ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

Yn ein Cyfarfod Cyffredinol diweddar, cytunom i ymgynghori gyda'r aelodau ar y newidiadau arfaethedig i'n cyfansoddiad, ac i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i bleidleisio ar y newidiadau ar wahân yn hytrach nag mewn un cynnig. Oherwydd yr amgylchiadau annisgwyl hyn, byddwn yn gorfod gohirio'r broses hon nes penodi pwyllgor llawn. Un o dasgau cyntaf y pwyllgor newydd fydd ymgynghori â'r aelodau a chynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig pellach ar faterion yn ymwneud â'r cyfansoddiad.

Wrth i YesCymru barhau i dyfu, rydym yn anelu i ddatblygu a chryfhau'r cyfansoddiad newydd gyda chymorth ein haelodau, i wneud YesCymru yn addas fel sefydliad aml-aelod, llawr-gwlad sy'n cael ei harwain gan yr aelodau. Yn ystod y bennod newydd hon o YesCymru, rydym hefyd yn anelu i wneud y Pwyllgor Canolog yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol i'n haelodau a'n grwpiau lleol.

Hoffem ddiolch unwaith eto i'r swyddogion sydd wedi ymadael am eu holl waith.

Trwy gryfder ac undod fe gyflawnwn ein nod o Gymru annibynnol.

Pwyllgor Canolog YesCymru,

  • Tricia Roberts
  • Dilys Davies
  • Leon Russell
  • Matthew Ford
  • Gwyn Llewelyn

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.