Ar Nos Wener 23 Mai 2025, daeth Nicola Sturgeon a Leanne Wood ynghyd am noson gofiadwy yn Theatr Soar, Merthyr Tudful, i drafod annibyniaeth i’r Alban a Chymru.
O dan gadeiryddiaeth Sioned Williams AS, bu'r digwyddiad a werthwyd allan yn llawn atgofion personol, mewnwelediadau gwleidyddol a heriau ar y ffordd tuag at Gymru a'r Alban well yn rhydd o San Steffan.
Os nad oeddech chi’n ddigon ffodus i gael tocyn – fe werthwyd pob un o fewn 24 awr o gael eu hysbysebu – mae modd i chi wylio’r digwyddiad yn llawn ar Youtube.