O ran polisi awtonomiaeth, nid yw’r sefyllfa’n edrych yn arbennig o ffafriol yn Ne Tirol ar hyn o bryd.
Mae sawl piler o’n hannibyniaeth ar hyn o bryd dan warchae gan wladwriaeth genedlaethol yr Eidal.
Diwygio awtonomiaeth:
Mae diwygio pellgyrhaeddol i awtonomiaeth De Tirol (math o gyfansoddiad a luniwyd i sicrhau amddiffyniad i leiafrifoedd yn Ne Tirol o fewn yr Eidal) ar y gweill yn Rhufain, gyda newidiadau mawr ar y gorwel, gan gynnwys rhai niweidiol iawn i’n rhanbarth ni - rhanbarth awtonomaidd Trentino–De Tirol. Un o’r prif bryderon, a rennir gan y rhan fwyaf o arbenigwyr, yw bod y “buddiant cenedlaethol” i barhau i fod wedi’i ymgorffori yn y statud awtonomiaeth, yn ogystal â geiriad gwan y cymal caniatâd - oherwydd, os nad oes cytundeb rhwng y dalaith a’r wladwriaeth, Rhufain fydd yn penderfynu’r ffordd ymlaen pob tro.
Yn yr un modd, yn y dyfodol bydd rhaid i’r “Dalaith Awtonomaidd De Tirol” gael ei henwi’n swyddogol yn Almaeneg fel “Südtirol/Alto Adige”. Mae hyn yn golygu y caiff enwau a fathwyd gan y ffasgwyr eu gosod yn swyddogol hefyd yn yr enw Almaeneg o hyn ymlaen. Bydd cyfanswm o 29 o bwyntiau’r statud yn cael eu newid neu eu hymestyn, ond ychydig iawn ohonynt sy’n cynnig manteision amlwg i boblogaeth De Tirol. Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau’n ymwneud â gweithdrefnau biwrocrataidd, megis gweithredu a rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus o ddiddordeb talaithol a lleol.

Mae’r rheol cynrychiolaeth gyfrannol yn cael ei dileu i bob pwrpas!
Un o drysorau cyfansoddiadol De Tirol yw’r rheol cynrychiolaeth ethnig gyfrannol:
Mae cynrychiolaeth ethnig gyfrannol (Eidaleg: proporzionale etnica, Ladin: proporz etnich) yn reol gyfreithiol a sefydlwyd gan Statud Awtonomiaeth, a ddefnyddir yn Ne Tirol wrth ddyrannu swyddi yn y sector cyhoeddus, dosbarthu buddion cymdeithasol cyhoeddus, a chyfeiriad cyllideb weinyddol y dalaith. Mae’n gwarantu ystyriaeth gyfrannol i’r tair grŵp iaith a gydnabyddir yn gyfreithiol (Almaeneg, Eidaleg, Ladin) yn unol â’u cryfder, fel y’i pennir gan arolygon grŵp iaith.
Trwy system o’r enw “cynrychiolaeth gyfrannol hyblyg”, mae hyd yn oed Plaid y Bobl De Tirolaidd (SVP) am ddileu cynrychiolaeth ethnig gyfrannol dros dro er mwyn mynd i’r afael â’r prinder gweithwyr sydd yn meddu sgiliau addas. “Toes dim amheuaeth – mae’r hyn sy’n cael ei werthu i ni fel mesur argyfwngar hyn o bryd - fydd mewn gwirionedd, maes o law - yn esblygu yn raddol i fod y normal newydd,” medd pennaeth y dalaith - Christoph Schmid. “Mae’r system cynrychiolaeth gyfrannol, a gyflwynwyd fel trefn i ddiogelu y grwpiau iaith Almaeneg a Ladin, felly’n cael ei disodli yn gyfan gwbl, a’i gwneud i bob pwrpas yn destun joc.”
Mae Schützenbund yn arbennig o feirniadol o’r ffaith nad oes unrhyw feini prawf wedi’u cyflwyno i ddangos bod argyfwng gwirioneddol ar waith. “Os, yn y dyfodol, bydd yn ddigon i honni prinder ymgeiswyr er mwyn gwyro’n systematig oddi wrth gynrychiolaeth gyfrannol, nid eithriad mohono mwyach, ond newid trywydd bwriadol,” ychwanega Schmid.
Mae addysg trwy’r famiaith dan fygythiad:
Roedd yr hawl i gael eich addysgu yn yr Almaeneg a’r Ladin – yn draddodiadol dwy famiaeth gynhenid pobol y dalaith yma - yn gamp fawr i Dde Tirol. Wrth i’r flwyddyn ysgol ddechrau, mae ymosodiadau parhaus gwladwriaeth yr Eidal ar yr hawliau yma unwaith eto’n destun trafod. Mae’n mynd yn fwyfwy anodd i blant sy’n siarad Almaeneg siarad Almaeneg mewn ysgolion Almaeneg, gan fod y nifer mawr o blant Eidaleg a thramor sy’n mynychu ysgolion Almaeneg wedi creu problem mewn rhai ardaloedd. Mae’n amlwg nad yw gwleidyddion lleol yn fodlon gwella’r sefyllfa. Mewn rhai ysgolion, mae’r system addysg yn simsanu, ac yn gwegian cymaint fel ei fod bron a methu. Bellach, mae hyd yn oed athrawon a’u hundebau yn protestio.
Ar hyn o bryd, yn anffodus, mae datblygiadau cadarnhaol o ran polisi awtonomiaeth yn brin iawn.
Mae’r sefyllfa hon yn golygu bod angen i Schützenbund De Tirol, ynghyd ag eraill, aros yn effro i barhau i warchod yr Almaeneg a’r Ladin yn Ne Tirol, a gweithredu pan fo angen.
Andreas Kostner