Mae cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn ôl arolwg barn newydd a gomisiynwyd gan YesCymru cyn yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Y Barri ddiwedd y mis.
Gofynnodd yr arolwg barn, a gynhaliwyd gan Redfield & Wilton Strategies, i 1,000 o oedolion yng Nghymru sut y byddent yn pleidleisio pe bai refferendwm ar annibyniaeth yfory. Dywedodd 41 y cant o'r rheini oedd wedi gwneud penderfyniad y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth, un o’r lefelau uchaf o gefnogaeth sydd wedi ei chofnodi hyd yma.
Cafodd canlyniadau’r arolwg eu rhyddhau mewn cynhadledd i’r wasg yn Y Barri ddydd Gwener 4 Ebrill, lle daeth ymgyrchwyr ynghyd i drafod y canfyddiadau ac i edrych ymlaen at yr orymdaith sydd i ddod.
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
Mae’r arolwg yma yn garreg filltir i’r mudiad annibyniaeth. Mae cefnogaeth ar gynnydd sylweddol, i fyny pum pwynt ers yr arolwg gan yr un cwmni y llynedd, ac mae bron i hanner yr oedolion o oedran gweithio bellach yn hyderus yng ngallu Cymru i lywodraethu ei hun. Mae agweddau’n newid, ac mae pobl ledled Cymru yn barod i gael trafodaeth ddifrifol am annibyniaeth.”
Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at duedd gryfach fyth ymysg y genhedlaeth iau. Dywedodd 72 y cant o bobl rhwng 25 a 34 oed y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth, gyda chefnogaeth o 49 y cant ar draws yr holl grŵp oedran 18 i 64. Mae hyn yn dangos newid sylweddol yng nghanfyddiad pobl ifanc o ddyfodol Cymru.
Dywedodd Kiera Marshall, sy’n 26 oed ac a fydd yn siarad yn yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Y Barri ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill:
Fel person ifanc sy’n byw yng Nghymru, rwy’n awyddus i’n penderfyniadau gael eu gwneud yma, nid gan San Steffan. Mae fy nghenhedlaeth i wedi cael ei hanwybyddu’n rhy aml, felly dydy hi ddim yn syndod bod 72 y cant o bobl ifanc bellach o blaid annibyniaeth. Dydy e ddim yn syniad ymylol bellach; mae’n uchelgais gan y mwyafrif yn fy nghenhedlaeth ni am Gymru well a thecach.
Ychwanegodd Mark Hooper, un o drefnwyr yr orymdaith yn Y Barri:
Mae’r egni y tu ôl i’r mudiad yma’n tyfu gyda phob gorymdaith, pob sgwrs, ac yn awr, mae’r data yn ei gadarnhau. Bydd yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Y Barri ar 26 Ebrill yn gyfle i bobl o bob cwr o Gymru ddod ynghyd i ddangos bod y gefnogaeth yn real, ei bod yn tyfu, ac nad oes stop arni.
Cafodd ail gwestiwn yn yr un arolwg ei ofyn hefyd, gan holi beth fyddai barn pobl pe bai Cymru’n gallu ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol. Yn y sefyllfa honno, dywedodd 51 y cant o’r rhai a benderfynodd y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth, gan ddangos bod cefnogaeth yn tyfu ymhellach pan fo gweledigaeth glir o fywyd y tu hwnt i San Steffan yn cael ei chyflwyno.