Mae Yes Cymru wedi bod yn cefnogi Tîm Pêl-Droed Trawsblaniad Cymru wrth iddyn nhw baratoi at gymryd rhan yng Nghwpan y Byd pêl-droed am y tro cyntaf.
Mae Sam Murphy, cyfarwyddwr Yes Cymru dros y De-Orllewin, wedi bod yn flaengar wrth godi’r ymwybyddiaeth o’r achos da hwn ymhlith aelodau a chyd-cyfarwyddwyr Yes Cymru. Dywedodd Sam, “Mae cystadlu yn nghwpan y Byd fel tîm Cymru yn gam mawr i’r rhai sy’n trefnu’r tîm a chwarae i’r tîm. Yn ogystal â chefnogi’r tîm yn yr Eidal, mae’n wych y bydd cyfle gan Yes Cymru a’n haelodau i gefnogi’r tîm gyda’u costau a’u helpu i gyrraedd y gystadleuaeth.”
Mae Yes Cymru wedi mabwysiadu’r tîm fel achos y mudiad dros y chwe mis nesa. Roedd cyfle i aelodau Yes Cymru gyfrannu at gostau’r tîm i gyrraedd y twrnameint gyda Yes Cymru yn ganolog yn cyfrannu’r un sŵm a godir gan aelodau i sicrhau bod y tîm yn gallu cystadlu.
Yn ôl Shaun Ruck, rheolwr y tîm, mae cefnogaeth Yes Cymru yn rhoi hwb mawr i bawb sy’n gysylltiedig â’r tîm. “Dyn ni’n denu chwareuwyr o bob rhan o’r wlad ac i lawer iawn ohonyn nhw nid m’ond tîm pêl-droed ydyn ni, ond cymuned sy’n cefnogi ein gilydd wrth i ni wynebu heriau enfawr. Mae’r cyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd yn beth mawr i bob un ohonom ni, i gynrychioli ein gwlad ar lwyfan rhyngwladol. Heb gefnogaeth Yes Cymru, mae’n bosib y byddai’n rhaid i ni gystadlu fel rhan o Tîm GB. Ond rydym yn genedl, ac mae cystadlu fel cenedl yn beth enfawr ym mywydau pob un ohonom ni.
Medd Cadeirydd Yes Cymru, Phyl Griffiths, “I ni, penderfyniad hawdd oedd hon. Dyn ni wrth ein boddau o gael mabwysiadu achos da am y tro cyntaf erioed, yn enwedig wrth ystyried sut mae’r tîm yma’n cynnig y fath gefnogaeth i bobl sy’n derbyn trawsblaniad. Hefyd, bydd gweld Cymru yn cystadlu ar lwyfan rhyngwladol ym myd pêl-droed unwaith eto yn rhywbeth arbennig iawn.”
Yn barod mae Yes Cymru wedi codi bron mil a hanner o bunnoedd at yr achos trwy annog cefnogwyr i godi arian arlein gyda Yes Cymru’n darparu swm cyfatebol ac hefyd yn rhoi 10% o’r rhoddion a dderbyniwyd yng ngorymdaith Caerfyrddin, gyda chynllun tebyg ar gyfer Tafwyl a’r Eisteddfod.