Symud ymlaen o'r llywio

Nawr Yw'r Amser I Gymru Dorri'n Rhydd - Roopa Vyas

Fel un a fu’n eiriolydd distaw o blaid annibyniaeth Cymru ond dim ond yn ddiweddar wedi “troi’n swyddogol” drwy ymuno efo’r mudiad ‘IndyWales’ ar Twitter, mae gen i gryn dipyn i’w ddysgu eto. Nid yw o reidrwydd yn benderfyniad syml y gellir ei wneud ar unwaith, ond mae’n un y gellir ei wneud i sicrhau gwell dyfodol i Gymru a’i phobl.

Bu gen i amheuon. Rwy’n Gymraes, ond nid wy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Rwyf o dras Indiaidd ac fe’m ganwyd yng Nghymru. Nid oes unrhyw Gymry yn fy achau, dros sawl cenhedlaeth. Ai fi, mewn gwirionedd, yw’r person iawn i fod yn rhan o’r frwydr dros annibyniaeth i Gymru. Ond os nad fi, pwy?

Pan fyddwch wedi eich geni yng Nghymru, tydi gwladgarwch ddim yn ddewis. Caiff ei blannu ynom pan yn ifanc, wrth ddysgu’n hiaith a’n traddodiadau hyfryd yn yr ysgol, ac mae’n tyfu oddi mewn i chi. Symudais i ffwrdd o Gymru i fynd i’r brifysgol ac rwy’n credu mai dyna’r adeg y daeth fy ngwladgarwch i’r wyneb. Yng nghanol myfyrwyr o Loegr a’r Iwerddon, roeddwn yn teimlo dyletswydd i hybu ac amddiffyn Cymru ym mhob maes; pêl-droed, rygbi, a gwleidyddiaeth. Teimlwn fel pe bawn mewn dinas lle gallwn fynegi’r boen a’r dicter a deimlwn tuag at y llywodraeth gan fod Cymru a Lerpwl â chymaint yn gyffredin ar sawl lefel. Yn ystod fy nghyfnod yn Lerpwl, dechreuais ddeall effeithiau creulon “Thatcheriaeth” a llymder. Dyma ddinas a effeithiwyd hyd heddiw gan doriadau’r Torïaid ac mae pobl yn dioddef mewn cymaint o ffyrdd yn sgil hynny. Does gan Scousars ddim eisiau dim i’w wneud efo Lloegr, ac allwch chi mo’u beio.

Rydw i wir yn ei chael hi’n fraint cael dweud “Rwy’n Gymraes” – mae’n wlad llawn diwylliant, natur ac ysbryd amrywiol dibendraw, ond mae Cymru wastad wedi cael ei thanseilio gan y rhai sy’n rheoli yn San Steffan, fel y gwelsom yn ddiweddar yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae agwedd ryddfreiniol Llywodraeth Cymru at lacio’r cyfnod clo mewn modd mwy pwyllog wedi dangos eu gallu i weithredu’n ddilyffethair a gwneud dewisiadau positif i’r Cymry, sy’n arwain at ganlyniadau mwy calonogol, a adlewyrchir yn y cyfraddau marwolaeth is yn yr achos hwn. Rwy’n credu fod hyn oherwydd agwedd mwy gochelgar Llywodraeth Cymru, o’i gymharu â chamreolaeth San Steffan, gan iddynt yn amlwg roi blaenoriaeth i iechyd a buddiannau iechyd cyhoeddus o flaen buddiant economaidd.

Cadarnhawyd eisoes na fydd unrhyw arian newydd yn dod i Gymru i’w fuddsoddi fel rhan o gynllun adferiad ôl-coronafeirws Prif Weinidog y DU. Pam fod Cymru’n cael ei hesgeuluso a’r cyfoeth yn cael ei ganolbwyntio ar Lundain? Mae’n hen bryd i’r ddraig roi ei throed i lawr a chyfaddef mai digon yw digon. Yr unig ffordd i “Gymru fach” gael ei chymryd o ddifrif gan wleidyddion San Steffan yw i ni sefyll i fyny a rhoi ein hunain yn gyntaf. Mae’n gwbl synhwyrol i lywodraeth Cymru gael rheolaeth dros benderfyniadau sy’n effeithio Cymru’n uniongyrchol.

Mae tair miliwn o Gymry’n haeddu cael eu clywed. Mae nifer o faterion sydd angen mynd i’r afael â nhw a dylid eu datrys gyda buddiannau Cymru mewn golwg, gan lywodraeth o Gymru. Rydym yn haeddu cael dyfodol sy’n llawn gobaith ac uchelgais, nid dirywiad economaidd a diffyg awdurdod i newid hynny. Mae’r Deyrnas “Unedig” i’w yw gweld yn bell o fod yn unedig ar hyn o bryd a chyda phob diwrnod newydd, gwelir mwy a mwy o reswm i fod yn rhan o’r mudiad cynyddol am annibyniaeth.

Mae pob un o’r uchod wedi fy nenu i geisio mwy o wybodaeth am botensial y dyfodol i Gymru. Roeddwn wedi clywed am YesCymru o negeseuon ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Un diwrnod, fe gliciodd rhywbeth yn fy mhen a phenderfynais fod angen i mi wneud rhywbeth fy hun i orfodi newid yn lle meddwl amdano o dro i dro, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu dim ond lledaenu’r gair drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n hen bryd i benderfyniadau gael eu gwneud gyda buddiannau Cymru mewn golwg, nid buddiannau pobl sydd heb unrhyw ymlyniad i Gymru na diwylliant ein gwlad. Mae’n bwysig iawn ein bod ni, pobl Cymru, yr union bobl hynny sydd wedi dioddef yn sgil esgeulustod llywodraeth Prydain, yn sicrhau fod hyn yn arwain at refferendwm i benderfynu dyfodol Cymru.

Mae’n bryd i ddeffro’r ddraig. Annibyniaeth i Gymru.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.