Symud ymlaen o'r llywio

Mae Llais Y Gweithiwr Cyffredin Yn Araf Gael Ei Ddistewi

BYDD CYMRU ANNIBYNNOL YN CRYFHAU’R LLAIS HWNNW
gan Cerith Griffiths, Dyn Tân ac aelod o’r FBU (barn bersonol)

Mae’n debyg fod tyfu lan mewn cymuned lofaol yn ystod yr 1980au wastad yn mynd i chwistrellu undebaeth lafur i ngwythiennau – hyd yn oed os nad oeddwn i’n sylweddoli hynny ar y pryd. Roedd cymunedau glofaol led led Cymru yn ymladd am eu heinioes yn erbyn llywodraeth San Steffan a Phrif Weinidog oedd yn gwbl benderfynol i chwalu Undeb y Glowyr (NUM). Dial oedd hyn wedi ei gynllunio dros sawl blwyddyn cyn yr ymrafael chwerw oedd i ddod gydol y rhan fwyaf o 1984 ac ymlaen i fisoedd cynnar 1985.

Ymlaen i 2021 a bellach mae’r stryd fawr Gymreig yn adleisio cân boblogaidd 1981 The Specials, Ghost Town – cân oedd yn ymdrin â thema dadfeiliad dinesig, dad-ddiwydiannu a diweithdra y byddai rhai yn ei gweld yn darogan yr amserau i ddod.

’Dyw cyn-gymunedau glofaol Cymru byth wedi dod dros hynny ac mae llywodraethau San Steffan un ar ôl y llall wedi methu dro ar ôl tro i fynd i’r afael ag anghenion Cymru.

Mae trychineb newid hinsawdd yn eistedd ar y gorwel a bydd raid i ni ei wynebu cyn y daw yn ddi-droi’n-ôl. Dogfen yw ‘One Million Climate Jobs’ gafodd ei hysgrifennu gan grŵp o undebwyr llafur ac mae’n manylu’n union sut gellir cyflawni hynny. Mae’n amlinellu sut y gallwn ni wrthdroi newid hinsawdd, cwtogi’n anferthol ar swmp y carbon deuocsid a’r nwyon tŷ gwydr eraill rydym yn eu gollwng i’r awyr, creu’r gyflogaeth sgiliedig sydd, yn drist iawn, mor brin yng Nghymru ac adfywio’r stryd fawr oedd unwaith mor brysur.

Dim ond Cymru annibynnol all gyflawni hyn. Mae’r seiliau eisoes yn eu lle, nawr mae angen y grymoedd economaidd a’r is-adeiledd i ni allu lawn wireddu’r syniadau hyn.

Wrth i mi ysgrifennu mae cynlluniau i agor pwll glo newydd yn Whitehaven yn Lloegr – esiampl glir o ddiffyg uchelgais a gweledigaeth

San Steffan i hyd yn oed geisio taclo newid hinsawdd. Mae eu gweithredu yn siarad yn llawer iawn uwch na’u geiriau.

Buom yng ngafael pandemig am bron i flwyddyn a pharhau a chyflymu mae’r ymosodiadau ar weithwyr ac undebau llafur. Os nad paratoadau ar gyfer deddfu pellach yn erbyn undebau llafur, yna cau’r Gronfa Ddysgu Undebol sydd ar ddigwydd yn Lloegr neu’r defnydd ffiaidd o dactegau diswyddo ac ailgyflogi sy’n cael eu defnyddio fwy fwy ar draws sectorau amrywiol ac yn erbyn gweithluoedd gwahanol. Mae llais y gweithiwr cyffredin yn araf gael ei ddistewi.

Mae Llywodraeth Cymru yn bell o fod yn berffaith, ond mae yn cydnabod cyfraniad amhrisiadwy yr undebau llafur ac mae’n barod i wrando ar bryderon swyddogion undeb a’r aelodau y maent yn eu cynrychioli.

Bydd Cymru annibynnol yn cryfhau’r llais hwnnw, yn ehangu ar y syniadau y gellir eu cyflwyno ac yn creu ffyniant economaidd sydd wedi bod mor absennol yng Nghymru ers blynyddoedd maith.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.