Symud ymlaen o'r llywio

Disgwyl Miloedd Mewn Gorymdaith Dros Annibyniaeth yn y Barri

Mae disgwyl i’r orymdaith fod yn "ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu, wedi’i gynnal mewn ysbryd da."

Dywedodd Dennis Clarke, Cadeirydd YesCymru @ Y Barri: "Bydd yr orymdaith sy’n cael ei chynnal yn y Barri ar 26 Ebrill 2025, yn ddigwyddiad cyfeillgar i deuluoedd lle mae croeso i bawb.

"Felly nodwch y dyddiad yn eich calendr nawr."

Bydd yr orymdaith yn dechrau am 1pm, gyda chefnogwyr yn ymgynnull yn Sgwâr y Brenin.

Bydd yr heddlu a Chyngor Bro Morgannwg yn rheoli’r traffig yn ystod y digwyddiad.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Sgwâr y Brenin, gan symud ar hyd Heol Holton i’r gylchfan wrth Bont y Mileniwm, heibio’r Neuadd Goffa, ac ymlaen i Heol Gladstone.

Yna, bydd yn parhau at y goleuadau traffig wrth y gyffordd gyda Heol Tynewydd, cyn dychwelyd i Sgwâr y Brenin.

Bydd nifer o fandiau yn cyd-gerdded gyda’r orymdaith, a bydd y cyflymder yn un "hawdd" i sicrhau bod pawb yn gyfforddus.

Dywedodd Mr Clarke: "Rydym yn disgwyl i’r digwyddiad fod yn un pleserus ac wedi’i gynnal mewn ysbryd da.

"Bydd llawer o gerddoriaeth a baneri - ac efallai ambell chwiban hefyd!"

Mae’r digwyddiad yn fwy na dim ond gorymdaith, gyda gweithgareddau ychwanegol wedi’u cynllunio ar gyfer y penwythnos.

Ychwanegodd Mr Clarke: "Bydd mwy o wybodaeth ar gael wrth i’r trefniadau fynd yn eu blaen.

"Nid dim ond gorymdaith yw hyn.

"Bydd pobl yn dod o bob cwr o Gymru, ac efallai ymhellach hefyd.

"Rydym am wneud eu hymweliad yn un arbennig - ymweliad i’w gofio, atgof y gallant ei rannu ag eraill wrth ddychwelyd adref.

"Mae croeso mawr i chi ymuno â ni a mwynhau popeth sydd ar gael."

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Yn dangos 1 ymateb

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.

  • Wynford Jones
    commented 2025-02-19 12:13:23 +0000
    Es i ar yr orymdaith ddiwethaf yng Nghaerfyrddin. Sylwais 3 baner palesteina a dim ond 1 baner Dewi Sant. Y tro hwn a fydd y teuluoedd cyfeillgar o bob rhan o Gymru ac efallai o thu hwnt yn cael dod a pha bynnag baneri y dymunant? Mae edrychiad a delwedd yn bwysig yn enwedig gan fod Reform wastad yn chwilio am wendidau i ecsbloetio ar gyfer eu rhyfel diwilliant.