Fe orymdeithiodd dros dwy fil o bobl drwy strydoedd y Rhyl heddiw dros annibyniaeth, wrth i’r dref lan y môr gynnal y Ddegfed Orymdaith dros Annibyniaeth.
Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan YesCymru ac AUOBCymru (Pawb Dan Un Faner Cymru), gan ddenu pobl o bob cwr o Gymru i’r arfordir gogleddol a llenwi strydoedd y Rhyl â baneri, cerddoriaeth ac egni.
Dechreuodd yr orymdaith yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl cyn deithio trwy ganol y dref a dychwelyd i’r promenâd ar gyfer rali gyda cherddoriaeth fyw ac areithiau gan ymgyrchwyr, gwleidyddion a pherfformwyr.
Dywedodd Geraint Thomas, ar ran AUOBCymru:
“Mae pob gorymdaith dros annibyniaeth yn anfon neges glir i San Steffan – nad yw pobl Cymru bellach yn fodlon cael eu hanwybyddu. O Gaerdydd i Gaernarfon, o’r Barri i’r Rhyl – mae heddiw unwaith eto’n dangos bod y mudiad hwn yn tyfu mewn hyder ac ymrwymiad. Mae pobl Cymru’n barod i gymryd ein dyfodol i'n dwylo ein hunain.”
Lleisiau o Gymru a thu hwnt
Cynhaliwyd perfformiadau gan TewTewTennau, Jacob Elwy a Genod Pres, gyda areithiau gan Llyr Gruffydd AS (Plaid Cymru), Lesley Riddoch o’r Alban, Tara Bethan, a Phil Davies o Blaid Werdd Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru dros Blaid Cymru:
“Dylai Cymru fod yn genedl gyfoethog – rydym yn gyfoethog o ran ynni, dŵr, cynhyrchu bwyd ac adnoddau naturiol, ond nid yw pobl Cymru yn gweld y cyfoeth hwnnw yn eu cymunedau. Rydym yng nghefn y ciw pan ddaw’n fater o fuddsoddi yn y Deyrnas Unedig. Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych fod Cymru’n rhy fach, yn rhy dlawd nac yn rhy wan i sefyll ar ei thraed ei hun – gallwn ac fe wnawn ni ffynnu pan fydd penderfyniadau am Gymru’n cael eu gwneud yng Nghymru.”
Dywedodd Lesley Riddoch, newyddiadurwraig, darlledwraig ac ymgyrchydd annibyniaeth blaenllaw o’r Alban:
“Mae’r Alban erioed wedi cael ei gweld fel yr arweinydd ymhlith y cenhedloedd Celtaidd sy’n ceisio hunanbenderfyniad – ond mae Cymru’n rhoi her go iawn i ni erbyn hyn! Mae’n hen bryd i Gymru a’r Alban gryfhau’r cysylltiadau rhyngddynt wrth inni agosáu at flwyddyn dyngedfennol o newid cyfansoddiadol. Rwy’n falch iawn o fod yma heddiw ar ran cefnogwyr annibyniaeth yn yr Alban.”
Dywedodd Tara Bethan, y gantores-gyfansoddwraig a fagwyd yn y Rhyl:
“Mae’r gallu a’r adnoddau gennym ni i sefyll yn uchel fel cenedl annibynnol – ac mae’r orymdaith heddiw’n profi bod y gred honno’n fyw ac yn iach ar draws Cymru.”
Dywedodd Phil Davies, Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru:
“Rwy’n falch o gyflwyno achos clir Plaid Werdd Cymru dros Weriniaeth Gymreig annibynnol – yn rhydd o faglau San Steffan a’r Frenhiniaeth – annibyniaeth sy’n gwneud bywydau pobl yn well.”
Mudiad sy’n lledaenu ledled Cymru
Dyma oedd y Ddegfed Orymdaith Genedlaethol dros Annibyniaeth ers i’r gyntaf gael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2019. Cynhaliwyd gorymdeithiau eraill yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Caerdydd (am yr eildro), Wrecsam, Abertawe, Bangor, Caerfyrddin a’r Barri – lle gorymdeithiodd dros 6,000 o bobl yn gynharach eleni.
Mae’r mudiad wedi denu sylw cynyddol yn sgil penderfyniad San Steffan i wrthod datganoli rheolaeth dros yr Ystad y Goron i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol unfrydol ar draws y wlad.
Roedd ffermydd gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, sy’n rhan o bortffolio Ystad y Goron, i’w gweld o leoliad y rali. Maent yn cynhyrchu incwm sylweddol, ond mae’r elw’n llifo allan o Gymru yn hytrach na chefnogi swyddi a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Bleddyn Williams, un o’r trefnwyr lleol:
“Dewiswyd y Rhyl am reswm. Mae’r ffermydd gwynt oddi ar ein harfordir yn eiddo i Ystad y Goron, ond mae’r elw’n mynd i San Steffan yn hytrach na helpu pobl gogledd Cymru. Mae hyn yn enghraifft glir arall o pam na all Cymru ddibynnu ar San Steffan i weithredu er ein lles – waeth pwy sydd mewn grym.
Dewiswyd y Rhyl hefyd oherwydd bod y gymuned hon wedi dioddef degawdau o esgeulustod a thanfuddsoddi gan lywodraethau olynol y Deyrnas Gyfunol. Ond heddiw gwelsom falchder, egni a gobaith. Mae pobl gogledd Cymru wedi dangos nad yw annibyniaeth yn ddim ond bosibl – mae’n hanfodol.”
Mudiad cenedlaethol sy’n tyfu
Dangosodd arolwg barn gan Redfield & Wilton Strategies ar ran YesCymru yn gynharach eleni y byddai 41% o’r rhai sydd wedi penderfynu yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm – un o’r canlyniadau cryfaf hyd yma.
Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:
“Yr hyn a welwyd gennym yn y Rhyl heddiw yw Cymru sy’n credu ynddi ei hun. Mae’r mudiad hwn yn ymwneud â democratiaeth, tegwch a gobaith – ac mae’n tyfu’n gryfach gyda phob gorymdaith.”

