Symud ymlaen o'r llywio

Vlaanderen – Fflandrys – Llythyrau gan Gyfeillion Rhifyn 1

Problemau cynyddol gwleidyddol Gwlad Belg – mae annibyniaeth Fflandrys yn agosau!

Unwaith eto mae Gwlad Belg yn wynebu sefyllfa ble mae gwleidyddiaeth a llywodraethiant y wladwriaeth wedi dod i stop – wedi cyrraedd ‘stalemate’ gwleidyddol dwfn. Fisoedd ar ôl yr etholiadau, mae Rhanbarth Brwsel yn dal heb lywodraeth gan fod y blaid sosialaidd Ffrengig ei hiaith yn parhau i wrthod unrhyw glymblaid gyda'r mwyafrif Fflemaidd a fyddai'n cynnwys yr N-VA. Yn y cyfamser, mae’r llywodraeth ffederal wedi ei pharlysu gan ei hanallu i gytuno ar addasiad cyllidebol angenrheidiol o leiaf 10 biliwn ewro - ffigwr y mae arbenigwyr yn ei ystyried yn isafswm er mwyn cynnal hygrededd ariannol.

Mae’r ddau impàs hyn yn tynnu sylw at ddiffyg gweithrededd cronig gwladwriaeth Gwlad Belg, lle mae rhaniadau ieithyddol ac ideolegol yn rhwystro llywodraethu effeithiol dro ar ôl tro. I bob pwrpas, tydi Gwlad Belgd dim yn gweithredu fel gwladwriaeth ers tro byd.

Mae yr hyn a ddechreuodd fel oedi dros dro mewn trafodaethau bellach yn arwain at argyfwng cyfansoddiadol dyfnach - un a allai yn y pen draw olygu diwedd Gwlad Belg fel ffederasiwn hyfyw. Yn y cyd-destun hwn, sefydlwyd ICEC-Vlaanderen i lansio melin drafod gyda’r nod o ehangu ymwybyddiaeth gyhoeddus a chefnogaeth i annibyniaeth i Fflandrys. Y bwriad ydi gwneud gwaith ymchwil ac egluro pam mai Fflandrys annibynnol yw’r unig ddewis call i Wlad Belg sydd i bob pwrpas ddim yn gallu cael ei llywodraethu mewn unrhyw ffordd ystyrlon erbyn hyn.

Am ddegawdau, mae cyfaddawd ffederal wedi cuddio ffaeleddau strwythurol; erbyn hyn mae’r mwgwd wedi llithro ac mae’r celwydd hwnnw yn cael ei chwalu. Mae’r amser wedi dod i Fflandrys – ac i Wallonia hefyd – lunio eu dyfodol eu hunain fel cenhedloedd rhydd a chyfrifol. Dim ond drwy annibyniaeth y gall y ddwy wlad ddianc rhag hunllef gwladwriaeth sydd bellach ddim yn gweithio i neb.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.